Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd penodi'r
Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|||||||||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau |
|||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|||||||||||||||||||||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach
na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid
i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau |
|||||||||||||||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 418 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, caiff y Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy ei diwygio fel a ganlyn:- Cwmnïau a fydd yn cael eu hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy,
sydd wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-
Cwmnïau a fydd yn cael eu tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy
oherwydd methiant i fodloni meini prawf Iechyd a Diogelwch CBSCNPT:-
Rheswm dros y penderfyniad: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn a
ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 10 Hydref 2023. |
|||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: · Bydd y gwrthwynebiadau'n cael eu cadarnhau o ran Gorchymyn Pen-y-Dre,
Castell-nedd (Diddymu Gorchymyn Aros Cyfyngedig, 1 Awr, Dim Dychwelyd o fewn 2 Awr,
o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 8AM tan 6PM, ac Eithrio Deiliaid Hawlenni) 2022
(fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a chaiff y cynllun ei
dynnu'n ôl. · Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rhesymau dros
y Penderfyniad Arfaethedig: Bydd y gorchymyn yn parhau i fod ar waith o ganlyniad i argaeledd cyfyngedig parcio ar gyfer preswylwyr ym Mhen-y-Dre, Castell-Nedd. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 10 Hydref 2023. |
|||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: · Gwrthod y gwrthwynebiad i
Orchymyn Mesurau Tawelu Traffig yn B4434 Tonna Uchaf - Cylchfan Bach, Cyffordd
Heol Caredig a Chyffordd Pen-y-bryn 2023 (fel y manylir yn Atodiad A, B a C i'r
adroddiad a ddosbarthwyd) a bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith fel yr
hysbysebwyd. · Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rhesymau dros
y Penderfyniad Arfaethedig: Roedd angen y llwyfannau arafu arfaethedig er diogelwch y briffordd. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 10 Hydref 2023. |
|||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi'u heithrio) yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol
2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Derbyniwyd 3 eitem brys. |
|||||||||||||||||||||||
Cytundeb arfaethedig ar gyfer prydlesu a phrydlesu uned fanwerthu 2 o fewn y datblygiad hamdden a manwerthu newydd yng nghanol tref nedd i drefi bychain Cofnodion: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: · Bydd yr aelodau’n
cymeradwyo cytundeb am brydles a'r brydles yn ôl y telerau a nodwyd yn yr
adroddiad. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Bydd caniatáu'r cytundeb am brydles a'r brydles yn
caniatáu i'r safle gwag hwn sydd mewn lleoliad amlwg gael ei osod a'i weithredu
gan gwmni lleol a darparu incwm blynyddol i'r cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3
diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 10 Hydref 2023. |
|||||||||||||||||||||||
Prydles arfaethedig ar hen safle manwerthu cyfyngedig wilko sy'n cynnwys rhan o'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf yn y maes parcio aml-stroe yng nghanol tref Castell-nedd i CDS (archfarchnadoedd rhyngwladol) cyfyngedig t/a Yr amrdiad Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: · Bydd aelodau'n cymeradwyo'r brydles yn ôl y telerau a nodwyd yn yr
adroddiad, yn amodol ar ganiatâd Llywodraeth Cymru. · Yn amodol ar y brydles
bresennol gan y cwmni'n dod i ben o ganlyniad i hysbysiad ymadael neu ddull
arall o derfyniad. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Bydd caniatáu'r brydles yn caniatáu i'r safle gwag hwn
sydd mewn lleoliad amlwg, a fydd yn wag yn fuan, gael ei osod a'i weithredu gan
gwmni lleol a darparu incwm blynyddol i'r cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod 3
diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 10 Hydref 2023. |
|||||||||||||||||||||||
Ildio prydles bresennol a rhoi cytundeb newydd ar gyfer prydlesu ciosg arlwyo a thir cyfagos ym mhen gorllewinol glan mor Aberafan Port Talbot Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: · Bydd aelodau'n cymeradwyo'r amodau a thelerau diwygiedig ar gyfer ildio'r
brydles bresennol ar gyfer y ciosg arlwyo a'r tir cyfagos. · Caniatáu'r cytundeb am brydles a'r brydles er mwyn hwyluso ailddatblygiad
cyfleuster ciosg arlwyo newydd yn ochr orllewinol Glan Môr Aberafan, Port
Talbot. Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig: Er mwyn galluogi'r tenant i ailddatblygu a darparu
cyfleuster ciosg arlwyo gwell newydd ar ben gorllewinol Glan Môr Aberafan er
lles yr ymwelwyr a'r awdurdod lleol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith. |