Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|||||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 242 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9
Chwefror 2024 fel cofnod cywir. |
|||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|||||||||||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n rhaid cyflwyno
cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid
i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||
Siarter Teithio Iach PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||
Mesurau perfformiad 2023/2024 - Chwarter 3 PDF 329 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 418 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, fod y Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a ganlyn: Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy:
Cwmnïau i'w cynnwys ar y Rhestr ar gyfer categorïau
ychwanegol:
Cwmnïau i'w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy:
Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Yn ogystal â
hyn, at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i
dendro o fewn y categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth 26 Mawrth
2024. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig
ar Meadow Road, Castell-nedd ar gyfer y Datblygiad Tai newydd (fel y manylir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau rhoddir y cynnig ar waith ar y safle fel y'i hysbysebwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn
atal parcio diwahaniaeth ac yn rheoleiddio problemau
symudedd er diogelwch ar y ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth
2024. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, cymeradwyo hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio
Traffig yng Nghoedcae, Pontardawe (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a
ddosbarthwyd), ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau, caiff y cynnig ei roi ar
waith ar y safle fel yr hysbysebwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn
atal parcio diwahaniaeth ac yn rheoleiddio problemau
symudedd er diogelwch ar y ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth
2024. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig: · Dylid diystyru'r gwrthwynebiadau i Orchymyn (Clos Olympaidd, The Princess
Margaret Way, Channel View, Porth y Gwyddel a Golwg y Madjoe, Sandfields, Port
Talbot) (Diddymiad) (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg)
(Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg) a (Gwahardd Troi i'r Dde) 2024 (fel y manylir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), a bydd y cynllun yn cael ei roi ar
waith fel yr hysbysebwyd. · Bod y gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig yn atal
parcio diwahaniaeth o amgylch y ffyrdd mynediad i Ddatblygiad Awel Afan er diogelwch priffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth
2024. |
|||||||||||||
Rhaglen Waith Priffyrdd 2024/25 PDF 381 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig, cymeradwyir
y rhaglen waith ar gyfer 2024/2025 (fel y nodir yn Atodiadau A&C yr
adroddiad a ddosbarthwyd). Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn cynnal asedau y mae'r Cyngor yn gyfrifol
amdanynt fel Awdurdod Priffyrdd a mynd i'r afael â phryderon y gymuned mewn
perthynas â'r un peth. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth
2024. |
|||||||||||||
Ynni goleuadau stryd - Ymateb i'r ymgynghoriad PDF 283 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a
Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r diwygiad i'r
argymhellion canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Felly,
cafodd yr argymhellion eu cymeradwyo fel a ganlyn: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig: · Nodi'r adborth
o'r ymgynghoriad · Cymeradwyo pylu
llusernau LED 25% · Cymeradwyo'r
astudiaeth beilot o oleuadau rhan amser gyda'r nos, er mwyn cael dealltwriaeth
well o effeithiau strategaethau arbed o'r fath a thrwy hynny alluogi gwneud
penderfyniadau ar sail tystiolaeth yn y dyfodol, os ystyrir ei fod yn briodol.
Cyn cynnal cynllun peilot o'r fath, cyflwynir adroddiad pellach i'r Aelodau
sy'n rhoi manylion lleoliad daearyddol yr astudiaeth beilot arfaethedig, hyd yr
astudiaeth beilot, a'r amseroedd pan fydd y goleuadau'n cael eu diffodd/cynnau,
a chaiff y cynlluniau eu cymeradwyo gan Aelodau cyn y cynhelir unrhyw gynllun
peilot. Yna caiff canlyniadau cynllun peilot eu hatgyfeirio at yr Aelodau i
lywio unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol, os ystyrir bod hyn yn briodol. Cynhelir
ymgynghoriad fel rhan o'r astudiaeth beilot a bydd yn cynnwys asesiad o'r
effeithiau ar fenywod a merched ifanc o ran trais, cam-drin domestig a thrais
rhywiol. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw yn cael eu hadrodd i'r aelodau
ar ôl cwblhau'r cynllun peilot a'r ymgynghoriad. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi rhai arbedion i wrthbwyso'r cynnydd mawr mewn costau ynni, ac i
roi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am effaith goleuadau rhan amser gyda'r nos. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o
dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024. |
|||||||||||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys
(boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 245 KB Yn unol
ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer
yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn
debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Penderfyniad: Gwaherddir y cyhoedd o'r cyfarfod wrth i’r eitem fusnes ganlynol gael ei
hystyried ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y
nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|||||||||||||
Cais ar gyfer camera adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR) (Yn eithriedig dan Baragraff 18) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig : · Cymeradwyo gosod camerâu ANPR ar oleuadau stryd mewn egwyddor, yn amodol ar
gytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth derbyniol gyda Swyddfa Comisiynydd
Heddlu a Throseddu De Cymru · Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio i
ymgynghori â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, i gwblhau, cymeradwyo a
dechrau Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cysylltiedig neu gytundeb ysgrifenedig
arall gyda Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru; a chytuno ar
leoliadau ANPR lle maent wedi'u gosod ar isadeiledd priffyrdd. Rheswm dros y Penderfyniad: I benderfynu ar ymateb i gais gan Heddlu De Cymru. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth
2024. |
|||||||||||||
Cynnig arfaethedig i godi cyfamodau cyfyngu a gwerthu ardal fach o dir yn hen westy The Four Winds, Princess Margaret Way, Port Talbot (Yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig, cytunir ar ryddhau'r ddau gyfamod a gwaredu tir ar yr
amodau a thelerau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd gwaredu'r tir a rhyddhau'r cyfamodau yn rhoi
derbyniad cyfalaf i'r Cyngor Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth
2024. |
|||||||||||||
Rhyddhad arfaethedig o gyfamod cyfyngu ar dir ger 5 Park Row, Cwmafan, Port Talbot (Yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig cam cyntaf, cymeradwyo amodau a thelerau rhyddhau'r cyfamod yn ôl y
telerau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd rhyddhau'r cyfamodau'n rhoi derbyniad cyfalaf
i'r Cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth
2024. |
|||||||||||||
Unity Mine - Cais i awdurdodi rhyddhau bond (Yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Sgrinio
Integredig , rhoddir awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr
Amgylchedd ac Adfywio i wneud y canlynol: · Defnyddio'r bond sydd ar waith gyda Banc Barclays yn ffurfiol, mewn
perthynas â Unity Mine, sydd ar gael i gyfrannu tuag at gost cwblhau'r gwaith o
adfer y safle yn unol â'r manylion cymeradwy a gyflwynwyd o dan yr amodau
cynllunio · Atal Rheol 11 y Rheolau Gweithdrefnau Contractau a dechrau unrhyw
gytundebau ariannol gyda Blue Rock sy'n angenrheidiol i hwyluso taliad
ymhellach a godwyd oherwydd y gwaith i adfer y safle yn unol â'r manylion
cymeradwy a gyflwynwyd o dan yr amodau cynllunio Rheswm dros y Penderfyniad: I gyfrannu tuag at gost cwblhau'r gwaith o adfer y
safle yn unol â'r manylion cymeradwy a gyflwynwyd o dan yr amodau cynllunio. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth
2024. |