Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso

Cofnodion:

Cyflwynodd a chroesawodd Swyddog Monitro'r Cyd-bwyllgor Corfforedig y Pwyllgor.

 

2.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru

Cofnodion:

Penodwyd y Cyng. Richard Sparks yn Gadeirydd ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu

 

Penodwyd Y Cyng. Tim Bowen fel Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu

 

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

5.

Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru pdf eicon PDF 261 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg o'r cyfrifoldebau o fewn strwythur Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a'r broses benderfynu i'r Aelodau, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnod aelodau am gyfranogiad y Parciau Cenedlaethol ar y prif Gyd-bwyllgor Corfforedig, fodd bynnag nid oeddent yn rhan o'r Pwyllgor Craffu. Hysbysodd swyddogion yr aelodau fod hyn yn cael ei drafod o hyd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig i drafod sut y bydd y parciau cenedlaethol yn ymwneud â phob statws gwahanol wrth symud ymlaen.  Nododd yr aelodau y byddai swyddogion yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor trosolwg a chraffu, yn amodol ar adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad.

 

6.

Cylch Gorchwyl Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru. pdf eicon PDF 205 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i aelodau mewn perthynas â chylch gorchwyl Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a'r Pwyllgor Craffu, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnwyd am eglurder ynghylch y cyrff allanol a fyddai  ar gael ar gyfer craffu, fel a amlygwyd yn y cylch gorchwyl. Cadarnhaodd swyddogion y byddai'n gyfyngedig, fodd bynnag byddai unrhyw gyrff allanol a fyddai'n rhan o broses y Cyd-bwyllgor Craffu Corfforedig yn agored i graffu.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

7.

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Blaenraglen Waith y Prif Weithredwr. pdf eicon PDF 420 KB

Cofnodion:

Croesawodd yr aelodau Brif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig

 

Diweddarwyd yr aelodau am flaenraglen waith bresennol y Cyd-bwyllgor Corfforedig a rôl Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig ynghyd â'r trefniadau a fydd ar waith ar gyfer rhyddhau gwasanaethau, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch fformat y gyllideb a'i phrosesu. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid drosolwg o'r gyllideb. Nodwyd bod dolen i gyfarfod blaenorol y Cyd-bwyllgor Corfforedig lle cymeradwywyd y gyllideb ar gyfer 2022/23. Gofynnodd yr aelodau i gyllideb 2023/24 gael ei chynnwys yn y flaenraglen waith ym mis Ionawr.

 

 

Nododd yr aelodau fod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn datblygu Cynllun Trafnidiaeth erbyn mis Rhagfyr 2022 ac y byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ym mis Mehefin 2022. Holodd yr aelodau a oedd y dyddiadau hyn yn gywir. Eglurodd swyddogion fod y dyddiadau'n gywir pan ddrafftiwyd yr adroddiad gwreiddiol, fodd bynnag roeddent yn aros am arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi achosi oedi o ran y dyddiadau.  Cadarnhaodd swyddogion, yn dilyn arweiniad pellach byddai diweddariad yn cael ei roi i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch pynciau yr oedd yr aelodau am eu cynnwys yn y flaenraglen waith Trosolwg a Chraffu. Cytunwyd y byddai sesiwn flaenraglen waith yn cael ei threfnu i ganiatáu i'r pwyllgor ychwanegu ymhellach at eu blaenraglen waith. 

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

8.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Ni datganwyd unrhyw fuddiannau.