Agenda a chofnodion drafft

Special, Is-bwyllgor Trosolwg A Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-Orllewin Cymru - Dydd Llun, 14eg Hydref, 2024 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Diweddariad ar gynnydd cyffredinol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2023/24 pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y’i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Amlinellodd y swyddog gynnwys yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn wahanol i'r adroddiad blynyddol sy'n cynnwys ystyriaeth o fonitro ariannol.

 

Mae'r adroddiad yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn 2023/24. Mae'r adroddiad yn disgrifio'r trefniadau llywodraethu sydd ar waith ac yn ystyried ymgysylltu â phartneriaid ac yn allanol drwy'r aelodau cyfetholedig. Mae'r adroddiad yn disgrifio cynnydd swyddogaethau'r Cydbwyllgor Corfforedig (CBC), mewn perthynas â thrafnidiaeth ranbarthol, ynni, lles economaidd, datblygiad economaidd a chynllunio strategol yn benodol.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried blaenoriaethau ar gyfer Hydref 2024 ymlaen. Mae'r blaenoriaethau hyn yn edrych ar benodi ymgynghorwyr ychwanegol ar gyfer bwrdd cynghori'r sector preifat. Un o'r prif flaenoriaethau a nodwyd yw cwblhau'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rhanbarthol.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau hefyd y bydd gweithdy'n cael ei gynnal ym mis Tachwedd i ystyried beth fydd y blaenoriaethau ar gyfer 2025/26.

 

Yn dilyn craffu, nododd a chymeradwyodd yr aelodau gynnydd cyffredinol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2023/24.

 

4.

Hysbysiad Cydymffurfio Safonau’r Gymraeg pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y’i dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Mae'r adroddiad yn amlinellu pa fesurau a roddwyd ar waith yn dilyn mabwysiadu'r hysbysiad cydymffurfio.

 

Mae'r CBC yn cydymffurfio cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol a bydd cydymffurfio'n cael ei fonitro'n barhaus. Amlinellodd y swyddog y safon sydd wedi'i heithrio o gydymffurfio. O ran  gweithredu, mae cyllideb ar gael i sicrhau hyn a sicrhau bod y CBC yn mynd ati i hyrwyddo'r Gymraeg o fewn y sefydliad a chymunedau.

 

Gofynnodd yr aelodau a oes gan y CBC ei adnodd dehongli'r Gymraeg ei hun neu a ydynt yn defnyddio darpariaeth yr awdurdod lleol ac a godir tâl ar y CBC am hyn. Cadarnhaodd y swyddog fod CLG ar waith gyda phartner gwasanaethau democrataidd y CBC a oruchwylir gan Gastell-nedd Port Talbot. O ran strategaeth y CBC ar gyfer gwasanaethau cyfieithu, a cheisiadau am ohebiaeth etc. mae hyn ar gael dan y trefniadau cefnogi rhanbarthol drwy wasanaethau cyfieithu Abertawe neu Sir Gâr. 

 

Yn dilyn craffu, nododd yr aelodau ofynion Hysbysiad Cydymffurfio Safonau'r Gymraeg fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

5.

Blaenoriaethau Gweithdy 2025/2026 (i ddilyn)

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad llafar i'r aelodau ar flaenoriaethau 2025/26. Y blaenoriaethau a nodwyd yw'r blaenoriaethau ariannol a chyflawni'r amcanion lles. Dywedwyd wrth yr aelodau y bydd y gweithdy'n ystyried diweddariad gan y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151 o ran sefyllfa bresennol y CBC. Bydd y cyfarwyddwyr rhanbarthol sy'n gyfrifol am bedair swyddogaeth y CBC yn myfyrio ar gynnydd ar gyfer 2023/24 ac yn ystyried beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd hyn yn helpu wrth bennu'r gyllideb ar gyfer 2025/26. Bydd rheoli risgiau'n ystyriaeth allweddol hefyd yn y gweithdy hwn. Caiff y cynllun corfforaethol ei ystyried hefyd i sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol.

 

Yn dilyn y gweithdy hwn, caiff papur ei ddrafftio i'r aelodau ei ystyried sy'n amlinellu'r blaenoriaethau a nodwyd. Gofynnir am ganiatâd hefyd i ymgynghori ar y Cynllun Corfforaethol yn y Flwyddyn Newydd.

 

Gofynnodd yr aelodau a fydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gynllun amlinellol neu’n gynllun llawn. Cadarnhawyd fod y broses cyn ymgynghori eisoes wedi'i chwblhau ac y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno mewn cynllun drafft llawn. Ceisir caniatâd i ymgynghori yn y Flwyddyn Newydd a gobeithir y bydd y cynllun llawn yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru  ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a choladu'r canlyniadau. 

 

Yn dilyn craffu, nododd yr aelodau'r diweddariad llafar.

 

6.

Blaenraglen Waith 2024-2025 pdf eicon PDF 487 KB

· Blaenraglen Waith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru    2024-2025

· Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2024-2025

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau Flaenraglen Waith y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cytunwyd ychwanegu'r eitemau canlynol i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf:

 

·       Blaenoriaethau Drafft ac Opsiynau Cyllidebol ar gyfer 2025/26

·       Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft, Arfarniad Lles Integredig a'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol

·       Monitro Ariannol Chwarter 2 2024/25

·       Cais am Gyllid Ynni

 

Dywedodd swyddogion y byddant yn cysylltu â'r Cadeirydd ynghylch unrhyw beth pellach i'w ychwanegu at y Flaenraglen Waith.

 

Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.