Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 2ail Mehefin, 2023 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamb

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd penodi'r Cynghorydd J Hurley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 262 KB

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 475 KB

Cofnodion:

Nodi'r Flaenraglen Waith.

 

6.

Amser Cwestiynau gan y Cyhoedd

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 415 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, diwygio'r Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy i gynnwys y cwmnïau canlynol gan eu bod wedi pasio'r asesiadau gofynnol:

 

Cwmni

Categori

The Arb Team (T040)

101

NewSpace Containers Ltd (N018)

10

Crushed 2 Rubble (C075)

77,102,111

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Mehefin 2023.

 

8.

Y B4242 Heol Pontneathvaughan a'r Stryd Fawr (Dirymu) (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg) a (Gwahardd Aros ar y Droedffordd ar Unrhyw Adeg) - Gorchymyn 2023 pdf eicon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

·        Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, bod y gwrthwynebiad yn cael ei wrthod mewn perthynas â'r B4242 Heol Pontneathvaughan a'r Stryd Fawr (Dirymiad) (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg), a (Gwahardd Aros ar y Droedffordd ar Unrhyw Adeg) - Gorchymyn 2023.

·        Rhoi'r cynllun ar waith, fel yr hysbyswyd, a'i fonitro wrth symud ymlaen.

·        Hysbysu’r gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Mae'r Gorchmynion yn angenrheidiol er mwyn atal parcio diwahaniaeth er budd diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Mehefin 2023.

 

9.

Ystyried argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar adroddiad adolygu opsiynau parcio 2023 pdf eicon PDF 369 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau y cynnig a dderbyniwyd gan Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Cymdogaeth, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, gan ychwanegu'r canlynol at yr argymhellion: 'bod oriau gweithredu'r parth cerddwyr yng Nghastell-nedd yn cael eu hadolygu yn y dyfodol.' Cytunwyd y byddai ymateb yn cael ei baratoi a'i anfon at Gadeirydd y Pwyllgor Craffu.

 

Penderfyniad:

 

Nodi’r adroddiad.

 

10.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)  Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

 

11.

Mynediad i gyfarfodydd pdf eicon PDF 244 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

12.

Contract trin gwastraff bwyd

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr asesiad effaith integredig, cymeradwywyd y penderfyniad i wahardd Rheolau Gweithdrefnau Contractau (RhGC) y cyngor a dyfarnu contract dwy flynedd uniongyrchol i Biogen ar gyfer trin gwastraff bwyd, yn unol â'u dyfynbris o £42 o incwm fesul tunnell.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau triniaeth barhaus o wastraff bwyd a gesglir gan wneud incwm sylweddol uwch.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Mehefin 2023.

 

13.

Caffael Capel Soar Maes-yr-haf Castell-nedd (eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, cymeradwyo'r cynnig arfaethedig i gaffael y capel.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau bod y cyngor yn caffael safle strategol, yn unol â'i gynigion cyffredinol i adfywio canol y dref.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Mehefin 2023.

 

14.

Adleoli'r Cerbydlu - Penodi Ymgynghorwyr (eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo dyfarnu contract Ymgynghorwyr uniongyrchol ar gyfer gwaith mewn perthynas ag adleoli'r cerbydlu casglu yng Ngorsaf Trosglwyddo Gwastraff Crymlyn Burrows, i SLR Consulting Ltd ar gyfer cyfnod o flwyddyn y prosiect ar gyfer gwasanaethau a nodir yn yr adroddiad.

 

Rhoi cymeradwyaeth i swyddogion gwblhau'r cytundeb angenrheidiol a'r dogfennau cysylltiedig ar gyfer Fframwaith EPSO y sector cyhoeddus at yr un dibenion.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Hwyluso cynnydd y gwaith i Adleoli'r Cerbydlu Casglu a gytunwyd yn flaenorol gan Aelodau a lleihau risgiau’r prosiect.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Mehefin 2023.