Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybird meeting in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Eglurodd swyddogion fod y trydydd paragraff o dan
adran 'Asesiad Effaith Integredig' yr adroddiad a gylchredwyd wedi'i gynnwys
trwy gamgymeriad, ac ni ddylid ei ystyried fel rhan o'r adroddiad. Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith
sgrinio integredig: 1.
Bod cymeradwyaeth yn cael ei
rhoi i hysbysebu'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 30mya sy'n
gysylltiedig â bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o
20mya yn genedlaethol yn 2023 (fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a
gylchredwyd) yn unol â'r gofynion statudol. 2.
Bod y cynlluniau'n cael eu rhoi
ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a gynhwysir yn y Rheoliadau
Traffig Ffyrdd cyfredol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau. Os
bydd unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn mewn perthynas ag unrhyw
gynlluniau, adroddir yn ôl am y rhain wrth Fwrdd Gwasanaethau'r Amgylchedd,
Adfywio a Strydlun y Cabinet am benderfyniad. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig
yn newid y llwybrau strategol yn ôl i derfyn cyflymder o 30mya ar ôl cyflwyno'r
terfyn cyflymder diofyn 20mya yn genedlaethol er mwyn cynnal llif y traffig ar
y prif rwydwaith ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol PDF 624 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod gwall
wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a gylchredwyd, a chyfeiriwyd ato yn y drafodaeth
a gynhaliwyd yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio
a Strydlun, a gynhaliwyd cyn cyfarfod Bwrdd y Cabinet. Penderfyniadau: Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr
Aelodau'n gefnogol o ychwanegu rhif 4 at yr argymhelliad, fel y nodir isod: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig: 1.
Bod y Cyngor yn cymryd rhan ym
mhrosiect Y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol (CATG) ac yn llofnodi'r
Cytundeb Dosbarthu Data mewn perthynas ag Opsiwn 2 yn yr adroddiad a
gylchredwyd; 2.
Bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd
ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd, yn cael ei awdurdodi i lofnodi'r Cytundeb Dosbarthu Data ar ran y
cyngor; 3.
Petai pwysau refeniw yn deillio
o gymryd rhan yn y prosiect mewn perthynas ag Opsiwn 2, byddai angen nodi
cyllid o fewn y gyllideb bresennol ar gyfer yr Amgylchedd ac Adfywio petai
parhad yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth; 4.
Bod adolygiad ar gostau a
manteision opsiwn 2, a gynhwysir yn yr adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei
ddwyn yn ôl i Bwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ym
mis Ebrill 2024 sy'n manylu ar barhad posib y cynllun. Rheswm dros y Penderfyniad: Penderfynu ar yr ymateb i gais i ymuno â Chofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol
Llywodraeth y DU. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig: 1.
Bod Gorchymyn Diddymu llwybr
cyhoeddus yn cael ei wneud yn unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn
perthynas â'r llwybr a ddangosir A-F-B-B ac F-G-H-I-E a ddangosir ar y cynllun
atodedig yn Atodiad 2 o'r adroddiad a gylchredwyd. Bod y gorchymyn hwn hefyd yn
cael ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau
iddo. 2.
Bod Gorchymyn Creu llwybr
cyhoeddus yn cael ei wneud yn unol ag Adran 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn
perthynas â'r llwybr a ddangosir fel A-B ac C-D-E a ddangosir ar y cynllun
atodedig yn Atodiad 2 yr adroddiad a gylchredwyd. Bod y gorchymyn hwn hefyd yn
cael ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau
iddo. Rheswm dros y Penderfyniad: Gwneir y gorchmynion hyn gan yr ystyrir ei fod yn
fuddiol symud cyffordd y tri llwybr hyn o fuarth fferm Gelliwarog a darparu
mynediad ffurfiol i'r cyhoedd ar draws y tir yn lle'r hydoedd presennol sydd
dan sylw. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig, bod Gorchymyn Diddymu llwybr cyhoeddus yn cael ei wneud yn
unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn perthynas â'r llwybr a
ddangosir A-B-C-D a ddangosir ar gynllun atodedig yr adroddiad a gylchredwyd.
Bod y gorchymyn hwn hefyd yn cael ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau iddo. Rheswm dros y Penderfyniad: 1. Mae angen datrys y ffordd y darlunnir llwybr cyhoeddus sy'n rhedeg trwy dai
pan fo dewis arall addas yn bodoli. 2. Ni chafodd y dewis arall a ddarparwyd yn wreiddiol erioed ei wneud yn
destun gorchymyn dargyfeirio adeg y datblygiad tai. Ond eto, ers ei gau, does
dim galw wedi bod i'w ailagor. 3. Oherwydd bodolaeth ffyrdd y stad o fewn y datblygiad tai, mae dewis arall
addas ar gael trwy'r llwybrau troed sy'n cefnogi'r achos nad oes angen y llwybr
A-B-C-D ymhellach. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i hysbysebu'r gorchymyn
rheoleiddio traffig oddi ar y stryd ar Iard Mackworth, a'r gorchymyn
rheoleiddio traffig ar Ffordd Fairfield mewn cysylltiad â'r Datblygiad
Manwerthu a Hamdden newydd yng Nghastell-nedd, (fel y nodwyd yn Atodiad A ac
Atodiad B i'r adroddiad a gylchredwyd) ac os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau, fod y cynigion yn cael eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig
yn atal parcio diawahaniaeth ac yn hwyluso hynt traffig cerbydau er diogelwch
ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, bod y gwrthwynebiadau i'r Gorchymyn (Dirymu) Gwahardd Aros, Llwytho
a Dadlwytho Ar Unrhyw Adeg) a (Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg) 2022 ar gyfer Cei
Mariners, Ffordd y Dywysoges Margaret a Heol Victoria, Port Talbot, yn cael eu
cefnogi'n rhannol (fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) a bod
y cynllun diwygiedig (fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad a gylchredwyd) yn
cael ei roi ar waith ar y safle, a bod y
gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig
yn hwyluso traffig i deithio'n ddiogel ac yn atal parcio diwahaniaeth er
diogelwch ar y ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 410 KB Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a
ganlyn:- Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy. Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu
cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-
Cwmnïau categorïau ychwanegol i'w hychwanegu at y
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu
cynnwys ar y rhestr ar gyfer categorïau ychwanegol ac wedi pasio'r asesiadau
angenrheidiol:-
Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi’u heithrio) yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn
Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |