Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 208 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2
Tachwedd 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Aeth y Swyddog drwy'r adroddiad. Amlygodd y swyddog
bwyntiau mewn perthynas â'r Cyd-bwyllgor a'r is-bwyllgorau amrywiol. Dywedodd
swyddogion fod y tanwariant a ragwelir ar gyfer 2024-2025 ychydig dros
£295,000. Cyfanswm y tanwariant yw 385,000. Mae hyn yn golygu bod £680,000 dros
ben y gellir ei ddefnyddio i wrthbwyso'r gyllideb ar gyfer y dyfodol, i
leihau'r ardoll. Dywedodd y swyddogion na fu llawer o weithgarwch
ariannol yn ystod chwarter 2. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Cyllideb Ddrafft 2024/2025 PDF 419 KB Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Amlinellodd y swyddog y tri opsiwn ariannu sy'n
cael eu hystyried gan y Cyd-bwyllgor. Oherwydd yr heriau ariannol y mae'r
awdurdodau cyfansoddol yn eu hwynebu, argymhellir bod y Cyd-bwyllgor yn
cymeradwyo'r gyllideb parhad minws 10%. Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch swm y
cronfeydd wrth gefn presennol ac awgrymwyd y byddai'n fwy buddiol i awdurdodau
lleol ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn presennol i wrthbwyso'r gyllideb o
ystyried y caledi ariannol presennol y mae pob awdurdod yn ei wynebu. Mae
swyddogion yn cydnabod bod y CBC yn ei ddyddiau cynnar o hyd a thrwy gadw lefel
dda o gronfeydd wrth gefn bydd hyn yn galluogi'r CBC i symud ymlaen â'i waith y
flwyddyn nesaf. Dywedodd y swyddog wrth yr aelodau ei fod yn ddoeth
cael isafswm o £200,000 wrth gefn. Holodd yr aelodau ynghylch gwerth am arian os
cytunir ar yr opsiwn gwneud cyn lleied â phosib. Er mwyn i'r CBC gyflawni ei
amcanion cytunedig, cydnabyddir bod angen cyllideb o £2m. Fodd bynnag, dyma’r
ail gyllideb y cynigir ei gosod ar y lefel ‘gwneud cyn lleied â phosib'. Roedd
yr aelodau'n pryderu bod sefyllfa ariannol yr awdurdodau lleol yn annhebygol o
wella yn y dyfodol agos, ac os yw'r CBC yn parhau i osod cyllidebau lleiaf
posib, yna ychydig iawn a gyflawnir ar wahân i'r isafswm statudol. Holodd yr aelodau
sut olwg oedd ar y cyllid arfaethedig ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Awgrymodd yr aelodau y dylai'r CBC fod wedi cael
opsiynau gostyngiad pellach, efallai 15% iddynt eu hystyried. Roedd Opsiwn 1 yn yr adroddiad yn amlinellu'r
sefyllfa gyllidebol orau a'r hyn y gellid ei gyflawni drwy hyn. Er bod
aelodau’n deall yr anawsterau ariannol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu ar
hyn o bryd, roedd yr aelodau’n awyddus i ddeall y llwybr sydd gan y CBC ar
waith i allu symud ymlaen ag amcanion y CBC yn y dyfodol, er mwyn symud i
ffwrdd o’r ymagwedd 'gwneud cyn lleied â phosib'. Cytunodd yr aelodau y dylai Cadeirydd y Pwyllgor
Craffu ysgrifennu llythyr at Gadeirydd y CBC yn mynegi barn y pwyllgor craffu
ar y gyllideb ddrafft. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2023-2024 PDF 418 KB Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |