Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 12fed Ionawr, 2024 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd penodi'r Cynghorydd J Hurley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 166 KB

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 418 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Deddf Cŵn Peryglus 1991: Cwn XL Bully strae ac wedi'u gadael - Newid mewn arfer gweithredol pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi’r adroddiad.

 

8.

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol - Diweddariad gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi’r adroddiad.

 

9.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 418 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid diwygio'r Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy fel a ganlyn:

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Cwmni

Categori

Comcen Computer Supplies Ltd (C076)

61,111

IDNS Ltd (I020)

61,111

 

Cwmnïau a gyflwynodd cais i gael eu cynnwys ar y rhestr ar gyfer categorïau ychwanegol ac sydd wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:

 

Cwmni

Categori

BFL Engineering Services Ltd (B023)

37,38,39,40

 

Cwmnïau i’w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy oherwydd eu statws cwmni ‘yn nwylo gweinyddwyr":

 

Cwmni

Categori

Jehu Project Services Ltd (J014)

14

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr 2024.

 

10.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Rhodfa'r Parc a Siding Terrace (Dirymu) a Gorchymyn (terfyn cyflymder 30 mya) 2023 pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid gwrthod y gwrthwynebiadau i Rodfa'r Parc a Siding Terrace (Dirymu) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023, (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith fel yr hysbysebwyd. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar Rodfa'r Parc a Siding Terrace o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith mewn ardaloedd trefol ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr 2024.

 

 

11.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Lôn y tu ôl i rifau 1 i 17, Stryd y Goron, Port Talbot, Gorchymyn (Dirymu Dim Mynediad) 2023 pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid gwrthod y gwrthwynebiad i'r lôn y tu ôl i rifau 1 i 17 Stryd y Goron, Port Talbot (Dirymu Dim Mynediad) Gorchymyn 2023 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), a rhoi'r cynllun ar waith, fel yr hysbyswyd, a'i fonitro wrth symud ymlaen. Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen dirymu'r gorchymyn rheoleiddio traffig presennol er mwyn sicrhau bod digon o hyfywedd a mynediad ar gyfer cerbydau casglu gwastraff/sbwriel er budd diogelwch ar y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr 2024.

 

 

12.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Ffordd y Dywysoges Margaret, Sandfields, Port Talbot pdf eicon PDF 313 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu'r gorchmynion rheoleiddio traffig Cyfyngiad Aros Cyfyngedig i 2 awr, Dim Dychwelyd o fewn 2 Awr, 8.00am i 8.00pm, 1 Ebrill i 30 Medi gyda thaliad drwy MiPermit neu dros y ffôn am uchafswm arhosiad o 2 awr ac Eithrio Deiliaid Bathodyn Anabledd ar Ffordd y Dywysoges Margaret,  Sandfields, Port Talbot (fel y nodir yn Atodiad A ac Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd); ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u hysbysebir.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchmynion rheoli traffig arfaethedig yn sicrhau trosiant digonol o gerbydau a fydd yn gwella ac yn caniatáu i'r amgylchedd a mwynderau lleol gael eu mwynhau gan genedlaethau'r dyfodol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr 2024.

 

 

13.

Grant Eiddo Masnachol: Hen Glwb y Lleng Brydeinig, Heol Eastland, Castell-nedd pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, a disgrifiad o'r argymhelliad, caiff y grant a nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd ei gymeradwyo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Rhoi darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r meini prawf a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio canol tref Castell-nedd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr 2024.

 

 

14.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

15.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 243 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

16.

Adolygiad o'r Cerbydlu a Depo a Datblygu Cynllun Trawsnewid Cerbydlu 5 mlynedd - Penodi Ymgynghorwyr (Wedi'i Eithrio o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

1.   Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, gomisiynu gwasanaethau ymgynghori mewn perthynas ag Adolygiad o'r Cerbydlu a datblygu 'adolygiad' o ffrwd waith y cynllun trawsnewid cerbydlu 5 mlynedd a nodwyd fel rhan o gynllun ariannol tymor byr a chanolig y Cyngor;

2.   rhoi caniatâd i ddatgymhwyso Rheol 7.3 o Reolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor a dyfarnu contract i ymgynghorwyr yn uniongyrchol; EDGE Public Solutions, drwy Fframwaith Ymgynghori ESPO sector cyhoeddus; a

3.   rhoi cymeradwyaeth i'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, gwblhau'r cytundeb angenrheidiol a'r dogfennau cysylltiedig, gan ddefnyddio Fframwaith ESPO er mwyn hwyluso'r hyn a nodwyd uchod.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd Awdurdod Dirprwyedig yn sicrhau caffael brys o ymgynghorwyr i gynnal momentwm wrth drawsnewid y gwasanaeth cerbydlu a sicrhau systemau newydd addas a fydd yn cynnal y gwasanaeth cerbydlu a rheng flaen. Bydd hyn hefyd yn rhoi ateb ar unwaith i'r Cyngor i leddfu'r pwysau ar adnoddau mewnol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr 2024.