Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ·
3 Medi 2024 ·
14 Hydref 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 3 Medi 2024 a 14 Hydref 2024 fel cofnodion gwir a chywir. |
|
Diweddariad yr Is-bwyllgor – Cynllunio Strategol (Ymgynghoriad) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda. Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu bod pob sefydliad
rhanbarthol yn paratoi Cynllun Datblygu Strategol. Bu'r gofyniad hwn ar waith
ers amser maith. Mae'r rhanbarth wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru am yr
adnoddau i allu ymgymryd â'r cyfrifoldeb. Mae cost amcangyfrifedig paratoi
Cynllun Datblygu Strategol oddeutu £2.5m. Nid oes gan y rhanbarth y cyllid i
lunio'r cynllun. Ar hyn o bryd, mae'r rhanbarth wedi dyrannu £20,000 i lunio
ymateb rhanbarthol i'r cynllun. Cadarnhawyd nad oes gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig
yr adnoddau ariannol i lunio'r cynllun, ac nad oes ganddo'r swyddogion
cynllunio angenrheidiol i ddatblygu'r polisi hwnnw. Cadarnhaodd y swyddog fod Gogledd Cymru a
Chanolbarth Cymru yn yr un sefyllfa o ran yr eitem hon ac nad ydynt wedi mynd
rhagddynt i baratoi cytundeb cyflawni. Credir bod Caerdydd wedi paratoi
cytundeb cyflawni ond nad ydynt wedi dechau rhoi'r cytundeb hwn ar waith gan yr
amcangyfrifwyd y bydd yn costio £3.5m. Mae Llywodraeth Cymru wrthi hefyd yn paratoi
llawlyfr ar gyfer pob un o'r rhanbarthau y bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio ag
ef wrth ddatblygu'r Cynllun Datblygu Strategol. Rhannwyd fersiwn ddrafft o'r
arweiniad ar y Cynllun Datblygu Strategol â swyddogion cynllunio ledled Cymru'n
gynharach yn y flwyddyn, gan awgrymu y byddai'r arweiniad swyddogol yn cael ei
gyhoeddi'n ddiweddarach yn y flwyddyn. Hyd yn hyn, nid yw hwn wedi cael ei
gyhoeddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y caiff ei gyhoeddi yng ngwanwyn
2025. Dywedodd y swyddogion na fyddai'n gyfrifol i'r rhanbarth ddechrau paratoi
Cynllun Datblygu Strategol heb yr arweiniad gan Lywodraeth Cymru. Mynegodd yr aelodau eu rhwystredigaeth nad oes
digon o arian ar gael i gefnogi swyddogaethau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Ar
ben hynny, rhoddir straen a phwysau amhriodol ar y swyddogion sy'n ymgymryd â
dyletswyddau gofynnol y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Yn dilyn gwaith craffu, mae'r aelodau'n nodi ac yn
cymeradwyo'r trosolwg o'r broses o wneud y gwaith gofynnol yn unol â Rheoliadau
Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021, gan nodi'n
benodol yr anawsterau wrth gydymffurfio â'r rhwymedigaethau cyfreithiol a
chymeradwyo Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru i gyfathrebu ymhellach â
Llywodraeth Cymru ac ysgrifenyddion y Cabinet i roi gwybod am yr hynt a'r
heriau er mwyn cyfyngu ar unrhyw gamau yn erbyn y cyd-bwyllgor am unrhyw doriadau
posib. |
|
Blaenraglen Waith 2024-2025 · Blaenraglen Waith Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru 2024-2025 · Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu 2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd y newyddion diweddaraf i'r aelodau am
eitemau ar gyfer y Flaenraglen Waith. Penderfynodd yr aelodau ar eitemau a ddewiswyd o
Flaenraglen Waith y Cyd-bwyllgor Corfforedig, i'w hystyried yn y cyfarfod a
gynhelir ym mis Ionawr 2025. Nododd yr aelodau y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |