Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd penodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd:
|
|||||||||||||||||
Amser Cwestiynau gan y Cyhoedd Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig: 1.
Cymeradwyo hysbysebu'r cynlluniau canlynol, yn unol â'r
gofynion statudol: ·
Rhaglen Gyfalaf Traffig
2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ·
Rhaglen Teithio Llesol
2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ·
Rhaglen Lleoedd Parcio Unigol
i'r Anabl (LlPUA) 2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a
ddosbarthwyd) ·
Rhaglen Cyflwyno Terfyn Cyflymder
Diofyn 20mya Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad
Ch i'r adroddiad a ddosbarthwyd) 2.
Bod y cynlluniau'n cael eu
rhoi ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a gynhwysir yn y
Rheoliadau Traffig Ffyrdd cyfredol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau. Os bydd unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn mewn perthynas
ag unrhyw gynlluniau, adroddir yn ôl am y rhain wrth Fwrdd Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet am benderfyniad. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Roedd y cynlluniau'n angenrheidiol er budd
diogelwch ffyrdd, gan leihau cyflymder, hyrwyddo Teithio Llesol, darparu
Lleoedd Parcio Unigol i Bobl Anabl (LlPUA), cilfachau parcio â blaenoriaeth ar
y stryd a chyflwyno darpariaethau parcio ddigonol o fewn y Fwrdeistref. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023. |
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Bydd y gwrthwynebiadau'n cael
eu cadarnhau mewn perthynas â'r A474 Heol Pontardawe, Rhyd-Y-Fro, Pontardawe,
A474 Heol Y Gors, Cwmgors, A474 Heol Cae Gurwen, Gwauncaegurwen, A474 Heol Y
Graig, Gwauncaegurwen, A4069 Heol Brynaman, Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf,
A4069 Heol Canon, Brynaman Isaf, A4069 Stryd Y Parc, Brynaman Isaf, A4069 Heol
Aman, Brynaman Isaf, A4069 Heol Yr Orsaf, Brynaman Isaf (Diddymu) A (Terfyn
Cyflymder 30Mya) - Gorchymyn 2023, (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a
ddosbarthwyd) ·
Ymgynghorir ar gynllun
diwygiedig (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd). Os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle
fel y'u hysbysebir. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder
presennol o 30mya ar yr A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf o fewn y fwrdeistref
wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o
20mya mewn ardaloedd trefol/gwledig ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd. Yn ôl y cyngor, roedd y terfyn cyflymder 30mya
arfaethedig yn derfyn cyflymder priodol ar gyfer y math yma o ffordd ac roedd y
terfyn cyflymder arfaethedig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023. |
|||||||||||||||||
A474 STRYD IAGO I HEOL PONTARDAWE (DIDDYMU) A (TERFYN CYFLYMDER 30MYA) - GORCHYMYN 2023 PDF 323 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid diystyru'r gwrthwynebiadau i'r A474 James Street i Ffordd
Pontardawe (Diddymu) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023, (fel y nodir
yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith fel yr
hysbysebwyd. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn
cyflymder presennol o 30mya ar yr A474 Stryd Iago i Heol Pontardawe o fewn y
fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder
diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023. |
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid diystyru'r gwrthwynebiadau i Heol y Bryn, Cwmllynfell, Heol
Coedffaldau, Rhiwfawr, Heol y Gwrhyd, Rhiwfawr a Heol y Goedlan, Rhiwfawr
(Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023 (fel y nodir yn Atodiad
A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith fel yr hysbysebwyd
a'i fonitro wrth symud ymlaen. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn
unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn
cyflymder presennol o 30mya ar Heol y Bryn, Cwmllynfell, Heol Coedffaldau,
Rhiwfawr, Heol y Gwrhyd, Rhiwfawr a Heol y Goedlan, Rhiwfawr o fewn y
fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder
diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023. |
|||||||||||||||||
Y FFORDD O GOETRE I FRYN (DIDDYMU) A (TERFYN CYFLYMDER 30MYA) PDF 391 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith
integredig, caiff y gwrthwynebiadau eu cadarnhau yn rhannol i'r Ffordd o Goetre
i Fryn (Diddymu) a (Terfyn Cyflymder 30Mya) – Gorchymyn 2022 (fel y nodir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac ymgynghorir ar gynllun diwygiedig
(fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd). Os na dderbynnir
unrhyw wrthwynebiadau, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u
hysbysebir. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd angen y Gorchymyn i ganiatáu addasu'r terfyn cyflymder presennol ar y
Ffordd o Goetre i Fryn i 20mya er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth
Cymru i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith mewn ardaloedd trefol/gwledig
ledled Cymru er diogelwch ffyrdd. Ym marn y cyngor fel Awdurdod Priffyrdd Lleol, nid oedd y bylchau rhwng
goleuadau stryd yn dilyn y rheoliad ac felly roedd angen rhoi terfyn cyflymder
20mya ar waith. Yn ôl y cyngor, roedd y terfyn cyflymder 20mya arfaethedig yn derfyn
cyflymder priodol ar gyfer y math yma o ffordd ac roedd y terfyn cyflymder
arfaethedig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw
i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023. |
|||||||||||||||||
A474 HEOL NEWYDD, GELLINUDD (DIDDYMU) A (TERFYN CYFLYMDER 30MYA) - GORCHYMYN 2023 PDF 320 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, dylid diystyru'r gwrthwynebiad i'r A474 Heol Newydd, Gellinudd
(Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023 (fel y manylir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith ar y safle
fel yr hysbysebwyd. Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder
presennol o 30mya ar yr A474 Heol Newydd, Gellinudd, Rhos o fewn y fwrdeistref
wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o
20mya ar waith mewn ardaloedd trefol ledled Cymru er diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023. |
|||||||||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 406 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid newid y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy fel a ganlyn:- Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu
cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-
Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023. |
|||||||||||||||||
Polisi Profi Diogelwch Cerrig Coffa PDF 255 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig: ·
Cymeradwyo mabwysiadu'r polisi
profi cerrig coffa diwygiedig fel y nodir yn Atodiad A. ·
Bydd y cyngor yn ymgymryd â
gwaith, sydd wedi ei ariannu o'r rhaglen gyfalaf, i adfer cerrig coffa sydd wedi
methu'r asesiad o dan y polisi blaenorol, ac er cysondeb, byddant yn ad-dalu'r
perchnogion beddi sydd eisoes wedi ymgymryd â'r gwaith. ·
Rhoi gwybod am y newidiadau i
bolisi'r cyngor ar ddiwrnodau agored o fewn y mynwentydd a thrwy wefannau'r
mynwentydd, cyn ailddechrau profi. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei
ddyletswydd gofal mewn perthynas â diogelwch cerrig coffa yn ei fynwentydd, i
leihau'r risgiau cysylltiedig i ymwelwyr a'r cyngor, a chynnal mynwentydd y cyngor mewn trefn dda. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023. |
|||||||||||||||||
Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Gwastraff PDF 408 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniadau: Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd
yr Aelodau'n gefnogol o'r diwygiadau i'r argymhellion canlynol, fel y nodir
isod: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Cymeradwyo mesur 5 gan ystyried
defnyddio'r biniau storio deunydd ar gyfer cyflwyno fel yr awgrymir gan y
pwyllgor craffu. ·
Cymeradwyo mesur 11 heb ohirio
ymgynghoriadau ar newidiad posib i gasglu sbwriel bob 3 wythnos, er gwaethaf yr
awgrym gan Graffu i'r gwrthwyneb, fodd bynnag, cynhelir yr ymgynghoriad fel
ymagwedd fesul cam. ·
Datblygu protocol Cyfathrebu i
sicrhau ymgysylltu â'r cyhoedd yn gyffredinol mewn perthynas â chael adborth ar
wasanaethau gwastraff drwy'r gwaith sy'n cael ei wneud drwy banel y dinasyddion
sefydledig ac yn ystod cysylltiadau â chwsmeriaid gyda'r gwasanaeth. Roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhellion
canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Cymeradwyo mesurau 1, 4, 6, 7,
9, 10, 12, 13, 14, 15, 16, 17, ac 18, a gynhwysir o fewn yr adroddiad a
ddosbarthwyd; ·
Cymeradwyo mesur 2, sydd wedi'i
gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoi pwyslais ar bwysigrwydd
addysgu'r cyhoedd ar y mesurau newydd posibl, a sicrhau bod taflenni, hysbyseb
a fideos 'sut i' rhithwir yn cael eu darparu i'r cyhoedd er mwyn sicrhau
ymgysylltu a chynyddu ymwybyddiaeth'. Rhoi pwyslais ar ddarparu gwybodaeth am
yr hyn sy'n digwydd i ailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu; ·
Cymeradwyo mesur 3, sydd wedi'i
gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Darparu diweddariad ar ddarparu
bagiau baw cŵn yn yr adroddiad perfformiad chwarterol cyntaf sydd ar gael
12 mis ar ôl i'r bagiau fod ar gael yn gyhoeddus, i gynnwys amserlen o fannau
casglu ar draws y Fwrdeistref Sirol; ·
Cymeradwyo mesur 8, sydd wedi'i
gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Bydd goruchwylwyr Gwasanaethau
Gwastraff a Chymdogaethau yn parhau i fonitro lefelau glendid stryd ar draws y
Fwrdeistref Sirol a gwneud eu gorau, ynghyd â rheolwyr gwasanaeth, i sicrhau
cysondeb o ran cyflwyno gwasanaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol trwy
gyfeiriad yr adnoddau sydd ar gael iddynt; ·
Datblygu protocol cyfathrebu i
dynnu sylw at bolisi'r cyngor ar gasgliadau a gollwyd a sicrhau negeseuon
cyson; ·
Caiff y swm o £350k ei
ddefnyddio at ddiben bwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu, a nodwyd fel rhan o
broses gyllideb refeniw 2023/24 ar gyfer gwastraff, a'i gynnwys yn y gyllideb
sylfaenol fel trosglwyddiad untro o gronfeydd wrth gefn; ·
Bydd Pennaeth Gofal Strydoedd
yn gwneud cais i'r Cabinet, drwy'r Grŵp Llywio'r Rhaglen Gorfforaethol, ar
gyfer dyraniad o £230,000 o'r cyllid cyfalaf o'r cyfalaf wrth gefn er mwyn bwrw
ymlaen â'r mesurau a gymeradwywyd. Rhesymau dros y Penderfyniadau: Y prif reswm dros roi'r cynllun gweithredu ar waith
oedd i barhau i wneud cynnydd tuag at gyrraedd y targed ailgylchu statudol
nesaf, sef 70%, wrth hefyd fynd i'r afael â rhai materion gwasanaeth. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13. |
|||||||||||||||||
Prosiect Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) - Cyngor Castell-nedd Port Talbot PDF 515 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||||
FFRAMWAITH CONTRACTWYR PEIRIANNEG SIFIL RHANBARTHOL DE-ORLLEWIN CYMRU PDF 242 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi'u heithrio) yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||||||||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 244 KB Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth
ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd
y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|||||||||||||||||
CYNNIG ARFAETHEDIG I WAREDU 103 HECTAR O DIR AMAETHYDDOL YN AMODOL AR DENANTIAETH GERLLAW FFERM HENDRE OWEN YN NYFFRYN RHONDDA, PORT TALBOT Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig cam cyntaf, yn amodol ar ddiwallu'r rhwymedigaethau a nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd, dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr
Amgylchedd ac Adfywio (mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Adfywio
Economaidd a Chymunedol) gytuno ac ymrwymo i ddogfennau priodol ar gyfer
gwaredu 103 hectar, neu oddeutu hynny, o dir amaethyddol (yn amodol ar
denantiaeth amaethyddol) sy'n ffinio â Fferm Hendre Owen, Dyffryn Rhondda, Port
Talbot i hwyluso'i ddefnyddio fel Safle Cydadfer Lliniaru Bioamrywiaeth sy'n
gysylltiedig â chyrchfan Wildfox yng Nghwm Afan. Rheswm dros y Penderfyniad: I gael derbyniad cyfalaf ar gyfer gwerthu tir a
hwyluso cydymffurfiaeth â chytundeb Adran 106 rhwng y cyngor a'r datblygwr. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023. |
|||||||||||||||||
Llety Dosbarth Modiwlaidd yn Ysgol Hendrefelin (Bryncoch), Ysgolion Cynradd Blaenhonddan a Chrymlyn Cofnodion: *Ail-gadarnhaodd y Cyng. W.Griffiths ei gysylltiad
a gadawodd y cyfarfod* Eglurodd swyddogion fod yr 'Asesiad Effaith
Integredig' anghywir wedi'i gynnwys fel rhan o'r pecyn agenda a ddosbarthwyd; a
chynghorwyd, wrth ystyried yr adroddiad, y dylai Aelodau ddefnyddio'r 'Asesiad
Effaith Integredig' a ddosbarthwyd fel atodiad i'r agenda. Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid gwahardd Rheolau Gweithdrefn Contract y cyngor yn unol â
rheol 5 a rhoi'r awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ddyfarnu
contract yn uniongyrchol i Mc Avoys am £1,793,500. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn caniatáu i'r cyngor ddiwallu anghenion
disgybl mewn darpariaethau prif ffrwd ac arbenigol drwy ddarparu llety
ychwanegol yr oedd ei angen ar frys. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith ac
felly nid yw'n destun i'r cyfnod galw i mewn o dridiau |