Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Eglurwyd bod eitem 15 o'r agenda a gylchredwyd
wedi'i gohirio oherwydd yr angen i gasglu rhagor o wybodaeth.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 223 KB Cofnodion: Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr
2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach
na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid
i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Penderfynwyd: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 425 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, fod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a ganlyn: Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy:
Cwmnïau i'w cynnwys ar y Rhestr ar gyfer categorïau
ychwanegol:
Gofynnodd
cwmnïau am gael gwared ar gategorïau nad ydynt bellach yn berthnasol i gwmpas y
gwaith:
Cwmnïau i'w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy:
Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr
argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy
ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 13 Chwefror 2024. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Bod y gwrthwynebiadau i
Orchymyn Eagle Street a Broad Street, Port Talbot (Dirymu) (Aros Cyfyngedig) a (Deiliaid
Hawlen Barcio i Breswylwyr) 2023 (fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a
gylchredwyd) yn cael eu gwrthod a bod y cynllun yn cael ei roi ar waith fel y'i
hysbysebwyd. ·
Bod y gwrthwynebwyr yn cael eu
hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd angen y gorchmynion rheoleiddio traffig
arfaethedig i gydbwyso'r materion parcio rhwng y cyhoedd a phreswylwyr, ac i
atal parcio diwahaniaeth er diogelwch ar y ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 13 Chwefror
2024. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Bod y gwrthwynebiadau i
Orchymyn Golwg y Môr, Aberafan, Port Talbot (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho
ar unrhyw adeg) 2023 (fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) yn
cael eu gwrthod a bod y cynllun yn cael ei roi ar waith fel y'i hysbysebwyd. ·
Bod y gwrthwynebwyr yn cael eu
hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd angen y gorchymyn rheoleiddio traffig i fynd
i'r afael â'r parcio diwahaniaeth er diogelwch ar y ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 13 Chwefror
2024. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Caffael Cerbydlu Cerbydau a Pheiriannau Trymion 2024/25 PDF 713 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Bod y Rhaglen Caffael
Cerbydau/Peiriannau arfaethedig ar gyfer 2024/25, y'i nodir yn atodiad A o'r adroddiad
a gylchredwyd, yn cael ei chymeradwyo ·
Bod Awdurdod Dirprwyedig yn
cael ei roi i'r Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros
Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd, i brynu unrhyw gerbydau er
mwyn mwyafu argaeledd arian grant a all fod ar gael i gynorthwyo gyda chost
prynu'r cerbydau. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y cerbydau a'r peiriannau trwm newydd naill
ai’n rhai heb unrhyw allyriadau, yn rhai hybrid neu drydan neu o safon
Ewropeaidd uwch, a fydd yn galluogi'r cerbydlu i fod yn fwy effeithlon o ran
tanwydd drwy ddefnyddio llawer llai o danwydd a lleihau ôl troed carbon y
Cyngor drwy leihau allyriadau. Mae Gwasanaeth y Cerbydlu ar y cyd â Gwasanaeth
Ynni Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o Gerbydlu'r Cyngor i gael gwybod
am y defnydd ohonynt o fewn is-adrannau a ble'r oedd cyfleoedd i gyflwyno
cerbydau a pheiriannau trydan llawn a rhai eraill heb allyriadau i leihau
ymhellach allyriadau carbon y Cyngor yn unol â Chynllun Trawsnewid Cerbydlu'r
Cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 13 Chwefror
2024. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, Traeth a Phromenâd Aberafan PDF 281 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith
Integredig, fod y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, a nodir yn Atodiadau H
a I o'r adroddiad a gylchredwyd, yn cael eu rhoi ar waith cyn 1 Mai 2024. Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod mesurau rheoli cŵn priodol yn
parhau fel y bo'n briodol ar Draeth a Phromenâd Aberafan. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 13 Chwefror
2024. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001
Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 243 KB Yn unol
ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer
yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol
o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Fel yr amlygwyd yn flaenorol yng Nghofnod Rhif 2,
gohiriwyd yr adroddiad preifat a nodwyd yn eitem 15 yr agenda. Felly, nid oedd
angen symud i sesiwn breifat. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Bwriad i waredu tir datblygiad preswyl ym Mlaenbaglan (yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei ohirio oherwydd yr angen i gasglu
rhagor o wybodaeth. |