Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid in Council Chamber

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 171 KB

·        6 Hydref 2022

·        28 Hydref 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2022 a 28 Hydref 2022 fel cofnodion cywir.

 

 

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 406 KB

Cofnodion:

Nodi'r Flaenraglen Waith.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Cynllun Ysgol Godre'r Graig pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd yr aelodau yr Asesiad Effaith Integredig diwygiedig.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig:

 

Y bydd Opsiwn 3 yn cael ei rhoi ar waith i reoli'r risg a gwella'r amgylchedd lleol, gyda’r gost yn cael ei hariannu gan Gronfa Wrth Gefn Gorfforaethol y cyngor, neu drwy unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael yn y dyfodol.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I reoli'r risgiau a'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â llif malurion o domenni gwastraff ar y safle, gan mai dyma'r unig ateb fforddiadwy sydd ar gael i'r cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

8.

Rhaglen Gwaith Ychwanegol pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

·        Y bydd y rhaglen o wariant, fel y nodir yn Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei chymeradwyo i'w chwblhau dros y 18 mis nesaf

·        Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r aelod perthnasol o'r cabinet, i ymgymryd â chaffael a/neu lunio rhaglenni sy'n seiliedig ar anghenion cysylltiedig sy'n cael eu blaenoriaethu a'u rhoi ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Darparu offer ar gyfer darparu gwasanaethau a chynnal asedau y mae'r cyngor yn gyfrifol amdanynt, er mwyn helpu i fynd i'r afael â phryderon y gymuned mewn perthynas â'r amgylchfyd trefol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

9.

Siarter Teithio'n Iach pdf eicon PDF 560 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, cymeradwyo bod y cyngor yn dod yn un o lofnodwyr Siarter Teithio Iach Bae Abertawe. 

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Mae'r siarter yn ceisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd lleol drwy leihau'r defnydd a'r ddibyniaeth ar beiriannau tanio mewnol; i geisio gwneud staff yn fwy heini (yn unol â Deddf Teithio Llesol Cynulliad Cymru) i leihau anweithgarwch, gordewdra a rhoi hwb i'w lles.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

10.

Parcio ar gyfer Nadolig 2022 pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig:

 

Bydd hawl i barcio am ddim ym meysydd parcio talu ac arddangos Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe rhwng dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 2022 a dydd Sul 1 Ionawr 2023 (ac eithrio meysydd parcio'r Gnoll, Parc Gwledig Coedwig Afan a Glan Môr Aberafan).

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn cefnogi economi canol y dref, cydnabyddir y byddai darparu parcio am ddim i geir dros y Nadolig yn cefnogi ei hadferiad ymhellach.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

11.

Dileu rhan o lwybr troed Rhif 21, Cilybebyll pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig, cyflwyno Gorchymyn Diddymu Llwybr Cyhoeddus yn unol ag adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980 ar gyfer y llwybr a ddangosir fel A-B ar y cynllun sy’n atodedig i’r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na wneir unrhyw wrthwynebiadau, cadarnhau'r gorchymyn fel y gwnaed.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

·        Nid oes angen llwybr o’r hyd hwn at ddefnydd y cyhoedd o ystyried bod llwybr addas arall drwy'r llwybr A-C sy'n ymuno â'r droedffordd ochr yn ochr â Heol y Graig sy'n cysylltu â phwynt C.

·        Nid yw hyd gwreiddiol llwybr A-B ar gael mwyach ac mewn unrhyw achos mae graddiant y clawdd o'r tai y tu cefn i'r ffordd bengaead hyd at bwynt B yn fwy serth na thrwy'r droedffordd hyd at bwynt C.

·        Nid oes llwybr addas arall ar gyfer hyd A-B.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

12.

Gorchmynion Dileu ar gyfer rhan o lwybr troed Rhif 38 Cilybebyll pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig, cyflwyno Gorchymyn Diddymu yn unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir fel C-C1-D ar y cynllun sy’n atodedig i’r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau i'r gorchymyn, yna cadarnhau'r gorchymyn fel y gwnaed.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

·        Mae angen datrys y mater o'r hyd yma o lwybr sy'n croesi dros ddwy ardd.

·        O ganlyniad i'r datblygiad tai, collwyd y llwybr gwreiddiol trwy’r cae, ond gellir cael mynediad ar draws y safle o Heol Castell-nedd i lwybr cyhoeddus rhif 39 o hyd ar hyd ffyrdd yr ystâd yn bennaf.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

13.

Dargyfeirio llwybr troed rhif 14 - Cwmafan pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig, cyflwyno Gorchymyn Dargyfeirio llwybr cyhoeddus yn unol ag Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir fel A-B-C-D i A-E-D ar gynllun rhif 1 yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, yna cadarnhau'r gorchymyn fel y gwnaed.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn bodloni'r rhesymau dros wneud y gorchymyn dan brofion hwylustod gan y bydd yn gwella preifatrwydd i’r preswylwyr sy'n byw yn agos at y llwybr ac ni fydd y dargyfeiriad yn cael unrhyw effaith sylweddol ar fwynhad o’r llwybr yn ei gyfanrwydd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

 

 

14.

Grant Eiddo Masnachol - 5 The Ropewalk, Castell-nedd pdf eicon PDF 716 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig a disgrifiad o'r argymhelliad, y bydd y grant yn cael ei gymeradwyo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Rhoi darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r meini prawf a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio canol tref Castell-nedd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

15.

Siding Terrace, Lôn Las, Sgiwen (Dirymu) a Gwahardd Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw Adeg, Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg, a Deiliaid Hawlen Barcio i Breswylwyr yn Unig - Gorchymyn Rheoleiddio Traffig 2022 pdf eicon PDF 312 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·       Caiff y gwrthwynebiadau eu cadarnhau ar gyfer Siding Terrace, Lôn Las, Sgiwen - (Dirymu) a (Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg, Gwahardd Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw Adeg, a Deiliaid Hawlen Barcio i Breswylwyr yn Unig) (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a bod y cynllun diwygiedig (fel y manylir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd) yn cael ei roi ar waith ar y safle.

·       Caiff y gwrthwynebwyr eu hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Gwella'r cynllun parcio presennol i breswylwyr.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

16.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 404 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

Bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei diwygio fel a ganlyn:-

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy

 

Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:

 

Cwmni

Categori

 

Newport Recycling Ltd (N017)

6

Gavin Griffiths Recycling Ltd (G036)

6,7,111

Probe Industries Ltd (P054)

111

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

·        Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

·        Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

 

17.

Perfformiad Chwarter 2 pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

18.

Eitemau brys

Any urgent items (whether public or exempt) at the discretion of the Chairperson pursuant to Statutory Instrument 2001 No. 2290 (as amended).

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

19.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 242 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol.

 

20.

Prydlesu Uned 1 Datblygiad Canol Tref Castell-nedd

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig cam cyntaf, cymeradwyo rhoi'r brydles yn ôl y telerau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd rhoi'r brydles yn caniatáu i'r safle gwag hwn sydd mewn lleoliad amlwg i gael ei osod a'i weithredu gan gwmni sector hamdden mawr a darparu incwm blynyddol i'r cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.