Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Welcome Cofnodion: Cyflwynodd
y Cadeirydd y Pwyllgor a rhoddwyd croeso iddynt. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 204 KB Cofnodion: Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Craffu i Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor Corfforaethol PDF 287 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Hysbyswyd
yr aelodau am yr ohebiaeth rhwng Cadeiryddion Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Is-bwyllgor
Trosolwg a Chraffu. Roedd hyn o ganlyniad i gyfarfod blaenorol o'r Cyd-bwyllgor
Corfforaethol - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2023
lle amlygodd aelodau eu barn a'u pryderon, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Croesawodd
yr aelodau'r cynnig gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i fynychu
cyfarfod craffu yn y dyfodol a darparu sicrwydd pellach. Cytunodd y pwyllgor y
byddai'n caniatáu amser i newidiadau posib ddigwydd yn y lle cyntaf ac y
byddai'n croesawu'r Cadeirydd i fynychu cyfarfod craffu yn y dyfodol, o fewn y
6 mis nesaf. |
|
Cynllun Datblygu Strategol De-orllewin Cymru PDF 417 KB Cofnodion: Diweddarwyd yr aelodau ynghylch gydrannau a chamau allweddol
y Cynllun Datblygu Strategol (CDS); yr opsiynau ar gyfer cyflawni'r rhaglen
waith; y materion a risgiau presennol; a throsolwg o'r astudiaethau sylfaen
dystiolaeth cydweithredol a gynhaliwyd ar draws De-orllewin Cymru, fel a
fanylwyd o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cafwyd trafodaethau am gymhlethdodau Creu Cynllun Datblygu
Strategol rhanbarthol tra y byddai cynghorau lleol yn datblygu eu Cynllun
Datblygu Lleol. Roedd pryderon y gallai hyn achosi dyblygiad , yn ogystal â
defnyddio llawer o adnoddau oherwydd cymhlethdodau creu'r cynlluniau yn
gydlynol. Gofynnodd aelodau am y rheswm pam yr oedd Llywodraeth Cymru
wedi dewis i'r cynlluniau gael eu cwblhau yn y ffordd hon wrth symud ymlaen.
Roedd aelodau'n pryderu y byddai hyn yn ddwys o ran adnoddau i swyddogion, heb unrhyw
arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i gefnogi'r broses. Esboniodd aelodau y
byddai cymhlethdodau/materion clir yn codi o'r Cynllun Datblygu Lleol, y gellir
ymdrin â nhw ar lefel ranbarthol. Amheuwyd mai dyma'r rheswm pam yr oedd gan
Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn datblygu'r cynlluniau yn y ffordd hon wrth
symud ymlaen. Gofynnodd yr aelodau a fyddai unrhyw gyfranogaeth gan y
Parciau Cenedlaethol mewn perthynas â chraffu. Nodwyd, yn gyfreithiol roeddent
yn y broses o gyfethol cynrychiolwyr o'r ddau Barc Cenedlaethol ar y Pwyllgor
Craffu. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Diweddariad am Strategaeth Ynni De-orllewin Cymru PDF 553 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd
y diweddaraf i aelodau ynghylch y datblygiadau ar draws yr agenda ynni
ranbarthol, yn unol â Chynllun Corfforaethol (Cynllun Gweithredu) y
Cyd-bwyllgor Corfforedig a fabwysiadwyd ym mis Mawrth 2023, fel a fanylwyd yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd
bod cymhlethdodau gyda fersiwn gyhoeddedig y cynllun gweithredu atodedig yn
Atodiad C yr adroddiad a ddosbarthwyd. Gofynnwyd i hyn gael ei drafod eto mewn
cyfarfod yn y dyfodol. Nododd
aelodau fod grant o £350,000 wedi'i ddarparu i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig i
ganiatáu ar gyfer cynnal proses gofyniad, ac i helpu i gyflymu cynlluniau lleol
a rhanbarthol a chydlynu cyflenwi. Cafwyd
trafodaethau mewn perthynas â chynllun Llywodraeth Cymru i gael targed carbon
sero-net y bydd holl awdurdodau lleol Cymru'n rhan ohono ac yn ei gyflawni
erbyn 2030. Mynegodd aelodau eu pryderon mewn perthynas â graddfa'r buddsoddiad
sydd ei hangen i gyrraedd y targed hwn a'r cyflymdra o gyflawni hyn o fewn y 7
mlynedd nesaf. Nodwyd y byddai hyn yn anodd ac yn gostus iawn. Yn
dilyn trafodaethau, teimlodd aelodau ei bod yn bwysig anfon llythyr at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn
mynegi'r pryderon a fanylwyd o fewn yr eitem hon. Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
|
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: Rhoddodd
swyddogion y diweddaraf i'r aelodau am y Flaenraglen Waith. Nodwyd y byddai gan
aelodau gyfle i ychwanegu at Flaenraglen Waith 2023/2024 yn ystod Sesiwn
Flaenraglen Waith yn y dyfodol. Gofynnodd
yr aelodau i'r Cynllun Gweithredu Ynni gael ei gynnwys yn y Flaenraglen Waith
a'i drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.
|
|
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |