Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Welcome

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Pwyllgor a rhoddwyd croeso iddynt.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 211 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

5.

Cynllun Corfforaethol Drafft 2023-2028 pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau ar lafar a rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint iddynt ar y cynnydd gweithredol sy'n berthnasol i ddatblygiad y Cynllun Corfforaethol Drafft. Roedd hwn hefyd yn gyfle i aelodau craffu fwydo i mewn i'r ymarfer ymgynghori 6 wythnos, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhoddodd y Cadeirydd glod i swyddogion ar y cynnydd a wnaed o ran cyhoeddi'r Cynllun Corfforaethol Drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Deellir mai De-orllewin Cymru fydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig cyntaf yng Nghymru i gynhyrchu Cynllun Corfforaethol.

 

Dywedodd aelodau o fewn adroddiadau'r dyfodol dylid cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol megis polisïau neu strategaethau fel atodiadau ac nid fel dolenni o fewn yr adroddiad.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y gyfradd ymateb bosib mewn perthynas â'r broses ymgynghori barhaus. Esboniodd swyddogion dylid ystyried y gyfradd ymateb hyd heddiw yn ddiymhongar yn nhermau rhifiadol, fodd bynnag, roedd manylion yr ymatebion a dderbyniwyd yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol.

 

Cyfeiriwyd at y rhaglen gyhoeddusrwydd a'r ymagwedd a ddefnyddiwyd i gynyddu ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad. Teimlodd aelodau fod angen ymagwedd ehangach ar ymgynghoriadau'r dyfodol a rhagor o gyfathrebu ynghylch yr ymgynghoriad i sicrhau cyfradd ymateb uwch.

 

Trafododd aelodau cyfyngiadau'r gyllideb. Nodwyd bod angen i'r Cynllun Corfforaethol fod yn ddyheadol ac yn gyflawnadwy. Mae'r amcanion lles a ddewiswyd yn cyd-fynd â'r pwerau a'r dyletswyddau sydd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Bydd gan aelodau gyfle i adolygu'r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno'r amcanion lles yn flynyddol.

 

Nodwyd bod atodiadau'r Cynllun Corfforaethol Drafft yn manylu ar ddyddiadau dyheadol sy'n golygu y gall bod yn anodd fesur y cynnydd. Nodwyd bod angen cynnwys meincnodau er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor Craffu gyflawni ei weithredoedd wrth graffu ar y perfformiadau hyn.

 

Nododd aelodau'r adroddiad a chroesawyd y ffaith y byddant yn derbyn Adroddiadau Blynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni amcanion lles y Cynllun Corfforaethol.

 

Nodwyd y byddai'r ymatebion o gyfarfod heddiw yn cael eu cofnodi a'u cynnwys o fewn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Gyda llythyr gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Craffu - Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu i Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

 

6.

Cynllun Cyflawni Economaidd De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 364 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru a darparwyd trosolwg o'r mentrau ehangach hynny a gynhelir o fewn y rhanbarth.

 

Trafododd aelodau'r astudiaeth dichonoldeb cerbydau hydrogen a thrydanol a nodwyd o fewn rhaglen y Ddaear a holodd pam comisiynwyd yr astudiaeth dichonoldeb hydrogen. Darparodd swyddogion drosolwg o'r rhesymau y byddai angen cerbydau hydrogen. Nodwyd y byddai adroddiad yn cael ei ailgyflwyno i'r pwyllgor yn y dyfodol a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon.

 

Gofynnodd aelodau am y broses o dderbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Esboniodd swyddogion fod cyllid wedi'i sicrhau yn lleol ac yn rhanbarthol ac nad oedd unrhyw arian cyfatebol.

 

Cynhaliwyd trafodaethau pellach ynghylch cyllid amgen y mae ei angen i gefnogi'r Cyd-bwyllgor Corfforedig wrth ddarparu'r Cynllun Cyflawni Economaidd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Craffu am ddiben y Cyd-bwyllgor Corfforedig o ran cymryd rhan mewn gwneud ceisiadau am gyllid. Yn dilyn trafodaethau, roedd aelodau'n bryderus fod y rhan fwyaf o geisiadau am gyllid yn cael eu prosesu trwy awdurdodau unigol ac nid y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ei gyfanrwydd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

 

7.

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol 2025 - 2030 pdf eicon PDF 333 KB

Cofnodion:

Cafodd yr aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran darparu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer y cyfnod pum mlynedd rhwng 2025 a 2030, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch yr adnoddau y byddai eu hangen i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd yn glir o'r trafodaethau bod diffyg adnoddau a chyllid. Nodwyd nad oedd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu unrhyw adnoddau i helpu i gefnogi'r cynllun hwn. Rhoddodd swyddogion sicrwydd i aelodau y byddant yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

Yn dilyn trafodaethau, roedd aelodau'n bryderus am yr ymagwedd a'r diffyg adnoddau i gefnogi'r cynllun hwn. Felly, cytunwyd y byddai gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig - Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu, awdurdod dirprwyedig i ysgrifennu llythyr at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig a fyddai'n nodi barn a phryderon y pwyllgor a godwyd o fewn y tri phwnc a drafodwyd yn ystod cyfarfod heddiw.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

 

 

8.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 418 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.

 

9.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.