Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd penodi'r Cynghorydd J Hurley yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|||||||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 166 KB Cofnodion: Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14
Tachwedd 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|||||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|||||||||||||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n rhaid cyflwyno
cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn
hwyrach na
chanol dydd ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r
cwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||
Cofnodion: Penderfynwyd: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 418 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid diwygio'r Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy fel a ganlyn: Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy:
Cwmnïau a gyflwynodd cais i gael eu cynnwys ar y
rhestr ar gyfer categorïau ychwanegol ac sydd wedi pasio'r asesiadau
angenrheidiol:
Cwmnïau
i’w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy oherwydd eu statws cwmni ‘yn
nwylo gweinyddwyr":
Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr
argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy
ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr
2024. |
|||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid gwrthod y gwrthwynebiadau i Rodfa'r Parc a Siding Terrace
(Dirymu) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023, (fel y nodir yn Atodiad A
i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith fel yr hysbysebwyd.
Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder
presennol o 30mya ar Rodfa'r Parc a Siding Terrace o fewn y fwrdeistref wedi i
Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar
waith mewn ardaloedd trefol ledled Cymru er diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr
2024. |
|||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar
ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid gwrthod y
gwrthwynebiad i'r lôn y tu ôl i rifau 1 i 17 Stryd y Goron, Port Talbot (Dirymu
Dim Mynediad) Gorchymyn 2023 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a
ddosbarthwyd), a rhoi'r cynllun ar waith, fel yr hysbyswyd, a'i fonitro wrth
symud ymlaen. Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd
angen dirymu'r gorchymyn rheoleiddio traffig presennol er mwyn sicrhau bod
digon o hyfywedd a mynediad ar gyfer cerbydau casglu gwastraff/sbwriel er budd
diogelwch ar y briffordd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr
2024. |
|||||||||||||||
Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Ffordd y Dywysoges Margaret, Sandfields, Port Talbot PDF 313 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoi cymeradwyaeth
i hysbysebu'r gorchmynion rheoleiddio traffig Cyfyngiad Aros Cyfyngedig i 2
awr, Dim Dychwelyd o fewn 2 Awr, 8.00am i 8.00pm, 1 Ebrill i 30 Medi gyda thaliad drwy
MiPermit neu dros y ffôn am uchafswm arhosiad o 2 awr ac Eithrio Deiliaid
Bathodyn Anabledd ar Ffordd y Dywysoges Margaret, Sandfields, Port Talbot (fel y nodir yn
Atodiad A ac Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd); ac os na dderbynnir
unrhyw wrthwynebiadau, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u
hysbysebir. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y gorchmynion rheoli traffig arfaethedig yn sicrhau trosiant digonol o
gerbydau a fydd yn gwella ac yn caniatáu i'r amgylchedd a mwynderau lleol gael
eu mwynhau gan genedlaethau'r dyfodol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr
2024. |
|||||||||||||||
Grant Eiddo Masnachol: Hen Glwb y Lleng Brydeinig, Heol Eastland, Castell-nedd PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, a disgrifiad o'r
argymhelliad, caiff y grant a nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd ei
gymeradwyo. Rheswm dros y Penderfyniad: Rhoi darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r
meini prawf a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio canol
tref Castell-nedd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr
2024. |
|||||||||||||||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i
diwygiwyd) Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||||||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 243 KB Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Penderfyniad: Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth
ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd
y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|||||||||||||||
Adolygiad o'r Cerbydlu a Depo a Datblygu Cynllun Trawsnewid Cerbydlu 5 mlynedd - Penodi Ymgynghorwyr (Wedi'i Eithrio o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig: 1.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r
Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, gomisiynu gwasanaethau ymgynghori mewn
perthynas ag Adolygiad o'r Cerbydlu a datblygu 'adolygiad' o ffrwd waith y
cynllun trawsnewid cerbydlu 5 mlynedd a nodwyd fel rhan o gynllun ariannol
tymor byr a chanolig y Cyngor; 2.
rhoi caniatâd i ddatgymhwyso
Rheol 7.3 o Reolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor a dyfarnu contract i
ymgynghorwyr yn uniongyrchol; EDGE Public Solutions, drwy Fframwaith Ymgynghori
ESPO sector cyhoeddus; a 3.
rhoi cymeradwyaeth i'r
Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd, gwblhau'r cytundeb angenrheidiol a'r dogfennau
cysylltiedig, gan ddefnyddio Fframwaith ESPO er mwyn hwyluso'r hyn a nodwyd
uchod. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd Awdurdod Dirprwyedig yn sicrhau caffael brys o
ymgynghorwyr i gynnal momentwm wrth drawsnewid y gwasanaeth cerbydlu a sicrhau
systemau newydd addas a fydd yn cynnal y gwasanaeth cerbydlu a rheng flaen.
Bydd hyn hefyd yn rhoi ateb ar unwaith i'r Cyngor i leddfu'r pwysau ar adnoddau
mewnol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 16 Ionawr
2024. |