Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid in Council Chamber
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd penodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
||
Blaenraglen Waith 2022-2023 PDF 555 KB Cofnodion: Nodir Blaenraglen Waith Bwrdd yr Amgylchedd,
Adfywio a Strydlun y Cabinet |
||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus
Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||
Grant Eiddo Masnachol: Canolfan Fusnes Stryd y Dŵr, Port Talbot PDF 919 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig a disgrifiad o'r
gwaith sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, cymeradwyir y grant
o £47,977.53 ar gyfer Canolfan Fusnes Stryd y Dŵr, Port Talbot. Rheswm dros y penderfyniadau: Rhoi
darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r meini prawf
a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio Aberafan ac ardal
ehangach Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw
i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd
unrhyw achosion galw i mewn.
|
||
Grant Eiddo Masnachol: Unedau 1 a 2 Adeiladau Masnachol, Heol Talbot, Port Talbot PDF 970 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Gohirir gwneud penderfyniad ar yr adroddiad tan
gyfarfod Bwrdd Gwasanaethau’r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet yn y
dyfodol. Rheswm: Caniatáu i Swyddogion egluro materion a godwyd gan
y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn mewn perthynas â dechrau
gwaith. |
||
Grant Eiddo Masnachol: 20 Stryd y Frenhines, Castell-nedd PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig a disgrifiad o'r
gwaith sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, cymeradwyir y grant
o £47,966.08 ar gyfer Stryd y Frenhines, Castell-nedd. Rheswm dros y penderfyniadau: Rhoi
darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r meini prawf
a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio canol tref
Castell-nedd. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26
Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion o alw i mewn. |
||
Ymgorffori Tir y Cyngor fel rhan o'r Briffordd PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, bydd y ffordd a'r
llwybr troed, a ddangosir gyda llinellau ar y Cynllun a gynhwysir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd, yn dod yn briffordd i'w chynnal ar draul y cyhoedd. Rheswm dros y penderfyniadau: I
alluogi'r ffordd a'r droedffordd i fod yn briffordd y gellir ei chynnal ar
draul y cyhoedd. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26
Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion o alw i mewn. |
||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yr aelodau'n gefnogol o’r ychwanegiadau at yr
argymhelliad a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd cyn y
cyfarfod hwn (fel y nodir isod). Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i sgrinio'r Asesiad Effaith
Integredig, bydd yr Aelodau’n cymeradwyo'r Canllaw Dylunio Priffyrdd Newydd i'w
roi ar waith yn amodol ar roi ymwadiad priodol ar wefan y cyngor sy'n esbonio
nad yw rhai darpariaethau cyfreithiol a pholisi o bosib yn gyfredol a thynnu
sylw at gydymffurfiaeth â Llwybr Newydd, PPW11 a chyfeiriad penodol at
Ganllawiau Dylunio Teithio Llesol 2021 (sy’n cadarnhau ymrwymiad y cyngor hwn i
Deithio Llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy). Yn ogystal, rhaid i ddiwygiadau i'r
ddogfen yn y dyfodol gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu i'w hadolygu cyn eu
cyflwyno i Lywodraeth Cymru gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru (CSS) neu yn
dilyn fersiynau wedi'u diweddaru gan Lywodraeth Cymru. Rheswm dros y penderfyniadau: I
sicrhau bod gan y cyngor Ganllaw Dylunio Priffyrdd cyfoes sy'n gyson ag
Awdurdodau Lleol eraill Cymru; ac nid yw'n cyfyngu ar greadigrwydd ac arloesedd
wrth ddylunio priffyrdd, gan annog yr Awdurdod Priffyrdd Lleol i fabwysiadu
isadeiledd priffyrdd newydd. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26
Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion o alw i mewn. |
||
Ailadeiladu Wal Gynnal Teras Bevan PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1. Ar ôl rhoi sylw dyledus
i'r Asesiad Effaith Integredig, bydd Aelodau’n nodi cyflwr Wal Gynnal Teras
Bevan 2. Bydd y gwaith o
ailadeiladu'r wal, fel y cyllidebwyd ar ei gyfer yn Rhaglen Gyfalaf y cyngor,
yn cael ei gymeradwyo Rheswm dros y penderfyniadau: Rheoli'r
risgiau a'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â wal gynnal Teras Bevan. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw
i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd
unrhyw achosion o alw i mewn. |
||
Ailadeiladu Wal Gynnal Teras Norton PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1. Ar ôl rhoi sylw dyledus
i'r Asesiad Effaith Integredig, bydd Aelodau’n nodi cyflwr Wal Gynnal Teras
Norton 2. Bydd y gwaith o
ailadeiladu'r wal, fel y cyllidebwyd ar ei gyfer yn Rhaglen Gyfalaf y cyngor, yn
cael ei gymeradwyo Rheswm dros y penderfyniadau: Rheoli'r
risgiau a'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â wal gynnal Teras Norton. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw
i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd
unrhyw achosion o alw i mewn. |
||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi’u heithrio) yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag
Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 312 KB Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth
ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd
y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
||
Cynnig arfaethedig i Ryddhau Cyfamod Cyfyngu a Gwerthu'r Tir Cyfagos (Yn eithriedig o dan baragraff 1) Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, bydd yr amodau a
thelerau ar gyfer rhyddhau budd y cyngor yn y cynnig cyfamod cyfyngu a
gwaredu'r tir cyfagos yn cael eu cymeradwyo. Rheswm dros y penderfyniadau: I gael derbyniad cyfalaf
ar gyfer rhyddhau budd y cyngor yn y cyfamod cyfyngu a gwerthu tir dros ben. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw
i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd
unrhyw achosion o alw i mewn. |