Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|||||||||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 239 KB ·
14 Medi 2023 ·
6 Hydref 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Medi
2023 a 6 Hydref 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|||||||||||||||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid
i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||
Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2023/2024 - Chwarter 2 (1 Ebrill 2023 - 30 Medi 2023) PDF 332 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 420 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid newid y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy fel a ganlyn:- Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy:
Cwmnïau i'w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy: Roedd angen dileu'r cwmnïau canlynol oherwydd
methiant i fodloni meini prawf Iechyd a Diogelwch CBSCNPT (H027) a bod un cwmni
wedi'i Ddiddymu (A022).
Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig: Sicrhau
bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes a sicrhau proses gaffael
gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd
2023. |
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith
integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r gorchmynion rheoleiddio traffig
sy'n gysylltiedig â datblygiad tai newydd Afan Awel oddi ar Golwg y Sianel a
Ffordd y Dywysoges Margaret (fel y manylwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a
ddosbarthwyd), ac os na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, dylid gweithredu'r
cynigion ar y safle fel yr hysbysebwyd. Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig: Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig
yn atal parcio diawahaniaeth ac yn hwyluso hynt traffig cerbydau er diogelwch
ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd
2023. |
|||||||||||||||||
Gorchymyn 2023 (Mannau Parcio i Breswylwyr Anabl) Quarr Road, Pontardawe PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: ·
Dylid diystyru'r gwrthwynebiad
yn llawn i Orchymyn (Quarr Road, Pontardawe) (Lleoedd Parcio i Breswylwyr
Anabl) 2023 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), a bod y
cynllun yn cael ei weithredu fel y'i hysbysebir cyn gynted ag y bo modd. ·
Hysbysir y gwrthwynebydd o'r
penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Gan roi sylw dyledus i'r gwrthwynebiad a dderbyniwyd, a hefyd y llythyr
cymorth, ystyriwyd llawer o ffactorau cyn gwneud y penderfyniad arfaethedig. Oherwydd topograffi Quarr Road, roedd achos cryf dros weithredu'r cynllun
gan fod y ffordd ar raddiant serth. Roedd yr ymgeisydd yn bodloni'r holl feini
prawf i wneud cais am le parcio unigol i'r anabl. O ran pwynt 3 o'r crynodeb o wrthwynebiad; roedd y preswylydd yn pryderu y
byddai unrhyw ddeiliad bathodyn glas yn gallu parcio yn y gilfach, ystyriwyd
nad oedd hyn yn wir. Dim ond deiliad rhif 21 fydd yn gallu gwneud cais ar gyfer y drwydded parcio anabl mewn perthynas
â'r gilfach hon, ac roedd tîm gorfodi parcio'r cyngor yn gallu gwirio hyn gyda
chofrestriad y cerbyd sy'n gysylltiedig â'r drwydded arfaethedig. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd
2023. |
|||||||||||||||||
Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd PDF 333 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Bod Cynllun Rheoli Asedau
Priffyrdd drafft 2023-26, fel y'i darperir yn Atodiad A o'r adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael ei gymeradwyo. ·
Rhoddir diweddariad pellach i
Fwrdd Cabinet Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ar ôl cwblhau'r
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a gwaith rheoli'r Llwybr Beicio. Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig: Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf a pharhau i
ddatblygu Cynllunio Rheoli Asedau Priffyrdd y Cyngor yn unol ag arfer da. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd
2023. |
|||||||||||||||||
Ynni Goleuadau Stryd PDF 257 KB Cofnodion: Ystyriodd Aelodau'r Cabinet yr argymhelliad
ychwanegol arfaethedig i'r gwreiddiol, a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Nid oedd Aelodau'r Cabinet yn gefnogol o'r argymhelliad
ychwanegol a wnaed yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu, a gynhaliwyd cyn y
cyfarfod hwn. Penderfyniad: Rhoi cymeradwyaeth i ymgynghori â'r cyhoedd mewn
perthynas â'r strategaethau arbed ynni goleuadau stryd posib, fel y nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig: Helpu i lywio unrhyw benderfyniad yn y dyfodol
ynghylch arbedion goleuadau stryd a'r Asesiad Effaith Integredig cysylltiedig. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd
2023. |
|||||||||||||||||
Strategaeth Isadeiledd Cerbydau Di-allyriadau (ZEVIS) PDF 791 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||||
Mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan PDF 1 MB Cofnodion: Penderfyniad: ·
Bod y cyngor yn parhau i wrthod
ceisiadau am godi tâl ar gerbydau trydan preswyl neu fusnes ar y stryd am y tro ·
Bod Swyddogion yn parhau i
drafod gyda Llywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru a Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru, i ofyn am ganllawiau enghreifftiol a gofynion trwydded
ar gyfer codi tâl preswyl ar y stryd mewn perthynas â cheisiadau codi tâl ar y stryd
gan breswylwyr. Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig: O ystyried y goblygiadau cyfreithiol i'r Awdurdod,
y materion diogelwch posib sy'n codi o osod cebl ar draws y briffordd, a'r
treialon cynnar mewn mannau eraill o atebion arloesol o bosib, argymhellwyd y
dylid parhau â'r moratoriwm presennol a monitro llwyddiant neu fethiant y
treialon. Gan fod nifer y cerbydau trydan yn debygol o
gynyddu'n gyflym yn y blynyddoedd i ddod, a'r materion codi tâl preswyl yn
deillio o'r cynlluniau tai a phriffyrdd hanesyddol ledled y wlad, roedd angen
canllawiau cenedlaethol oddi wrth Lywodraeth Cymru i sicrhau dull cyson rhwng
cynghorau ac er mwyn llywio cynlluniau a pholisïau'r dyfodol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18
Tachwedd 2023. |
|||||||||||||||||
Y Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan - y diweddaraf ar drosglwyddo i allyriadau isel iawn PDF 618 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)
Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||||||||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 244 KB Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Penderfyniad: Gwaherddir y cyhoedd o'r cyfarfod wrth i’r eitem fusnes ganlynol gael ei
hystyried ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y
nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol. |
|||||||||||||||||
Bwriad i ehangu sinema a gwneud gwaith gwella mewnol yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe - Hysbysiadau Waliau Cydrannol (eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i gyflwyno unrhyw hysbysiadau
gofynnol o dan Ddeddf Gwahanfuriau 1996, i sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio
â'i ddyletswydd o dan y ddeddfwriaeth hon mewn perthynas â'r estyniad sinema
newydd arfaethedig a'r gwaith gwella mewnol yng Nghanolfan Celfyddydau
Pontardawe. ·
Awdurdodi'r Pennaeth Eiddo ac
Adfywio i ddiwygio'r cynllun dirprwyaethau i gynnwys cyflwyno hysbysiadau o dan
Deddf Gwahanfuriau 1996; a bod Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd yn cael ei awdurdodi i ddiweddaru Cyfansoddiad Cyngor Sir
Castell-nedd Port Talbot i gofnodi hyn. Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig: Galluogi'r cyngor i fwrw ymlaen â'r cynllun
gwaith, ar yr amod bod y tendrau o fewn y gyllideb yng Nghanolfan Celfyddydau
Pontardawe, ac i sicrhau bod awdurdod priodol ar waith ar gyfer unrhyw
hysbysiadau yn y dyfodol y gallai fod eu hangen. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Mae'r penderfyniad hwn i'w roi ar waith yn syth,
ac felly nid yw'n rhwym wrth y cyfnod galw i mewn tri diwrnod. |
|||||||||||||||||
Cynlluniau Lleoedd - Comisiynu gwaith ymgynghoriaeth ychwanegol i The Urbanists er mwyn datblygu ac ehangu cynigion presennol ymhellach Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Gwahardd gofynion Rheolau
Gweithdrefnau Contractau'r Cyngor, a chymeradwyo i'r cyngor wneud dyfarniadau
uniongyrchol i The Urbanists ar gyfer gwasanaethau ymgynghori dros dro, ar gyfer
y gwasanaethau ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer darparu cynlluniau lleoedd
presennol yn unig. ·
Rhoddir awdurdod i'r Pennaeth
Eiddo ac Adfywio gaffael gwasanaethau ymgynghori pellach ar gyfer trefi
ychwanegol, aneddiadau eilaidd a thrydyddol (nad ydynt eisoes wedi'u comisiynu
i The Urbanists) yn gynnar yn 2024. Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig: Cynorthwyo'r Adran Adfywio i gwblhau Cynlluniau
Lleoedd ar gyfer ei threfi, sy'n rhan o ofynion Llywodraeth Cymru wrth gyflawni
prosiectau strategol a darparu grantiau i drydydd partïon, ac i alluogi
datblygu cynlluniau gydag aneddiadau eilaidd a thrydyddol. Sicrhau parhad gwasanaeth ac arbed amser wrth
ddeall y tasgau angenrheidiol mewn perthynas â'r gwaith ychwanegol
angenrheidiol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18
Tachwedd 2023. |
|||||||||||||||||
Diweddariad ar Gwmni Gwaredu Gwastraff yr Awdurdod Lleol y cyngor (eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |