Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd W F Griffiths
yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 158 KB ·
14 Gorffennaf 2023 ·
28 Gorffennaf 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar
14 Gorffennaf 2023 a 28 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach
na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid
i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: ·
Cymeradwyo caniatáu swyddogion
i ddechrau'r broses o ddiwygio'r is-ddeddf sy'n gwahardd beicio wrth gatiau
coffa Castell-nedd ac o fewn ystâd y Gnoll rhwng y gatiau coffa a Thir Comin
Cimla ar hyn o bryd. Rheswm dros y Penderfyniad Er mwyn galluogi datblygu llwybr teithio llesol
rhwng Castell-nedd a Chimla, hwyluso teithio ar gyfer teithiau bob dydd ar
droed neu ar feic yn hytrach na mewn car preifat. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Llun, 18 Medi
2023. |
|
Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus - Glan Môr Aberafan PDF 252 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig: ·
Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus
chwe wythnos, ar y cynnig i greu'r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus
newydd ar lan y môr Aberafan; ·
Cymeradwyo'r holiadur
ymgynghori arfaethedig, a gynhwysir fel Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: I sicrhau bod mesurau rheoli cŵn priodol yn
parhau fel y bo'n briodol ar Draeth a Phromenâd Aberafan. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Llun, 18 Medi
2023. |
|
Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) - Cytundeb Cyflawni Diwygiedig (CCD) PDF 2 MB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid cyflwyno'r
canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo: ·
Cytuno ar Gytundeb Cyflawni'r
CDLl, fel y'i cyflwynwyd yn Atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ar sail
ymgynghori a chyflwyniad dilynol i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo ·
Dirprwyo gwneud penderfyniadau
ar ymatebion i unrhyw sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn ymgynghoriad i'r Pennaeth
Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros
Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd; a bod unrhyw newidiadau sylweddol
y penderfynwyd eu bod yn angenrheidiol ar gyfer y Cytundeb Cyflawni, yn cael eu
cyflwyno i'r cyngor i'w cymeradwyo. Rheswm dros y Penderfyniad: Mae angen yr argymhellion er mwyn sicrhau y
cydymffurfir ag Adran 63 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004; Rheoliadau
Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015; Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015); Deddf Cydraddoldeb (2010);
Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif .1) 2015; Polisi Cynllunio Cymru 11 (2021)
a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu, Argraffiad 3 (2020). Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Llun, 18 Medi
2023. |
|
Adolygiad Parcio 2023 PDF 636 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Cymeradwyo'r opsiynau canlynol
a gynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd (14 Medi 2023): Opsiwn 1, Opsiwn 1B,
Opsiwn 3, Opsiwn 4, Opsiwn 5, Opsiwn 6 ac Opsiwn 7. ·
Yn ogystal, cymeradwyo'r
argymhellion a dderbyniwyd yn ystod cyfarfod Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2023 fel a ganlyn: 1. Pan fydd y gorchmynion cyfreithiol yn cael eu hysbysebu, er mwyn newid y
gorchymyn parcio ceir oddi ar y stryd a gorchmynion traffig ar y stryd, bydd
trigolion a busnesau yn cael cyfle i godi unrhyw wrthwynebiadau a fydd yn cael
eu cyflwyno yn ystod cyfarfod yn y dyfodol i'r Aelodau eu hystyried cyn rhoi
unrhyw newidiadau ar waith. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd y ffioedd a'r taliadau newydd yn ceisio mynd
i'r afael â'r problemau sydd eisoes yn bodoli ym meysydd parcio'r awdurdodau ac
yn lleihau pwysau cyllideb y flwyddyn o fewn y gwasanaethau parcio. Hefyd,
sicrhau bod meysydd parcio Castell-nedd Port Talbot yn parhau i fod yn
weithredol gan ganiatáu i genedlaethau'r dyfodol fwynhau'r amgylchedd a'r
amwynderau lleol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri
diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Llun, 18 Medi 2023. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi'u heithrio) yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r mater a
gynhwysir yng Nghofnod Rhif 14 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid ei drafod
yng nghyfarfod heddiw fel eitem frys yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. Rheswm: Oherwydd yr elfen amser. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 243 KB Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o
gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Gwaherddir y cyhoedd o'r cyfarfod wrth i’r eitem
fusnes ganlynol gael ei hystyried ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd
(lle bo'n briodol. |
|
Contract Trydan Gorsaf Drosglwyddo (yn eithriedig dan baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: ·
Gwahardd y Rheolau Gweithdrefnau
Contractau yn unol â rheol 5; a chymeradwyo dyfarniad uniongyrchol o gontract
blwyddyn i'r cwmni a enwir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, ar gyfer
cyflenwi ynni i'r Orsaf Drosglwyddo; ·
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth
Gofal Strydoedd, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd, wneud y trefniannau contract angenrheidiol; ·
Pan fydd adleoli'r Gwasanaeth
Casglu Gwastraff i'r Orsaf Drosglwyddo wedi'i chwblhau, caiff y gofynion trydan
ar y safle eu hadolygu a bydd trefniant tymor hwy yn cael ei roi ar waith. Rheswm dros y Penderfyniad: I sicrhau cyflenwad ynni gwerthfawr ar gyfer yr
Orsaf Drosglwyddo. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Llun, 18 Medi
2023. |
|
Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol Arfaethedig – Tir ac Adeiladau ym Mhontneddfechan – Hysbysiadau i Gynnal Arolygon Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: · Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gyflwyno unrhyw
hysbysiadau gofynnol o dan Adran 172 Deddf Tai a Chynllunio 2016 i gynnal
arolygon o'r tir a'r adeiladau ym Mhontneddfechan. · Rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ddiwygio'r cynllun
dirprwyaethau i gynnwys cyflwyno hysbysiadau yn unol â Deddf Tai a Chynllunio
2016, a rhoi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
ddiweddaru Cyfansoddiad Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot i gofnodi hyn. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn galluogi'r cyngor i gyflawni prosiect
Cronfa Codi'r Gwastad (CCG) Pontneddfechan a sicrhau bod awdurdod priodol ar
waith ar gyfer unrhyw hysbysiadau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Mae'r penderfyniad hwn i'w roi ar waith yn syth,
ac felly nid yw'n rhwym wrth y cyfnod galw i mewn tri diwrnod. |