Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybird meeting in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Yn dilyn y drafodaeth yn ystod cyfarfod y Pwyllgor
Craffu ar Wasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, mewn perthynas â
Chynllun Gweithredol y Gaeaf, mynegodd y Cadeirydd yr angen i adolygu manylion
y cynllun. Nodwyd byddai'r Gwasanaethau Democrataidd yn trafod â swyddogion fel
y gellir cynnwys yr adroddiad hwn yn y Flaenraglen Waith.
|
|||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 170 KB Cofnodion: Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr
2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|||||
Cofnodion: Bod y Flaenraglen Waith yn cael ei nodi. |
|||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||
Gorchymyn Addasu arfaethedig ar gyfer cilffordd Rhif 24 yng nghymuned Cilybebyll PDF 227 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Sgrinio
Integredig: · Caiff gorchymyn addasu ei wneud o dan Adran 53 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn
Gwlad 1981, i israddio hyd cilffordd rhif 24 a ddangosir ar y cynllun atodedig
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, rhwng pwyntiau A a B, i lwybr troed. Caiff y
gorchymyn ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau iddo. · Caiff y Map a’r Datganiad Diffiniol eu diwygio i adlewyrchu'r lled o 3
troedfedd i 4 metr rhwng pwyntiau A a C. Rheswm dros y penderfyniad Gan ystyried y dystiolaeth hanesyddol a nodwyd yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd, roedd digon o sail i newid dynodiad rhan o
gilffordd gyhoeddus rhif 24 sy’n cael ei dangos fel A-B ar y cynllun a
gynhwysir o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 24 Ionawr
2023. |
|||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig: ·
Caiff y gwrthwynebiadau i’r A48
Heol Margam i Bort Talbot (Dirymiad) a (Therfynau Cyflymder 30MYA) - Gorchymyn
2022 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) eu gwrthod a
chaiff y cynllun ei roi ar waith fel y'i hysbysebwyd. ·
Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r
penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd angen y gorchmynion i gynnal y terfyn
cyflymder presennol o 30 mya ar rannau o'r A48 Heol Margam, yr A48 Heol
Fasnachol, yr A48 Heol Talbot, yr A48 Ffordd Heilbronn, Heol Dyffryn a Heol yr
Abaty o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi
terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er
diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 24 Ionawr
2023. |
|||||
Mesurau Arafu Traffig ar y B4434 Heol Newydd, Y Clun - Hysbysiad 2022 PDF 315 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Caiff y gwrthwynebiadau i’r
Mesurau Tawelu Traffig yn y B4434, Heol Newydd, Y Clun - Hysbysiad 2022 (fel y
nodir ar dudalen 60 yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) eu gwrthod a chaiff
y cynllun ei roi ar waith fel y'i hysbysebwyd. ·
Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r
penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd angen y clustogau arafu arfaethedig er
diogelwch y briffordd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 24 Ionawr
2023. |
|||||
Y B4287 Heol Cimla, Cimla, Castell-nedd (Terfyn Cyflymder 30MYA) - Gorchymyn 2022 PDF 320 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig: ·
Caiff y gwrthwynebiadau i’r
B4287 Heol Cimla, Cimla, Castell-nedd (terfyn cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2022
(fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) eu gwrthod a chaiff y
cynllun ei roi ar waith fel y'i hysbysebwyd. ·
Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r
penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Roedd angen y Gorchmynion i gynnal y terfyn
cyflymder presennol o 30mya ar rannau o'r B4287 Heol Cimla, Cimla, Castell-nedd
o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn
cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er
diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 24 Ionawr
2023. |
|||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 403 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, caiff y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ei newid fel a ganlyn:- Ychwanegir y cwmni at y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy Mae'r cwmni canlynol wedi gwneud cais i gael ei
gynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-
Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 24 Ionawr
2023. |
|||||
Astudiaeth Genedlaethol Archwilio Cymru - Adolygiad Gwaelodlin Datgarboneiddio Sero Net PDF 396 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Nodir yr adroddiad. |
|||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi’u heithrio) yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn
Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd PDF 312 KB Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Penderfyniad: Gwaherddir y cyhoedd o'r cyfarfod wrth i’r eitem
fusnes ganlynol gael ei hystyried ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd
(lle bo'n briodol. |
|||||
Trosglwyddo tir ac adeiladu uned fasnachol yn Iard Burrows - Diweddariad Cofnodion: Penderfyniad: Nodir yr adroddiad. |