Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 28ain Hydref, 2022 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybird meeting in Council Chamber

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

 

5.

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig ar gyfer Terfyn Cyflymder o 30mya yn gysylltiedig â bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20mya ar draws y wlad. pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd swyddogion fod y trydydd paragraff o dan adran 'Asesiad Effaith Integredig' yr adroddiad a gylchredwyd wedi'i gynnwys trwy gamgymeriad, ac ni ddylid ei ystyried fel rhan o'r adroddiad.

 

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith sgrinio integredig:

1.   Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i hysbysebu'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 30mya sy'n gysylltiedig â bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn genedlaethol yn 2023 (fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) yn unol â'r gofynion statudol.

2.   Bod y cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a gynhwysir yn y Rheoliadau Traffig Ffyrdd cyfredol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau. Os bydd unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau, adroddir yn ôl am y rhain wrth Fwrdd Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet am benderfyniad.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn newid y llwybrau strategol yn ôl i derfyn cyflymder o 30mya ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn 20mya yn genedlaethol er mwyn cynnal llif y traffig ar y prif rwydwaith ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd 2022.

 

6.

Y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol pdf eicon PDF 624 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod gwall wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a gylchredwyd, a chyfeiriwyd ato yn y drafodaeth a gynhaliwyd yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, a gynhaliwyd cyn cyfarfod Bwrdd y Cabinet.

 

Penderfyniadau:

 

Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr Aelodau'n gefnogol o ychwanegu rhif 4 at yr argymhelliad, fel y nodir isod:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

 

1.   Bod y Cyngor yn cymryd rhan ym mhrosiect Y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol (CATG) ac yn llofnodi'r Cytundeb Dosbarthu Data mewn perthynas ag Opsiwn 2 yn yr adroddiad a gylchredwyd;

2.   Bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, yn cael ei awdurdodi i lofnodi'r Cytundeb Dosbarthu Data ar ran y cyngor;

3.   Petai pwysau refeniw yn deillio o gymryd rhan yn y prosiect mewn perthynas ag Opsiwn 2, byddai angen nodi cyllid o fewn y gyllideb bresennol ar gyfer yr Amgylchedd ac Adfywio petai parhad yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth;

4.   Bod adolygiad ar gostau a manteision opsiwn 2, a gynhwysir yn yr adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei ddwyn yn ôl i Bwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ym mis Ebrill 2024 sy'n manylu ar barhad posib y cynllun.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Penderfynu ar yr ymateb i gais i ymuno â

Chofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol Llywodraeth y DU.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd 2022.

 

7.

Gorchymyn Diddymu Arfaethedig ar gyfer rhannau o lwybrau troed Rhifau 85, 86 ac 87 yn Fferm Gelliwarog pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig:

1.   Bod Gorchymyn Diddymu llwybr cyhoeddus yn cael ei wneud yn unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir A-F-B-B ac F-G-H-I-E a ddangosir ar y cynllun atodedig yn Atodiad 2 o'r adroddiad a gylchredwyd. Bod y gorchymyn hwn hefyd yn cael ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau iddo.

2.   Bod Gorchymyn Creu llwybr cyhoeddus yn cael ei wneud yn unol ag Adran 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir fel A-B ac C-D-E a ddangosir ar y cynllun atodedig yn Atodiad 2 yr adroddiad a gylchredwyd. Bod y gorchymyn hwn hefyd yn cael ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau iddo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Gwneir y gorchmynion hyn gan yr ystyrir ei fod yn fuddiol symud cyffordd y tri llwybr hyn o fuarth fferm Gelliwarog a darparu mynediad ffurfiol i'r cyhoedd ar draws y tir yn lle'r hydoedd presennol sydd dan sylw.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd 2022.

 

8.

Gorchymyn Diddymu Arfaethedig ar gyfer rhannau o lwybr troed Rhif 233, rhwng Maengwyn a Chwmdu yng nghymuned Ystalyfera pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig, bod Gorchymyn Diddymu llwybr cyhoeddus yn cael ei wneud yn unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir A-B-C-D a ddangosir ar gynllun atodedig yr adroddiad a gylchredwyd. Bod y gorchymyn hwn hefyd yn cael ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau iddo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

1.   Mae angen datrys y ffordd y darlunnir llwybr cyhoeddus sy'n rhedeg trwy dai pan fo dewis arall addas yn bodoli.

2.   Ni chafodd y dewis arall a ddarparwyd yn wreiddiol erioed ei wneud yn destun gorchymyn dargyfeirio adeg y datblygiad tai. Ond eto, ers ei gau, does dim galw wedi bod i'w ailagor.

3.   Oherwydd bodolaeth ffyrdd y stad o fewn y datblygiad tai, mae dewis arall addas ar gael trwy'r llwybrau troed sy'n cefnogi'r achos nad oes angen y llwybr A-B-C-D ymhellach.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd 2022.

 

9.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig oddi ar y ffordd arfaethedig ar Iard Mackworth a Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar Ffordd Fairfield mewn perthynas â'r Datblygiad Hamdden a Manwerthu, Castell-nedd pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i hysbysebu'r gorchymyn rheoleiddio traffig oddi ar y stryd ar Iard Mackworth, a'r gorchymyn rheoleiddio traffig ar Ffordd Fairfield mewn cysylltiad â'r Datblygiad Manwerthu a Hamdden newydd yng Nghastell-nedd, (fel y nodwyd yn Atodiad A ac Atodiad B i'r adroddiad a gylchredwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, fod y cynigion yn cael eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal parcio diawahaniaeth ac yn hwyluso hynt traffig cerbydau er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd 2022.

 

10.

Gorchymyn (Dirymu) (Gwahardd) Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg a (Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg) 2022 - Cei Mariners, Ffordd y Dywysoges Margaret a Heol Victoria, Port Talbot. pdf eicon PDF 399 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, bod y gwrthwynebiadau i'r Gorchymyn (Dirymu) Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho Ar Unrhyw Adeg) a (Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg) 2022 ar gyfer Cei Mariners, Ffordd y Dywysoges Margaret a Heol Victoria, Port Talbot, yn cael eu cefnogi'n rhannol (fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) a bod y cynllun diwygiedig (fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad a gylchredwyd) yn cael ei roi ar waith ar y safle, a  bod y gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn hwyluso traffig i deithio'n ddiogel ac yn atal parcio diwahaniaeth er diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd 2022.

 

11.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 410 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a ganlyn:-

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy.

Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-

 

Cwmni

Categori

Cello Recycling Ltd (C074)

6,7

B&A Cranes Ltd (B042)

111

Our Tree Company (O012)

101,102

Pirtek Swansea (P053)

111

VaultStone Ltd (V013)

25,36

BSW Holdings – Bus Shelters Ltd (B043)

107

Rema Tip Top Industry UK Ltd (R044)

111

RSP Drain Cleaning/RSP Drainage Ltd (R043)

94

Secured Alarm Systems Ltd (S099)

47,48,49
60,67,68

WCS Environmental Ltd (W042)

53,54,58

 

Cwmnïau categorïau ychwanegol i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy

Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr ar gyfer categorïau ychwanegol ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-

 

Cwmni

Categori

Glamorgan Services Ltd (G004)

15,16,17A

R & M Williams Ltd (W015)

14,28

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd 2022.

 

12.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2022/2023 - Chwarter 1 (1 Ebrill 2022 - 30 Mehefin 2022) pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

13.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.