Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 6ed Hydref, 2023 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd penodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 421 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

5.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn

hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n

rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau

6.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 418 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, caiff y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ei diwygio fel a ganlyn:-

 

Cwmnïau a fydd yn cael eu hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy, sydd wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-

 

Cwmni

Categori

 

Velta Construction Ltd (V014)

71,72,76,80

Platinum Security Management Ltd (P056)

3

Algeco Storage Ltd (M053)

10

 

Cwmnïau a fydd yn cael eu tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy oherwydd methiant i fodloni meini prawf Iechyd a Diogelwch CBSCNPT:-

 

Cwmni

Categori

 

Atom Electrical Contractors (A059)

43,50,70

W & B A Carpets (W029)

18,18A,18B,18C,18D,32

Roger Jones & Sons (J011)

16,51,111

Thortech Ltd (T022)

80,81,92,111

Dyfed Alarms (D028)

47,48,49

Fastec Electrical Services Ltd (F014)

22,41,43,47,48,49,68,70

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 10 Hydref 2023.

 

7.

Pen Y Dre, Castell-nedd Gorchymyn (Dirymu Aros Cyfyngedig, 1 awr, Gwahardd dychwelyd o fewn 2 awr, Dydd Llun i ddydd Sadwrn, 8AM i 6PM, ac eithrio deiliaid hawlen) 2022 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

·       Bydd y gwrthwynebiadau'n cael eu cadarnhau o ran Gorchymyn Pen-y-Dre, Castell-nedd (Diddymu Gorchymyn Aros Cyfyngedig, 1 Awr, Dim Dychwelyd o fewn 2 Awr, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 8AM tan 6PM, ac Eithrio Deiliaid Hawlenni) 2022 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a chaiff y cynllun ei dynnu'n ôl.

 

·       Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Bydd y gorchymyn yn parhau i fod ar waith o ganlyniad i argaeledd cyfyngedig parcio ar gyfer preswylwyr ym Mhen-y-Dre, Castell-Nedd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 10 Hydref 2023.

 

8.

Mesurau Arafu Traffig yn y B4434 Tonna Uchaf - Gorchymyn Cylchfan bach, Cyffordd Heol Caredig a Chyffordd Pen Y Bryn 2023 pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

·       Gwrthod y gwrthwynebiad i Orchymyn Mesurau Tawelu Traffig yn B4434 Tonna Uchaf - Cylchfan Bach, Cyffordd Heol Caredig a Chyffordd Pen-y-bryn 2023 (fel y manylir yn Atodiad A, B a C i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith fel yr hysbysebwyd.

 

·       Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Roedd angen y llwyfannau arafu arfaethedig er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 10 Hydref 2023.

 

9.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2023/2024 - Chwarter 1 (1 Ebrill 2023 - 30 Mehefin 2023) pdf eicon PDF 371 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Nodi’r adroddiad.

 

10.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Derbyniwyd 3 eitem brys.

11.

Cytundeb arfaethedig ar gyfer prydlesu a phrydlesu uned fanwerthu 2 o fewn y datblygiad hamdden a manwerthu newydd yng nghanol tref nedd i drefi bychain

Cofnodion:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

 

·       Bydd yr aelodau’n cymeradwyo cytundeb am brydles a'r brydles yn ôl y telerau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Bydd caniatáu'r cytundeb am brydles a'r brydles yn caniatáu i'r safle gwag hwn sydd mewn lleoliad amlwg gael ei osod a'i weithredu gan gwmni lleol a darparu incwm blynyddol i'r cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 10 Hydref 2023.

 

 

12.

Prydles arfaethedig ar hen safle manwerthu cyfyngedig wilko sy'n cynnwys rhan o'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf yn y maes parcio aml-stroe yng nghanol tref Castell-nedd i CDS (archfarchnadoedd rhyngwladol) cyfyngedig t/a Yr amrdiad

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

·       Bydd aelodau'n cymeradwyo'r brydles yn ôl y telerau a nodwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar ganiatâd Llywodraeth Cymru.

 

·       Yn amodol ar y brydles bresennol gan y cwmni'n dod i ben o ganlyniad i hysbysiad ymadael neu ddull arall o derfyniad.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Bydd caniatáu'r brydles yn caniatáu i'r safle gwag hwn sydd mewn lleoliad amlwg, a fydd yn wag yn fuan, gael ei osod a'i weithredu gan gwmni lleol a darparu incwm blynyddol i'r cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 10 Hydref 2023.

 

 

13.

Ildio prydles bresennol a rhoi cytundeb newydd ar gyfer prydlesu ciosg arlwyo a thir cyfagos ym mhen gorllewinol glan mor Aberafan Port Talbot

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

 

·       Bydd aelodau'n cymeradwyo'r amodau a thelerau diwygiedig ar gyfer ildio'r brydles bresennol ar gyfer y ciosg arlwyo a'r tir cyfagos.

 

·       Caniatáu'r cytundeb am brydles a'r brydles er mwyn hwyluso ailddatblygiad cyfleuster ciosg arlwyo newydd yn ochr orllewinol Glan Môr Aberafan, Port Talbot.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Er mwyn galluogi'r tenant i ailddatblygu a darparu cyfleuster ciosg arlwyo gwell newydd ar ben gorllewinol Glan Môr Aberafan er lles yr ymwelwyr a'r awdurdod lleol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith.