Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Trosolwg A Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-Orllewin Cymru - Dydd Gwener, 27ain Ionawr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 194 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd fel cofnod cywir.

 

4.

Cyllideb ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2023/24 pdf eicon PDF 727 KB

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr drosolwg byr o'r gyllideb, gan ddarparu manylion am ffocws presennol y gyllideb yn ogystal â'r ffocws yn y dyfodol dros y 12 mis nesaf. Darparodd Swyddog Adran 151 fanylion am gefndir gosod y gyllideb.

 

Nododd aelodau'r gwall canlynol o fewn yr agenda/adroddiad:

 

·        Ar dudalen 2 o becyn yr agenda, dylai'r dyddiad darllen '20 Ionawr 2023' ac nid '20 Mawrth 2023' fel a nodwyd.

·        Ar dudalen 8 yr adroddiad, paragraff 2.4, nodwyd y dylai'r ffigwr ddarllen 140,000 ac nid 140,0000.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch cyllid y DU a Llywodraeth Cymru a oedd ar gael. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch lleoliad yr arian hwn ac a oedd yn cael ei gynnwys o fewn Cyllideb y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cadarnhawyd nad oedd o fewn Cyllideb y Cyd-bwyllgor Corfforedig ac roedd yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac roedd yn eistedd o fewn awdurdodau unigol. Tynnwyd sylw'r pwyllgor at y ffaith mai pwrpas yr wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw rhoi gwybod i aelodau bod arian ar gael i helpu i gefnogi prosiectau penodol.

 

Darparwyd esboniadau ynghylch cymhlethdodau technegol sydd wedi codi gan fod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn endid ar ei ben ei hunain ac mae angen pwerau Adran 33 arno. Nodwyd bod goblygiadau TAW yn ogystal â phroblemau technegol eraill o fewn Adran 150. Nodwyd bod swyddogion yn hapus i ddarparu adroddiad ar hyn yn y dyfodol gan ddarparu rhagor o fanylion.

 

Holodd aelodau am y gyllideb £617,753 a gofynnodd beth fyddai diben a chanlyniadau'r arian hwn gan fod y prif fanylion am y gwariant yn benodol ynghylch dyletswyddau gweinyddiaeth. Esboniodd swyddogion fod y flwyddyn gyntaf yn benodol ar gyfer sefydlu endid y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn unol â'r gofynion cyfreithiol, sy'n costio. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru'n awyddus i weithio ar y cyd, yn benodol yn y meysydd canlynol - Trafnidiaeth, Cynllunio, Datblygiad Economaidd ac Ynni. Nodwyd bod llawer o weinyddiaeth yn rhan o hyn, fodd bynnag, nid yw'r holl waith o fewn y gyllideb yn weinyddol.

 

Roedd aelodau'n ymwybodol bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn endid ar ei ben ei hunain, byddai o fewn cylch gwaith Swyddfa Archwilio Cymru fel corff ar wahân i sicrhau bod llywodraethu a gwerth am arian y gyllideb yn cael eu penderfynu'n briodol. Felly, gofynnodd aelodau am eglurder ynghylch y Swyddfa Rheoli Rhanbarthol oherwydd nodwyd ffigurau'r gyllideb fel amcangyfrif o gostau ac roedd angen sicrwydd nad oedd unrhyw botensial i'r costau hyn gynyddu. Darparodd swyddogion sicrwydd i aelodau ac esboniwyd bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ifanc iawn ac roedd gwaith y Grŵp Rheoli Rhanbarthol yn cael eu penderfynu o hyd. Rhoddwyd sicrwydd i aelodau byddai'r costau ar gyfer y Swyddfa Rheoli Rhanbarthol yn cael eu rheoli a'u cadw o fewn y costau.

 

Nodwyd y byddai Craffu yn derbyn adroddiadau monitro'r Gyllideb yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gweld unrhyw gostau yn ystod y flwyddyn galendr nesaf.

 

Rhoddodd swyddogion sicrwydd i aelodau ynghylch taliadau'r Prif Weithredwr a nodwyd o fewn y gyllideb. Nodwyd bod y taliadau hyn ar gyfer yr adran  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 418 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

6.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.