Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 14eg Gorffennaf, 2023 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

 Eglurwyd bod Eitem 14 o'r pecyn agenda a gylchredwyd wedi'i gohirio o'r cyfarfod hwn oherwydd yr angen am ragor o wybodaeth er mwyn ystyried yr adroddiad.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 196 KB

·        14 Ebrill 2023

·        2 Mehefin 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2023 a 2 Mehefin 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 506 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, caiff y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ei diwygio fel a ganlyn:-

 

Mae'r cwmnïau canlynol wedi pasio'r asesiadau gofynnol i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Cwmni

Categori

Afan Treescapes Ltd (A075)

101, 111

Integrex Cyf (I018)

61, 111

 

Caiff y cwmni canlynol ei dynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy, oherwydd natur ei fusnes; Ymgynghorydd Garddwriaethol. Nid yw gwaith ymgynghori yn dod o dan gylch gwaith y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Cwmni

Categori

ArbTS (A046)

107

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro o fewn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023.

 

8.

Gorchymyn Heol y Pentref, Gerddi'r Pentref, Pentre Afan a Gerddi Brooklyn (Dirymu, Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg a (Gwahardd Cerbydau Modur ac Eithrio Mynediad) 2023 pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad

 

·        Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, fod y gwrthwynebiadau i Orchymyn Heol y Pentref, Gerddi'r Pentref, Pentre Afan a Gerddi Brooklyn (Dirymu, Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg a (Gwahardd Cerbydau Modur ac Eithrio Mynediad) 2023 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) yn cael eu cadarnhau'n rhannol.

·        Bod y cynllun yn cael ei roi ar waith fel y'i hysbysebwyd, ac yr ymgynghorir ar gynllun ychwanegol (fel y manylir yn Atodiad B i'r adroddiad a gylchredwyd).

·        Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Roedd y Gorchmynion yn angenrheidiol er mwyn atal parcio diwahaniaeth er mwyn diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023.

 

9.

Arian Cyfalaf y Strydlun 2023/24 pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig cam cyntaf, fod y dyraniadau cyllid arfaethedig a nodir yn yr adroddiad a gylchredwyd yn cael eu cymeradwyo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Penderfynu ar gynigion gwariant mewn perthynas ag arian 'Gwella Strydlun yr Amgylchedd' sydd wedi'u cynnwys yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023-24.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023.

 

10.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2022/2023 - Chwarter 4 (1 Ebrill 2022 - 31 Rhagfyr 2023) pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

11.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)  Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r mater a gynhwysir yng Nghofnodion Rhif 12 ac 13 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid eu trafod yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rheswm

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

12.

Ychwanegiad at Ffioedd a Thaliadau Gofal Strydoedd 2023/2024 pdf eicon PDF 414 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad integredig cyntaf, fod tâl gwastraff masnachol ychwanegol sy'n ymwneud â Gwastraff Gardd Gwyrdd/Torri Coed ar gyfradd o £56.34 y dunnell fetrig yn cael ei gymeradwyo i'w roi ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Cytuno ar dâl gwastraff masnachol ychwanegol am waredu gwastraff gardd a gynhyrchir yn fasnachol i'w ailgylchu.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023.

 

13.

Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol Arfaethedig – Tir ac Adeiladau ym Mhontneddfechan

Cofnodion:

Penderfyniadau

 

·        Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad sgrinio effaith integredig, fod yr Aelodau'n rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i ddechrau'r gwaith sy'n angenrheidiol i baratoi ar gyfer pwerau'r Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol i'w defnyddio gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot mewn perthynas â'r tir ac adeiladau ym Mhontneddfechan, i hwyluso Prosiect Cronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

·        Bod adroddiad yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Aelodau i'w gymeradwyo i ofyn am y Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol ar yr adeg briodol.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Sicrhau y gallai'r cyngor gyflawni prosiect Cronfa Codi'r Gwastad Pontneddfechan.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023.

 

14.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 246 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

15.

Grant Eiddo Masnachol, Grant Creu Lleoedd, Cronfa Datblygu Eiddo a'r Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi - Dyfarniad Uniongyrchol ar gyfer Gwasanaethau Mesur Meintiau (yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Ar ôl rhoi sylw i'r Asesiad Effaith Integredig, fod y cyngor yn cael sêl bendith i wneud dyfarniadau uniongyrchol i Faithful and Gould ac AHR Architects Ltd, ar gyfer gwasanaethau Mesur Meintiau dros dro ar gyfer prosiectau'r Grant Eiddo Masnachol, y Grant Creu Lleoedd, y Gronfa Datblygu Eiddo a'r Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi nes bod y broses gaffael gystadleuol yn cael ei chwblhau.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Cynorthwyo Adfywio i gwblhau prosiectau'r Grant Creu Lleoedd, y Gronfa Datblygu Eiddo a'r Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi tra bod y cyllid cyfyngedig yn dal i fod ar gael dros y ddwy flynedd ariannol nesaf

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023.

 

 

16.

Cytundeb opsiynau ar gyfer caniatáu hawddfraint am byth ar gyfer lledaenu ffordd a gwaith cyfarpar trydanol mewn perthynas â datblygiad arfaethedig Fferm Wynt Mynydd Fforch Dwm yn Nhonmawr, Port Talbot a'r cyffiniau (yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Bod yr adroddiad yn cael ei ohirio.

 

17.

Cytundeb arfaethedig ar gyfer prydlesu Uned Manwerthu 3 yn Natblygiad Manwerthu a Hamdden newydd Canol Tref Castell-nedd i Cherry Blossom Company Limited (yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, fod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi ar gyfer cytundeb am brydles, a phrydles yn ôl y telerau a nodir yn yr adroddiad a gylchredwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Bydd caniatáu'r cytundeb am brydles a'r brydles yn caniatáu i'r safle gwag hwn sydd mewn lleoliad amlwg gael ei osod a'i weithredu gan gwmni lleol a darparu incwm blynyddol i'r cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023.

 

 

18.

Cytundeb arfaethedig am brydles a phrydlesu rhan o'r hen Ardal Gynhyrchu yn The Metal Box Castell-nedd i Three Sixty Aquaculture Limited (yn eithriedig dan baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad

 

·        Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, fod cam cyntaf, fod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi ar gyfer cytundeb am brydles, a phrydles yn ôl y telerau a nodir yn yr adroddiad a gylchredwyd;

·        Bod Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor yn cael eu heithrio'n unol â rheol 5, a bod y Pennaeth Eiddo ac Adfywio yn cael awdurdod dirprwyedig i ddyfarnu contract yn uniongyrchol i Andrew Scott Ltd ar gyfer y gwaith sydd ei angen yng ngweddill yr uned gynhyrchu.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Bydd caniatáu'r Cytundeb am brydles a'r brydles yn caniatáu i ran sylweddol o'r hen Ardal Gynhyrchu gael ei hadnewyddu, ei hailwampio, ac yna'i gosod i gwmni lleol dyfu ac ehangu a darparu incwm blynyddol i'r cyngor. Bydd dyfarnu'r contract ar gyfer gwaith yn uniongyrchol yn rhoi gwerth am arian i'r cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023.

 

 

19.

Cytundeb am Brydles, Prydles Tir, Trwydded i Adeiladu ac Opsiwn i Brynu Tir ac Adeiladau y'u hadwaenir fel hen Safle'r Llaethdy gerllaw Cribbs Row, Castell-nedd - Zoars Limited (yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, fod yr amodau a thelerau diwygiedig ar gyfer caniatáu'r Cytundeb am Brydles, Prydles Tir, Trwydded i Adeiladu ac Opsiwn i Brynu i gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chynllun llwybrau teithio llesol arfaethedig y cyngor, fel y nodir yn yr adroddiad uchod, yn cael eu cymeradwyo. Byddai hyn yn amodol ar ddarpariaeth y ceir cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chydymffurfio â'r trefniadau arian grant cyn i'r cyngor ymrwymo i'r dogfennau perthnasol, ac os bydd angen ad-dalu'r arian grant, ni fydd hyn yn fwy na neu'n ofynnol cyn y symiau sydd i'w derbyn gan Zoars Ltd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Bydd y Cytundeb am Brydles, Prydles Tir, Trwydded i Adeiladu ac Opsiwn i Brynu yn galluogi busnes lleol sefydledig i ddatblygu ac ehangu ei fusnes trwy fuddsoddiad ariannol sylweddol ac yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chynllun llwybrau teithio llesol arfaethedig y cyngor er budd  cymuned Castell-nedd a'r gymuned ehangach.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023.