Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybird meeting in Council Chamber
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i
benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 41 KB Cofnodion: Bod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2023 yn cael eu cymeradwyo fel
cofnod cywir. |
|||||||||
Cofnodion: Nodi'r
Flaenraglen Waith. |
|||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd Mae'n rhaid
cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
|||||||||
Priffyrdd a Chludiant - Rhaglen Waith 2023/2024 PDF 373 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo'r
rhaglen waith, fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a ddosbarthwyd ar gyfer
2023/2024. Rheswm dros
y Penderfyniad: Er mwyn
cynnal asedau y mae'r cyngor yn gyfrifol amdanynt a mynd i'r afael â phryderon
y gymuned mewn perthynas â'r un peth. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Cynhaliwyd
Cymorthfeydd Aelodau gydag Aelodau Ward Lleol fel rhan o baratoi'r rhaglen. |
|||||||||
Rhaglen Caffael Cerbydlu a Pheiriannau Trwm 2023/24 PDF 710 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd
diwygiadau awgrymedig i argymhellion Swyddogion gan y Pwyllgor Craffu
blaenorol, fel y nodwyd isod mewn teip trwm: 1.
Bod Aelodau'n cymeradwyo prynu'r cerbydau
heb allyriadau yn y Rhaglen Caffael Cerbydau/Peiriannau arfaethedig ar
gyfer 2023/24 fel y nodir yn atodiad A. 2.
Rhoi Awdurdod Dirprwyedig i'r
Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol,
Trafnidiaeth a Chysylltedd i brynu unrhyw gerbydau heb allyriadau er
mwyn sicrhau argaeledd arian grant a all fod ar gael i gynorthwyo gyda chost
prynu'r cerbydau. 3.
Bod prynu cerbydau sy'n cael eu
pweru gan danwyddau ffosil, sydd wedi'u cynnwys yn atodiad A, ac unrhyw
gerbydau ychwanegol, yn destun adroddiadau pellach i fwrdd y cabinet i'w
cymeradwyo, gyda chyfiawnhad o ran pam nad oes modd prynu dewis arall heb
allyriadau. Ar ôl derbyn
cyngor gan swyddogion, nododd Aelodau'r Cabinet nad oedd rhai cerbydau
arbenigol (fel cerbydau JCB) ar gael ar hyn o bryd fel amrywiolion heb
allyriadau. Eglurodd swyddogion y byddai derbyn argymhellion y Pwyllgorau
Craffu yn niweidiol i gyflwyno gwasanaethau, ac y byddai'n ychwanegu cryn oedi
i'r rhaglen gaffael. Am y rhesymau hyn, ac er bod Aelodau'r Cabinet yn deall
pryderon y Pwyllgor Craffu, dewisodd Bwrdd y Cabinet beidio â chefnogi'r
diwygiadau a wnaed gan y Pwyllgor Craffu. Penderfyniadau: Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig - 1.
Cymeradwyo'r Rhaglen Caffael Cerbydau/Peiriannau ar gyfer 2023/24, fel y
nodir yn atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd. 2.
Rhoi'r Awdurdod Dirprwyedig i'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth mewn
ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a
Chysylltedd i brynu unrhyw gerbydau er mwyn sicrhau argaeledd arian grant a all
fod ar gael i gynorthwyo gyda chost prynu'r cerbydau. Rhesymau
dros y Penderfyniadau: 1.
Bydd y cerbydau a'r peiriannau trwm newydd naill ai’n rhai heb unrhyw
allyriadau, yn hybrid-drydan neu o safon Ewropeaidd uwch, a fydd yn galluogi'r
cerbydlu i fod yn fwy effeithlon o ran tanwydd drwy ddefnyddio llawer llai o
danwydd a lleihau ôl troed carbon y cyngor drwy leihau allyriadau. 2.
Mae Gwasanaeth y Cerbydlu ar y cyd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi
cynnal adolygiad o Gerbydlu'r Cyngor i sefydlu'r defnydd o fewn adrannau a lle
mae cyfleoedd i gyflwyno cerbydau a pheiriannau trydan llawn a rhai eraill heb
allyriadau i leihau ymhellach allyriadau carbon y cyngor yn unol â Chynllun
Trawsnewid Cerbydlu'r cyngor. Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||||||||
Gorchymyn Traffig - Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd - Gwahardd aros PDF 317 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cefnogi’n rhannol y
gwrthwynebiadau i'r B4242 Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd – Gorchymyn Gwahardd
Aros Ar Unrhyw Adeg Arfaethedig, a Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros
Ar y Troedffordd ar Unrhyw Adeg Arfaethedig 2022 (fel y manylir yn Atodiad A
i'r adroddiad a ddosbarthwyd), ac ymgynghorir ar gynllun diwygiedig hefyd (fel
y manylir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd), ac os na chaiff unrhyw
wrthwynebiadau eu derbyn, caiff y cynigion
eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u hysbysebir. Rheswm dros
y Penderfyniad: Atal parcio
diwahaniaeth er diogelwch y briffordd. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|||||||||
Gorchymyn Traffig - Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd - Cyfyngiad Cyflymder 30mya PDF 322 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, diystyru'r gwrthwynebiad i'r B4242
Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd (Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) -
Gorchymyn 2022 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd),
rhoi'r cynllun ar waith fel y'i hysbysebir, a hysbysu’r gwrthwynebydd am y
penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros
y Penderfyniad: Mae angen y
Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar y B4242 Heol
Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio
deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar
waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|||||||||
Gorchymyn Traffig - Y Cymer i Lyncorrwg PDF 307 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi'r C250 o Gymer i Lyncorrwg
(Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2022 (fel y manylir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ar waith fel y'i hysbysebir, diystyru'r
gwrthwynebiad, a hysbysu'r gwrthwynebydd yn unol â hynny. Rheswm dros
y Penderfyniad: Mae angen y
Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar rannau o'r C250 o'r
Cymer i Lyncorrwg o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio
deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar
waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|||||||||
Gorchymyn Traffig - Ffordd Amazon a ffyrdd amrywiol eraill PDF 315 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo
hysbysebu'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 30 mya sy'n
gysylltiedig â Ffordd Amazon, ac unrhyw Eithriadau Terfyn Cyflymder 30 mya
ychwanegol y mae eu hangen o fewn ardal weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot sy'n gysylltiedig â Chyflwyno Terfyn Cyflymder Diofyn
20mya Llywodraeth Cymru 2023 (fel y nodir yn Atodiad A ac Atodiad B i'r
adroddiad a ddosbarthwyd) yn unol â'r gofynion statudol. 2.
Rhoi'r cynlluniau ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol sydd
wedi'u cynnwys o fewn Rheoliadau Traffig y Ffordd presennol, os na cheir unrhyw
wrthwynebiadau, ac os bydd unrhyw wrthwynebiadau yn cael eu derbyn mewn
perthynas ag unrhyw gynlluniau, bydd y rhain yn cael eu hadrodd yn ôl i Fwrdd
Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet am benderfyniad. Rhesymau
dros y Penderfyniadau: Bydd y
gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn newid y llwybrau strategol yn ôl
i derfyn cyflymder o 30mya ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn 20mya yn
genedlaethol er mwyn cynnal llif y traffig ar y prif rwydwaith ffyrdd. Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu. |
|||||||||
Gorchymyn Traffig - Amrywiaeth o fannau parcio unigol i'r anabl PDF 309 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo hysbysebu gorchmynion
rheoleiddio traffig Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl, ar gyfer y lleoliadau
amrywiol, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoi'r cynigion ar waith ar y safle fel y'u
hysbysebir. Rheswm dros
y Penderfyniad: Mae angen y
lleoedd parcio unigol i'r anabl oherwydd mae'r preswylwyr yn bodloni'r holl
feini prawf y mae eu hangen ar gyfer lleoedd parcio unigol i'r anabl, i'w gosod
mewn lleoliadau amrywiol ar draws y Fwrdeistref. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff pob cynllun ei hysbysebu. |
|||||||||
Gorchymyn Traffig - Ar gyfer y Gwasanaethau Rheoli Gwastraff PDF 314 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i
hysbysebu'r cyfyngiadau 'Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg'
(fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad cylchredeg) ac os na chaiff unrhyw
wrthwynebiadau eu derbyn, gweithredir y cynigion ar y safle fel y'u hysbysebir. Rheswm dros
y Penderfyniad: Er mwyn atal
parcio diwahaniaeth wrth gyffyrdd er budd diogelwch ffyrdd gan sicrhau digon o
allu i symud a mynediad ar gyfer cerbydau casglu gwastraff/sbwriel. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynlluniau eu hysbysebu. |
|||||||||
Gorchymyn Traffig - Heol y Pentref, Gerddi'r Pentref a Heol Pentre Afan, Aberafan PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo hysbysebu’r croesfan
toucan uchel arfaethedig, gorchmynion rheoleiddio traffig a mesurau tawelu
traffig (fel y nodwyd yn Atodiad A ac Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd)
ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, dylid rhoi'r cynigion ar waith ar y
safle fel y'u hysbysebir. Rheswm dros
y penderfyniad: 1.
Bydd y groesfan toucan uchel arfaethedig yn darparu man croesi diogel i
gerddwyr a beicwyr er budd diogelwch ffyrdd. 2.
Bydd y mesurau tawelu traffig arfaethedig yn arafu traffig cerbydau ac mae
eu hangen er budd diogelwch ffyrdd. 3.
Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal parcio
diawahaniaeth ac yn hwyluso hynt traffig cerbydau er diogelwch ffyrdd. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu. |
|||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 404 KB Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir bod y Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a ganlyn:- Cwmnïau i'w hychwanegu
at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy Mae'r
cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r
asesiadau angenrheidiol:-
Rhesymau
dros y Penderfyniadau: Cadw'r
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy’n gyfoes a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses
gaffael gystadleuol, ac at ddibenion cyflenwi Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy am
wahoddiad i dendro o fewn y categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniadau
ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||||||||
Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2022/2023 - Chwarter 3 PDF 311 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid
nodi'r adroddiad monitro. |
|||||||||
Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu'r Strategaeth Gwastraff (i ddilyn) PDF 197 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd
yr aelodau gopi o'r adroddiad a baratowyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen
Gwastraff a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Craffu ar Wasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun.
Penderfyniad: Paratoi
adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Craffu ar Wasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a
Strydlun sy'n cynnwys ymateb Bwrdd y Cabinet i'r materion a godwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: I helpu'r
cyngor i gyrraedd y targed ailgylchu statudol nesaf, sef 70% yn 2024/25. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||||||||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd. 2290
(fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 312 KB Cofnodion: Penderfynwyd
gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y
sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|||||||||
Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol (Yn eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, eithrio Rheolau Gweithdrefn y Contract
yn unol â rheol 5, a rhoi'r awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Peirianneg a
Thrafnidiaeth ymestyn y contractau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol presennol
sy'n dod i ben ym mis Gorffennaf 2023, am gyfnod o ddwy flynedd ychwanegol hyd
at Orffennaf 2025. Rheswm dros
y Penderfyniad: I sicrhau
nad yw cyllideb y cyngor yn cael ei heffeithio'n ddireswm gan gostau chwyddedig
artiffisial sy'n cael eu cyflwyno o ganlyniad i'r diffyg cystadleuaeth yn y
farchnad drafnidiaeth bresennol a'r hinsawdd economaidd. Bydd hefyd yn darparu
sicrwydd a diogelwch i weithredwyr sy'n gweithio i CBSCNPT. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |