Agenda a chofnodion drafft

Special, Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 19eg Ebrill, 2024 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid Conference Room

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd penodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2024 fel cofnod cywir.

 

 

5.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau

Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn

hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n

rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

6.

Prosiect Angori i Fusnesau a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) - Gwella Cymorth Busnes ar gyfer Twf ac Arloesedd - Diweddariad pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi’r adroddiad.

 

7.

Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol - Dadl dros Newid - Diweddariad pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

8.

Cynllun Ynni Ardal Leol Castell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 635 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi’r adroddiad.

 

9.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig - B4603 Ynysmeudwy Road a Chlos Nant Ddu Pontardawe (Gwahardd Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar unrhyw adeg) a Gorchymyn (Clustogau Arafu) Order 2024 pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

·       Bydd y gwrthwynebiadau'n cael eu cadarnhau'n rhannol mewn perthynas â Gorchymyn B4603 Heol Ynysmeudwy a Chlos Nant Ddu, Pontardawe (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho, ar Unrhyw Adeg) a (Clustogau Arafu) 2024 (Fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

·       Ymgynghori ar y cynllun diwygiedig (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd)

·       Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig/mesurau gostegu traffig yn hwyluso traffig i deithio'n ddiogel ac yn helpu i leihau cyflymder traffig er budd diogelwch ar y priffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 23 Ebrill 2024.

 

10.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 416 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, fod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a ganlyn:

 

Cwmnïau a fydd yn cael eu tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd:

 

Cwmni

Categori

Belzona Technosol Ltd (B029)

111

Mitie Roofing Ltd (M024)

17,17A,17B,17C,17D,17E

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 23 Ebrill 2024.

 

 

11.

Cynllun Rheoli Asedau Eiddo 2024-2029 pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Cymeradwyo mabwysiadu Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2024-2029 ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Nodwyd y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol fel dogfen allweddol sy'n cefnogi rheolaeth y Cyngor o'i asedau gweithredol a rhai nad ydynt yn weithredol a bydd yn disodli'r Cynllun Rheoli Asedau Strategol (2016-2021).

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 23 Ebrill 2024.

 

 

12.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

 

13.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 243 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290,

gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

14.

Bwriad i waredu Tir Datblygu Preswyl ym Mlaenbaglan (Yn Eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

·       Rhoddir awdurdod i Bennaeth Eiddo ac Adfywio gysylltu â'r cynigydd uchaf yn unig am gyfnod o chwe mis. Caiff adroddiad pellach ei lunio ar gyfer aelodau a fydd yn nodi unrhyw newidiadau i'r cais gwreiddiol (os oes newidiadau wedi bod).

·       Os bydd y cais newydd yn is na'r hyn y mae'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio yn barod i'w argymell i'r Bwrdd neu os yw'n is na'r ail gais uchaf, yna bydd y Pennaeth Eiddo ac Adfywio'n trafod gyda'r ail, trydydd a phedwaredd ceisiadau uchaf er mwyn cael cynigion terfynol i'w cyflwyno i'r Bwrdd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd cael gwared ar yr eiddo'n cyflwyno datblygiad preswyl mawr ei angen a bydd yn rhoi derbyniad cyfalaf i'r Cyngor ac yn cael gwared ar unrhyw gyfrifoldeb cynnal a chadw yn y dyfodol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 23 Ebrill 2024.

 

 

15.

Bwriad i adnewyddu prydles y Llyfrgell Gyhoeddus ar lawr cyntaf Canolfan Siopa Aberafan Port Talbot i'r Cyngor (Yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig cam cyntaf, cymeradwyo amodau a thelerau ar gyfer y brydles newydd yn ôl y telerau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I sicrhau bod y Cyngor yn gallu parhau i ddarparu llyfrgell gyhoeddus i gymuned leol Castell-nedd Port Talbot a darparu gwasanaethau addysgiadol, amgylcheddol a diwylliannol hanfodol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 23 Ebrill 2024.