Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Dywedodd y cadeirydd y gallai fod problemau o bosib
gyda chworwm. Er mwyn sicrhau y gellir symud trwy'r eitemau'n gyflym, cytunodd
y Cadeirydd i amrywio trefn yr agenda. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 377 KB ·
16 Gorffennaf 2024 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
16 Gorffennaf 2024 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Diweddariad ar Bolisi (Drafft) ac Ymgynghoriad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol PDF 625 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau y diweddariad ar bolisi
(drafft) ac ymgynghoriad y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol fel y'i dosbarthwyd
o fewn y pecyn agenda. Amlinellodd swyddogion mai pwrpas yr adroddiad oedd
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, y gwahanol
ffrydiau gwaith sydd wedi'u datblygu a'r cynnydd a wnaed i aelodau. Ail bwrpas
yr adroddiad yw ceisio cefnogaeth gan y pwyllgor ar y fframwaith polisi sydd
wedi'i ddrafftio. Cadarnhaodd swyddogion fod y fframwaith polisi wedi ystyried
y fframwaith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac maent wedi'i wneud yn
berthnasol ar gyfer fframwaith lleol. Y pwrpas terfynol yw cymeradwyo'r rhaglen
waith datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ddiwygiedig. Nododd swyddogion fod yr amserlen yn heriol ond bod
cynnydd sylweddol yn cael ei wneud yn erbyn hyn. Dywedodd swyddogion fod llyfr
o ddata wedi'i gynhyrchu a fydd yn helpu i ddeall y rhanbarth a'r effeithiau
tebygol ar y rhwydwaith trafnidiaeth. Cadarnhaodd swyddogion fod llawer iawn o
waith dadansoddi wedi'i wneud sy'n ystyried hygyrchedd i bwyntiau teithio
allweddol yn y rhanbarth, gan ganolbwyntio'n bennaf ar amser teithio. Mae hefyd
yn ystyried teithio llesol. Cadarnhaodd swyddogion y bu adborth cadarnhaol ar
yr achos o blaid newid gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi bod yn destun yr
ymgynghoriad diweddar. Cafwyd 814 o ymatebion i'r ymgynghoriad ac roedd y
mwyafrif helaeth o'r ymatebion hyn gan unigolion. Y ddwy thema allweddol a
ddaeth i'r amlwg o'r ymgynghoriad oedd pryder ynghylch potensial mesurau
teithio llesol y gallai'r cynllun eu cynnwys. Hefyd y gydnabyddiaeth yn yr
ymgynghoriad efallai na fydd gofod teithio llesol yn addas i bawb, yn enwedig
yn yr ardaloedd mwy gwledig. Yr ail thema oedd argaeledd a chost trafnidiaeth
gyhoeddus; bysus a rheilffyrdd. Yn ogystal â hyn roedd pryder am amlder
gweithrediad, y prisiau a godir a chwmpas y rhwydwaith. Roedd pryderon hefyd yn
cynnwys cyfnewid effeithiol rhwng y rhwydweithiau bysus a rheilffyrdd. Gweithgaredd allweddol a nodwyd dros yr wythnosau
nesaf fydd ymgysylltu â rhanddeiliaid technegol. Bydd adroddiad yn cael ei
gyflwyno sy'n amlinellu'r gweithgareddau a gynhaliwyd, i'w ystyried yn
ddiweddarach. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn y broses o nodi
sail yr asesiad lles integredig. Ymgysylltir â'r cyrff statudol perthnasol i
gytuno â dadansoddiad cwmpasu yr asesiad. Nododd yr Aelodau fod y Bwrdd Teithio Llesol
Annibynnol wedi cyhoeddi adroddiad am gerdded a beicio lle disgrifiwyd Cymru
fel gwlad sy'n 'arafu cynnydd yn sylweddol' o ran annog pobl i gerdded a
beicio. Er y cydnabuwyd bod yr adroddiad newydd gael ei gyhoeddi, gofynnodd yr
aelodau pa ystyriaeth y rhoddir i'r adroddiad hwn i sicrhau bod y gwerth gorau
yn cael ei gyflawni o ran cerdded a beicio? Roedd swyddogion yn cydnabod na fydd yr opsiwn teithio llesol yn opsiwn a fydd yn addas i bawb. Bydd yn fwy perthnasol mewn rhai ardaloedd nag eraill. Mae'r fframwaith polisi wedi'i ddrafftio i adlewyrchu'r blaenoriaethau ar draws rhanbarth amrywiol. Er ei fod yn cydnabod cerdded a beicio, mae hefyd yn adlewyrchu'r angen i gynnwys y mathau eraill o deithio. Fodd bynnag, nododd swyddogion nad ydynt wedi gallu ystyried yr adroddiad yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau'r strategaeth gydraddoldeb,
amrywiaeth a chynhwysiant ar y cyd – y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, fel y'i
dosbarthwyd o fewn y pecyn agenda. Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf i'r
aelodau am y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Cefnogodd yr Aelodau gymeradwyo'r Strategaeth
Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y cyd (Atodiad A), er mwyn galluogi
datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rhanbarthol cyn ceisio cymeradwyaeth
gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. |
|
Monitro Ariannol Chwarter 1 24/25 PDF 411 KB Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau Adroddiad Monitro Ariannol
Chwarter 1 24/25 fel y'i dosbarthwyd o fewn y pecyn agenda. Aeth swyddogion drwy'r adroddiad. Tynnwyd sylw'r
aelodau at atodiad A. Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar fonitro ariannol
chwarter 1 a'r sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd blwyddyn 24/25. Roedd
swyddogion yn ailadrodd y sefyllfa a ragwelwyd o ran arian dros ben ac arian
wrth gefn a amlinellwyd yn yr adroddiad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai gweithdy yn
cael ei gynnal yn yr hydref, lle byddai blaenoriaethau'r Cyd-bwyllgor ar gyfer
y dyfodol yn cael eu trafod. Holodd yr aelodau a fyddant yn ystyried y
gostyngiad yn yr ardoll ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod o ystyried lefel y
cronfeydd wrth gefn. Dywedodd swyddogion y gellir ystyried hyn yn ystod y
gweithdy. Holodd yr aelodau pwy oedd yn mynd i fod yn rhan
o'r gweithdy. Mae swyddogion yn rhagweld y bydd yn cynnwys swyddogion ac
aelodau o'r grwpiau perthnasol. Dywedodd swyddogion y byddent yn hapus i fynd i
gyfarfod y pwyllgor craffu yn y dyfodol i wrando ar farn yr aelodau ac yna'i
throsglwyddo i'r gweithdy. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2024-2025 PDF 486 KB ·
Blaenraglen Waith
Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru 2024-2025 ·
Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru – Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu
2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dewisodd yr Aelodau yr eitemau canlynol i'w
hychwanegu at y Flaenraglen Waith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 14
Hydref 2024. ·
Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol Drafft, Arfarniad Lles Integredig a'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth
Rhanbarthol ·
Safonau'r Gymraeg –
Diweddariad ar Gydymffurfio ·
Y Diweddaraf am y Gyllideb -
Adroddiad Rhagarchwiliad ·
Monitro Ariannol Chwarter 2
2024/25 ·
Polisi Ynni Rhanbarthol a
Chyflwyno Sefyllfa De-orllewin Cymru – Cais am Gyllid Ynni
|
|
Eitemau brys Any
urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |