Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Eglurwyd bod
Eitem 14 o'r pecyn agenda a gylchredwyd wedi'i gohirio o'r cyfarfod hwn
oherwydd yr angen am ragor o wybodaeth er mwyn ystyried yr adroddiad. |
|||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 196 KB ·
14 Ebrill 2023 ·
2 Mehefin 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14
Ebrill 2023 a 2 Mehefin 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|||||||||||
Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|||||||||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 417 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, caiff y Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy ei diwygio fel a ganlyn:- Mae'r cwmnïau canlynol wedi pasio'r asesiadau gofynnol i'w hychwanegu at y
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:
Caiff y cwmni canlynol ei dynnu oddi ar y Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy, oherwydd natur ei fusnes; Ymgynghorydd Garddwriaethol.
Nid yw gwaith ymgynghori yn dod o dan gylch gwaith y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy:
Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro o fewn y
categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 18
Gorffennaf 2023. |
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad ·
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r
asesiad effaith integredig, fod y gwrthwynebiadau i Orchymyn Heol y Pentref,
Gerddi'r Pentref, Pentre Afan a Gerddi Brooklyn (Dirymu, Gwahardd Aros, Llwytho
a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg a (Gwahardd Cerbydau Modur ac Eithrio Mynediad) 2023
(fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) yn cael eu cadarnhau'n
rhannol. ·
Bod y cynllun yn cael ei roi ar
waith fel y'i hysbysebwyd, ac yr ymgynghorir ar gynllun ychwanegol (fel y
manylir yn Atodiad B i'r adroddiad a gylchredwyd). ·
Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r
penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad Roedd y Gorchmynion yn angenrheidiol er mwyn atal
parcio diwahaniaeth er mwyn diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18
Gorffennaf 2023. |
|||||||||||
Arian Cyfalaf y Strydlun 2023/24 PDF 314 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig cam cyntaf, fod y dyraniadau cyllid arfaethedig a nodir yn yr
adroddiad a gylchredwyd yn cael eu cymeradwyo. Rheswm dros y Penderfyniad Penderfynu ar gynigion gwariant mewn perthynas ag arian 'Gwella Strydlun yr
Amgylchedd' sydd wedi'u cynnwys yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023-24. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 18
Gorffennaf 2023. |
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||||||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi'u heithrio) yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r mater a
gynhwysir yng Nghofnodion Rhif 12 ac 13 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid eu
trafod yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Adran 100B (4) (b) o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rheswm Oherwydd yr elfen amser. |
|||||||||||
Ychwanegiad at Ffioedd a Thaliadau Gofal Strydoedd 2023/2024 PDF 414 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad integredig
cyntaf, fod tâl gwastraff masnachol ychwanegol sy'n ymwneud â Gwastraff Gardd
Gwyrdd/Torri Coed ar gyfradd o £56.34 y dunnell fetrig yn cael ei gymeradwyo
i'w roi ar waith. Rheswm dros y Penderfyniad Cytuno ar dâl gwastraff masnachol ychwanegol am
waredu gwastraff gardd a gynhyrchir yn fasnachol i'w ailgylchu. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18
Gorffennaf 2023. |
|||||||||||
Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol Arfaethedig – Tir ac Adeiladau ym Mhontneddfechan Cofnodion: Penderfyniadau ·
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad sgrinio effaith
integredig, fod yr Aelodau'n rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac
Adfywio i ddechrau'r gwaith sy'n angenrheidiol i baratoi ar gyfer pwerau'r Gorchymyn
Pwrcasu Gorfodol i'w defnyddio gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot mewn
perthynas â'r tir ac adeiladau ym Mhontneddfechan, i hwyluso Prosiect Cronfa
Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU. ·
Bod adroddiad yn cael ei ddwyn
yn ôl i'r Aelodau i'w gymeradwyo i ofyn am y Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol ar yr
adeg briodol. Rheswm dros y Penderfyniad Sicrhau y gallai'r cyngor gyflawni prosiect Cronfa
Codi'r Gwastad Pontneddfechan. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri
diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023. |
|||||||||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 246 KB Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth
ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd
y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|||||||||||
Grant Eiddo Masnachol, Grant Creu Lleoedd, Cronfa Datblygu Eiddo a'r Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi - Dyfarniad Uniongyrchol ar gyfer Gwasanaethau Mesur Meintiau (yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad Ar ôl rhoi sylw i'r Asesiad Effaith Integredig,
fod y cyngor yn cael sêl bendith i wneud dyfarniadau uniongyrchol i Faithful
and Gould ac AHR Architects Ltd, ar gyfer gwasanaethau Mesur Meintiau dros dro
ar gyfer prosiectau'r Grant Eiddo Masnachol, y Grant Creu Lleoedd, y Gronfa
Datblygu Eiddo a'r Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi nes bod y broses gaffael
gystadleuol yn cael ei chwblhau. Rheswm dros y Penderfyniad Cynorthwyo Adfywio i gwblhau prosiectau'r Grant Creu Lleoedd, y Gronfa
Datblygu Eiddo a'r Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi tra bod y cyllid
cyfyngedig yn dal i fod ar gael dros y ddwy flynedd ariannol nesaf Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri
diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2023. |
|||||||||||
Cytundeb opsiynau ar gyfer caniatáu hawddfraint am byth ar gyfer lledaenu ffordd a gwaith cyfarpar trydanol mewn perthynas â datblygiad arfaethedig Fferm Wynt Mynydd Fforch Dwm yn Nhonmawr, Port Talbot a'r cyffiniau (yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad Bod yr adroddiad yn cael ei ohirio. |
|||||||||||
Cytundeb arfaethedig ar gyfer prydlesu Uned Manwerthu 3 yn Natblygiad Manwerthu a Hamdden newydd Canol Tref Castell-nedd i Cherry Blossom Company Limited (yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig, fod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi ar gyfer cytundeb am
brydles, a phrydles yn ôl y telerau a nodir yn yr adroddiad a gylchredwyd. Rheswm dros y Penderfyniad Bydd caniatáu'r cytundeb am brydles a'r brydles yn
caniatáu i'r safle gwag hwn sydd mewn lleoliad amlwg gael ei osod a'i weithredu
gan gwmni lleol a darparu incwm blynyddol i'r cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18
Gorffennaf 2023. |
|||||||||||
Cytundeb arfaethedig am brydles a phrydlesu rhan o'r hen Ardal Gynhyrchu yn The Metal Box Castell-nedd i Three Sixty Aquaculture Limited (yn eithriedig dan baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad ·
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith
Integredig, fod cam cyntaf, fod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi ar gyfer cytundeb
am brydles, a phrydles yn ôl y telerau a nodir yn yr adroddiad a gylchredwyd; ·
Bod Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor yn cael eu
heithrio'n unol â rheol 5, a bod y Pennaeth Eiddo ac Adfywio yn cael awdurdod
dirprwyedig i ddyfarnu contract yn uniongyrchol i Andrew Scott Ltd ar gyfer y
gwaith sydd ei angen yng ngweddill yr uned gynhyrchu. Rheswm dros y Penderfyniad Bydd caniatáu'r Cytundeb am brydles a'r brydles yn
caniatáu i ran sylweddol o'r hen Ardal Gynhyrchu gael ei hadnewyddu, ei
hailwampio, ac yna'i gosod i gwmni lleol dyfu ac ehangu a darparu incwm
blynyddol i'r cyngor. Bydd dyfarnu'r contract ar gyfer gwaith yn uniongyrchol
yn rhoi gwerth am arian i'r cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18
Gorffennaf 2023. |
|||||||||||
Cytundeb am Brydles, Prydles Tir, Trwydded i Adeiladu ac Opsiwn i Brynu Tir ac Adeiladau y'u hadwaenir fel hen Safle'r Llaethdy gerllaw Cribbs Row, Castell-nedd - Zoars Limited (yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig, fod yr amodau a thelerau diwygiedig ar gyfer caniatáu'r
Cytundeb am Brydles, Prydles Tir, Trwydded i Adeiladu ac Opsiwn i Brynu i
gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chynllun llwybrau teithio llesol
arfaethedig y cyngor, fel y nodir yn yr adroddiad uchod, yn cael eu cymeradwyo.
Byddai hyn yn amodol ar ddarpariaeth y ceir cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru
mewn cysylltiad â chydymffurfio â'r trefniadau arian grant cyn i'r cyngor
ymrwymo i'r dogfennau perthnasol, ac os bydd angen ad-dalu'r arian grant, ni
fydd hyn yn fwy na neu'n ofynnol cyn y symiau sydd i'w derbyn gan Zoars Ltd. Rheswm dros y Penderfyniad Bydd y Cytundeb am Brydles, Prydles Tir, Trwydded
i Adeiladu ac Opsiwn i Brynu yn galluogi busnes lleol sefydledig i ddatblygu ac
ehangu ei fusnes trwy fuddsoddiad ariannol sylweddol ac yn cynnwys
darpariaethau sy'n ymwneud â chynllun llwybrau teithio llesol arfaethedig y
cyngor er budd cymuned Castell-nedd a'r
gymuned ehangach. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth, 18
Gorffennaf 2023. |