Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Welcome

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Pwyllgor a rhoddwyd croeso iddynt. 

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

5.

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Craffu i Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor Corfforaethol pdf eicon PDF 287 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd yr aelodau am yr ohebiaeth rhwng Cadeiryddion Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roedd hyn o ganlyniad i gyfarfod blaenorol o'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2023 lle amlygodd aelodau eu barn a'u pryderon, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Croesawodd yr aelodau'r cynnig gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i fynychu cyfarfod craffu yn y dyfodol a darparu sicrwydd pellach. Cytunodd y pwyllgor y byddai'n caniatáu amser i newidiadau posib ddigwydd yn y lle cyntaf ac y byddai'n croesawu'r Cadeirydd i fynychu cyfarfod craffu yn y dyfodol, o fewn y 6 mis nesaf.

 

6.

Cynllun Datblygu Strategol De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Diweddarwyd yr aelodau ynghylch gydrannau a chamau allweddol y Cynllun Datblygu Strategol (CDS); yr opsiynau ar gyfer cyflawni'r rhaglen waith; y materion a risgiau presennol; a throsolwg o'r astudiaethau sylfaen dystiolaeth cydweithredol a gynhaliwyd ar draws De-orllewin Cymru, fel a fanylwyd o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaethau am gymhlethdodau Creu Cynllun Datblygu Strategol rhanbarthol tra y byddai cynghorau lleol yn datblygu eu Cynllun Datblygu Lleol. Roedd pryderon y gallai hyn achosi dyblygiad , yn ogystal â defnyddio llawer o adnoddau oherwydd cymhlethdodau creu'r cynlluniau yn gydlynol.

 

Gofynnodd aelodau am y rheswm pam yr oedd Llywodraeth Cymru wedi dewis i'r cynlluniau gael eu cwblhau yn y ffordd hon wrth symud ymlaen. Roedd aelodau'n pryderu y byddai hyn yn ddwys o ran adnoddau i swyddogion, heb unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i gefnogi'r broses. Esboniodd aelodau y byddai cymhlethdodau/materion clir yn codi o'r Cynllun Datblygu Lleol, y gellir ymdrin â nhw ar lefel ranbarthol. Amheuwyd mai dyma'r rheswm pam yr oedd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn datblygu'r cynlluniau yn y ffordd hon wrth symud ymlaen.

 

Gofynnodd yr aelodau a fyddai unrhyw gyfranogaeth gan y Parciau Cenedlaethol mewn perthynas â chraffu. Nodwyd, yn gyfreithiol roeddent yn y broses o gyfethol cynrychiolwyr o'r ddau Barc Cenedlaethol ar y Pwyllgor Craffu.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

7.

Diweddariad am Strategaeth Ynni De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 553 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau ynghylch y datblygiadau ar draws yr agenda ynni ranbarthol, yn unol â Chynllun Corfforaethol (Cynllun Gweithredu) y Cyd-bwyllgor Corfforedig a fabwysiadwyd ym mis Mawrth 2023, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

Nodwyd bod cymhlethdodau gyda fersiwn gyhoeddedig y cynllun gweithredu atodedig yn Atodiad C yr adroddiad a ddosbarthwyd. Gofynnwyd i hyn gael ei drafod eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Nododd aelodau fod grant o £350,000 wedi'i ddarparu i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig i ganiatáu ar gyfer cynnal proses gofyniad, ac i helpu i gyflymu cynlluniau lleol a rhanbarthol a chydlynu cyflenwi.

 

Cafwyd trafodaethau mewn perthynas â chynllun Llywodraeth Cymru i gael targed carbon sero-net y bydd holl awdurdodau lleol Cymru'n rhan ohono ac yn ei gyflawni erbyn 2030. Mynegodd aelodau eu pryderon mewn perthynas â graddfa'r buddsoddiad sydd ei hangen i gyrraedd y targed hwn a'r cyflymdra o gyflawni hyn o fewn y 7 mlynedd nesaf. Nodwyd y byddai hyn yn anodd ac yn gostus iawn.

 

Yn dilyn trafodaethau, teimlodd aelodau ei bod yn bwysig anfon llythyr  at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn mynegi'r pryderon a fanylwyd o fewn yr eitem hon.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

8.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion y diweddaraf i'r aelodau am y Flaenraglen Waith. Nodwyd y byddai gan aelodau gyfle i ychwanegu at Flaenraglen Waith 2023/2024 yn ystod Sesiwn Flaenraglen Waith yn y dyfodol.

 

Gofynnodd yr aelodau i'r Cynllun Gweithredu Ynni gael ei gynnwys yn y Flaenraglen Waith a'i drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.  

 

9.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.