Lleoliad: Multi- Location Meeting Committee Rooms 1 & 2 or Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd penodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach
na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid
i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn
cyfnod o 10 munud Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Grant Eiddo Masnachol 14 Stryd y Berllan, Castell-nedd PDF 651 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, caiff y grant a
nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd ei gymeradwyo. Rheswm dros y penderfyniad: Rhoi darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r
meini prawf a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio canol
tref Castell-nedd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Awst
2023. |
|
Adroddiad Opsiynau Adolygiad Parcio 2023 PDF 627 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl ystyriaeth gan yr Aelodau, gohiriwyd yr eitem i gyfarfod yn y
dyfodol. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i
diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |