Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 3ydd Mawrth, 2023 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybird meeting in Council Chamber

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 41 KB

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 407 KB

Cofnodion:

Nodi'r Flaenraglen Waith.

 

6.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Priffyrdd a Chludiant - Rhaglen Waith 2023/2024 pdf eicon PDF 373 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo'r rhaglen waith, fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a ddosbarthwyd ar gyfer 2023/2024.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn cynnal asedau y mae'r cyngor yn gyfrifol amdanynt a mynd i'r afael â phryderon y gymuned mewn perthynas â'r un peth.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd Cymorthfeydd Aelodau gydag Aelodau Ward Lleol fel rhan o baratoi'r rhaglen.

 

8.

Rhaglen Caffael Cerbydlu a Pheiriannau Trwm 2023/24 pdf eicon PDF 710 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd diwygiadau awgrymedig i argymhellion Swyddogion gan y Pwyllgor Craffu blaenorol, fel y nodwyd isod mewn teip trwm:

 

1.           Bod Aelodau'n cymeradwyo prynu'r cerbydau heb allyriadau yn y Rhaglen Caffael Cerbydau/Peiriannau arfaethedig ar gyfer 2023/24 fel y nodir yn atodiad A.

 

2.           Rhoi Awdurdod Dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd i brynu unrhyw gerbydau heb allyriadau er mwyn sicrhau argaeledd arian grant a all fod ar gael i gynorthwyo gyda chost prynu'r cerbydau.

 

3.           Bod prynu cerbydau sy'n cael eu pweru gan danwyddau ffosil, sydd wedi'u cynnwys yn atodiad A, ac unrhyw gerbydau ychwanegol, yn destun adroddiadau pellach i fwrdd y cabinet i'w cymeradwyo, gyda chyfiawnhad o ran pam nad oes modd prynu dewis arall heb allyriadau.

 

Ar ôl derbyn cyngor gan swyddogion, nododd Aelodau'r Cabinet nad oedd rhai cerbydau arbenigol (fel cerbydau JCB) ar gael ar hyn o bryd fel amrywiolion heb allyriadau. Eglurodd swyddogion y byddai derbyn argymhellion y Pwyllgorau Craffu yn niweidiol i gyflwyno gwasanaethau, ac y byddai'n ychwanegu cryn oedi i'r rhaglen gaffael. Am y rhesymau hyn, ac er bod Aelodau'r Cabinet yn deall pryderon y Pwyllgor Craffu, dewisodd Bwrdd y Cabinet beidio â chefnogi'r diwygiadau a wnaed gan y Pwyllgor Craffu.

 

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig -

 

1.           Cymeradwyo'r Rhaglen Caffael Cerbydau/Peiriannau ar gyfer 2023/24, fel y nodir yn atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.           Rhoi'r Awdurdod Dirprwyedig i'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd i brynu unrhyw gerbydau er mwyn sicrhau argaeledd arian grant a all fod ar gael i gynorthwyo gyda chost prynu'r cerbydau.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

1.           Bydd y cerbydau a'r peiriannau trwm newydd naill ai’n rhai heb unrhyw allyriadau, yn hybrid-drydan neu o safon Ewropeaidd uwch, a fydd yn galluogi'r cerbydlu i fod yn fwy effeithlon o ran tanwydd drwy ddefnyddio llawer llai o danwydd a lleihau ôl troed carbon y cyngor drwy leihau allyriadau.

 

2.           Mae Gwasanaeth y Cerbydlu ar y cyd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o Gerbydlu'r Cyngor i sefydlu'r defnydd o fewn adrannau a lle mae cyfleoedd i gyflwyno cerbydau a pheiriannau trydan llawn a rhai eraill heb allyriadau i leihau ymhellach allyriadau carbon y cyngor yn unol â Chynllun Trawsnewid Cerbydlu'r cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

9.

Gorchymyn Traffig - Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd - Gwahardd aros pdf eicon PDF 317 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cefnogi’n rhannol y gwrthwynebiadau i'r B4242 Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd – Gorchymyn Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg Arfaethedig, a Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros Ar y Troedffordd ar Unrhyw Adeg Arfaethedig 2022 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), ac ymgynghorir ar gynllun diwygiedig hefyd (fel y manylir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd), ac os na chaiff unrhyw wrthwynebiadau eu   derbyn, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u hysbysebir.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

10.

Gorchymyn Traffig - Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd - Cyfyngiad Cyflymder 30mya pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, diystyru'r gwrthwynebiad i'r B4242 Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd (Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2022 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), rhoi'r cynllun ar waith fel y'i hysbysebir, a hysbysu’r gwrthwynebydd am y penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Mae angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar y B4242 Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

11.

Gorchymyn Traffig - Y Cymer i Lyncorrwg pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi'r C250 o Gymer i Lyncorrwg (Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2022 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ar waith fel y'i hysbysebir, diystyru'r gwrthwynebiad, a hysbysu'r gwrthwynebydd yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Mae angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar rannau o'r C250 o'r Cymer i Lyncorrwg o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

12.

Gorchymyn Traffig - Ffordd Amazon a ffyrdd amrywiol eraill pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo hysbysebu'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 30 mya sy'n gysylltiedig â Ffordd Amazon, ac unrhyw Eithriadau Terfyn Cyflymder 30 mya ychwanegol y mae eu hangen o fewn ardal weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot sy'n gysylltiedig â Chyflwyno Terfyn Cyflymder Diofyn 20mya Llywodraeth Cymru 2023 (fel y nodir yn Atodiad A ac Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd) yn unol â'r gofynion statudol.

 

2.           Rhoi'r cynlluniau ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol sydd wedi'u cynnwys o fewn Rheoliadau Traffig y Ffordd presennol, os na cheir unrhyw wrthwynebiadau, ac os bydd unrhyw wrthwynebiadau yn cael eu derbyn mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau, bydd y rhain yn cael eu hadrodd yn ôl i Fwrdd Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet am benderfyniad.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn newid y llwybrau strategol yn ôl i derfyn cyflymder o 30mya ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn 20mya yn genedlaethol er mwyn cynnal llif y traffig ar y prif rwydwaith ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgymerir ag ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.

 

13.

Gorchymyn Traffig - Amrywiaeth o fannau parcio unigol i'r anabl pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo hysbysebu gorchmynion rheoleiddio traffig Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl, ar gyfer y lleoliadau amrywiol, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoi'r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebir.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Mae angen y lleoedd parcio unigol i'r anabl oherwydd mae'r preswylwyr yn bodloni'r holl feini prawf y mae eu hangen ar gyfer lleoedd parcio unigol i'r anabl, i'w gosod mewn lleoliadau amrywiol ar draws y Fwrdeistref.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgymerir ag ymarfer ymgynghori pan gaiff pob cynllun ei hysbysebu.

 

14.

Gorchymyn Traffig - Ar gyfer y Gwasanaethau Rheoli Gwastraff pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r cyfyngiadau 'Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg' (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad cylchredeg) ac os na chaiff unrhyw wrthwynebiadau eu derbyn, gweithredir y cynigion ar y safle fel y'u hysbysebir.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn atal parcio diwahaniaeth wrth gyffyrdd er budd diogelwch ffyrdd gan sicrhau digon o allu i symud a mynediad ar gyfer cerbydau casglu gwastraff/sbwriel.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgymerir ag ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynlluniau eu hysbysebu.

 

15.

Gorchymyn Traffig - Heol y Pentref, Gerddi'r Pentref a Heol Pentre Afan, Aberafan pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo hysbysebu’r croesfan toucan uchel arfaethedig, gorchmynion rheoleiddio traffig a mesurau tawelu traffig (fel y nodwyd yn Atodiad A ac Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, dylid rhoi'r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebir.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

1.           Bydd y groesfan toucan uchel arfaethedig yn darparu man croesi diogel i gerddwyr a beicwyr er budd diogelwch ffyrdd.

 

2.           Bydd y mesurau tawelu traffig arfaethedig yn arafu traffig cerbydau ac mae eu hangen er budd diogelwch ffyrdd.

 

3.           Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal parcio diawahaniaeth ac yn hwyluso hynt traffig cerbydau er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgymerir ag ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.

 

16.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 404 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a ganlyn:-

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy

 

Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-

 

Cwmni

Categori

 

Parkside Professional Services (P055)

15, 19, 89 (hyd at £25K)

Thermascan Ltd (T039)

47

JCW Energy Services Ltd (J021)

37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 47

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Cadw'r Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy’n gyfoes a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol, ac at ddibenion cyflenwi Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy am wahoddiad i dendro o fewn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

17.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2022/2023 - Chwarter 3 pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad monitro.

 

18.

Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu'r Strategaeth Gwastraff (i ddilyn) pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau gopi o'r adroddiad a baratowyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen Gwastraff a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Craffu ar  Wasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun.

 

Penderfyniad:

 

Paratoi adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Craffu ar Wasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun sy'n cynnwys ymateb Bwrdd y Cabinet i'r materion a godwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I helpu'r cyngor i gyrraedd y targed ailgylchu statudol nesaf, sef 70% yn 2024/25.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

19.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd. 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

20.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

21.

Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol (Yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, eithrio Rheolau Gweithdrefn y Contract yn unol â rheol 5, a rhoi'r awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth ymestyn y contractau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol presennol sy'n dod i ben ym mis Gorffennaf 2023, am gyfnod o ddwy flynedd ychwanegol hyd at Orffennaf 2025.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I sicrhau nad yw cyllideb y cyngor yn cael ei heffeithio'n ddireswm gan gostau chwyddedig artiffisial sy'n cael eu cyflwyno o ganlyniad i'r diffyg cystadleuaeth yn y farchnad drafnidiaeth bresennol a'r hinsawdd economaidd. Bydd hefyd yn darparu sicrwydd a diogelwch i weithredwyr sy'n gweithio i CBSCNPT.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.