Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamb
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd penodi'r Cynghorydd J Hurley yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 262 KB Cofnodion: Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth
2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|||||||||
Cofnodion: Nodi'r Flaenraglen Waith. |
|||||||||
Amser Cwestiynau gan y Cyhoedd Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.
Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy PDF 415 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar
ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, diwygio'r Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy i gynnwys y cwmnïau canlynol gan eu bod wedi pasio'r
asesiadau gofynnol:
Rheswm dros y penderfyniad: Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Mehefin
2023. |
|||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: ·
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r
asesiad effaith integredig, bod y gwrthwynebiad yn cael ei wrthod mewn
perthynas â'r B4242 Heol Pontneathvaughan a'r Stryd Fawr (Dirymiad) (Gwahardd
Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg), a (Gwahardd Aros ar y Droedffordd ar
Unrhyw Adeg) - Gorchymyn 2023. ·
Rhoi'r cynllun ar waith, fel
yr hysbyswyd, a'i fonitro wrth symud ymlaen. ·
Hysbysu’r gwrthwynebydd o'r
penderfyniad yn unol â hynny. Rheswm dros y penderfyniad: Mae'r Gorchmynion yn angenrheidiol er mwyn atal
parcio diwahaniaeth er budd diogelwch ffyrdd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Mehefin
2023. |
|||||||||
Ystyried argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar adroddiad adolygu opsiynau parcio 2023 PDF 369 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau y cynnig a dderbyniwyd gan
Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Cymdogaeth, a gynhaliwyd
cyn y cyfarfod hwn, gan ychwanegu'r canlynol at yr argymhellion: 'bod oriau
gweithredu'r parth cerddwyr yng Nghastell-nedd yn cael eu hadolygu yn y
dyfodol.' Cytunwyd y byddai ymateb yn cael ei baratoi a'i anfon at Gadeirydd y
Pwyllgor Craffu. Penderfyniad: Nodi’r adroddiad. |
|||||||||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)
Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||||||
Mynediad i gyfarfodydd PDF 244 KB Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth
ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd
y Cyhoedd (lle bo'n briodol). |
|||||||||
Contract trin gwastraff bwyd Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr asesiad
effaith integredig, cymeradwywyd y penderfyniad i wahardd Rheolau Gweithdrefnau
Contractau (RhGC) y cyngor a dyfarnu contract dwy flynedd uniongyrchol i Biogen
ar gyfer trin gwastraff bwyd, yn unol â'u dyfynbris o £42 o incwm fesul
tunnell. Rheswm dros y penderfyniad: Sicrhau triniaeth barhaus o wastraff bwyd a gesglir
gan wneud incwm sylweddol uwch. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Mehefin
2023. |
|||||||||
Caffael Capel Soar Maes-yr-haf Castell-nedd (eithriedig dan Baragraff 14)
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, cymeradwyo'r cynnig arfaethedig i gaffael y capel. Rheswm dros y penderfyniad: Sicrhau bod y cyngor yn caffael safle strategol, yn
unol â'i gynigion cyffredinol i adfywio canol y dref. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Mehefin
2023. |
|||||||||
Adleoli'r Cerbydlu - Penodi Ymgynghorwyr (eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo dyfarnu contract Ymgynghorwyr
uniongyrchol ar gyfer gwaith mewn perthynas ag adleoli'r cerbydlu casglu yng
Ngorsaf Trosglwyddo Gwastraff Crymlyn Burrows, i SLR Consulting Ltd ar gyfer
cyfnod o flwyddyn y prosiect ar gyfer gwasanaethau a nodir yn yr adroddiad. Rhoi cymeradwyaeth i swyddogion gwblhau'r cytundeb
angenrheidiol a'r dogfennau cysylltiedig ar gyfer Fframwaith EPSO y sector
cyhoeddus at yr un dibenion. Rheswm dros y penderfyniad: Hwyluso cynnydd y gwaith i Adleoli'r Cerbydlu
Casglu a gytunwyd yn flaenorol gan Aelodau a lleihau risgiau’r prosiect. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Mehefin
2023. |