Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Archwilio Cymru – Sylwadau ar gynnydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig (i ddilyn) Cofnodion: Tynnwyd yr eitem yn ôl o'r agenda. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod hwn yn adroddiad yn
wreiddiol i'w ddrafftio mewn ymateb i ohebiaeth a dderbyniwyd gan Swyddfa
Archwilio Cymru ar 17 Gorffennaf 2023. Roedd yr argymhellion yn yr ohebiaeth
hon yn cynnwys llunio Strategaeth Cyfranogiad a Chynllun Gweithredu Tlodi Plant
ac mae'r rhain yn cael eu llunio ar hyn o bryd. Disgwylir y bydd adroddiad yn
cael ei gyflwyno cyn cyfarfod nesaf y pwyllgor hwn. Mae Swyddfa Archwilio Cymru
wedi nodi eu bod yn bwriadu adolygu'r ymateb i'r ohebiaeth o fewn 18-24 mis yn
dilyn dyddiad yr ohebiaeth gychwynnol. |
|
Diweddariad yr Is-bwyllgor – Lles Economaidd a Datblygu Economaidd (i ddilyn) Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau yr adroddiad a ddosbarthwyd
fel atodiad i'r agenda. Amlinellodd swyddogion mai nod yr adroddiad yw
amlinellu cyfrifoldeb y llywodraeth leol wrth ddatblygu cynlluniau buddsoddiad
rhanbarthol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn nodi bod sail y rhaglen
yn cynnwys y prosiectau angori, y cynllun grant a phrosiectau annibynnol. Dywedwyd wrth aelodau bod 2025/2026 yn flwyddyn
bontio ac y bydd trafodaethau'n parhau rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU ynghylch
y cyllid y tu hwnt i fis Mawrth 2026. Mae'r adroddiad yn nodi cynnydd sylweddol mewn
allbynnau perfformiad rhanbarthol, gan gynnwys creu swyddi, swyddi a ddiogelwyd
a grantiau a ddyrannwyd i sefydliadau a mentrau. Cododd yr aelodau bryderon ynghylch cyllid y Gronfa
Ffyniant Gyffredin. Nodwyd ei fod wedi lleihau'n sylweddol ac y bydd hyn yn
cael effaith ar nifer o sefydliadau yn yr ardal sydd wedi cael mynediad at y
cyllid yn flaenorol. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol 2024/25 (i ddilyn) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau yr adroddiad fel a
ddosbarthwyd fel atodiad i'r agenda. Amlinellodd y swyddogion mai pwrpas yr adroddiad yw
rhoi'r diweddaraf i aelodau ynghylch cynnydd a pherfformiad cyffredinol y
Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer y flwyddyn 2024-2025. Yn dilyn craffu, nododd aelodau'r cynnydd
cyffredinol ar gyfer 2024/2025 a'i gymeradwyo cyn ei gyflwyno i aelodau
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru ar 19 Mawrth 2025. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau yr adroddiad fel a
ddosbarthwyd fel atodiad i'r agenda. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y cytunwyd ar y
blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol
De-Orllewin Cymru 2025/2026 ym mis Ionawr, ar y cyd â'r gyllideb. Nodwyd nad yw'r amcanion lles wedi newid, felly ni
chafwyd unrhyw ymgynghoriad pellach ynghylch y rhain. Fodd bynnag, diweddarwyd
y camau gweithredu angenrheidiol i gyflwyno'r amcanion lles yn yr adroddiad a
gyflwynwyd yn y cyfarfod. Cododd yr aelodau bryderon ynghylch y ddogfen a'r
iaith wrthdrawiadol a ddefnyddir mewn perthynas â thargedau sero net. Tynnodd
yr aelodau sylw'r swyddogion at y datganiadau sy'n amlinellu'r angen i sicrhau
cydbwysedd a chymesuroldeb tuag at gyflawni allyriadau sero net heb effeithio
ar yr economi. Mae'r datganiadau'n nodi bod angen i gyflawniad allyriadau sero
net fod yn gymesur â'r ardal heb effeithio ar yr economi leol a heb ychwanegu
tlodi. Mynegodd yr aelodau eu pryder bod tôn y ddau ddatganiad yn gwrthdaro â'r
cyfleoedd mawr ar gyfer manteision economaidd lleol a rhanbarthol o ganlyniad i
ddiwydiannau gwyrdd. Roedd hefyd yn ymddangos bod y datganiadau'n diystyru'r
gydnabyddiaeth o'r gwelliannau i ansawdd bywyd a geir o ganlyniad i bethau fel
cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n well, stoc tai a sicrwydd ynni gwell
oherwydd ynni gwyrdd. Roedd aelodau'n awyddus i ddeall y cyfiawnhad, gan
gynnwys y datganiadau yn y cynllun, gan mai ynni gwyrdd sy'n rhoi'r cyfle gorau
am dwf. Nododd swyddogion fod y datganiadau wedi'u cynnwys
fel rhan o'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Mynegodd yr aelodau eu pryderon bod y
ddogfen yn rhoi negeseuon sy'n gwrthdaro ynghylch ymrwymiad y rhanbarth tuag at
allyriadau sero net a denu buddsoddiadau ar gyfer ynni gwyrdd. Roedd y ddogfen hefyd yn amlinellu'r gwaith a wneir
gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig gyda Sero Net Cymru i hyrwyddo'r rhanbarth i
fuddsoddwyr posib. Fodd bynnag, mynegodd yr aelodau eu pryderon bod y datganiad
hwn yn groes i'r datganiadau sydd wedi'u cynnwys o'r ymgynghoriad. Er bod yr aelodau'n derbyn bod angen cydnabod yr
ymatebion a dderbyniwyd fel rhan o'r ymgynghoriad, mynegwyd pryder ynghylch eu
cynnwys yn y ddogfen, gan fod hyn yn cyflwyno safbwyntiau gwrthdrawiadol o'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig. Gofynnodd yr aelodau wrth y swyddogion am ystyried yn
ddwys a ddylid cael gwared ar y datganiadau sy'n cyflwyno darlun amwys o
amcanion y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cyfeiriodd yr aelodau at y Cynllun Datblygu
Strategol a amlinellir yn y ddogfen. Nodwyd y byddai hyn yn annhebygol o wneud
cynnydd nes bod cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ei ddatblygiad.
Nododd y swyddogion fod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn drafftio llythyr at
Ysgrifennydd y Cabinet i amlinellu'r pryderon a'r heriau a wynebir. Cytunodd y
pwyllgor eu bod am gymeradwyo eu cefnogaeth o'r llythyr hwn a bod Llywodraeth
Cymru'n methu â chydnabod y gofyniad angenrheidiol o ddarparu cyllideb ddigonol
i gefnogi'r gwaith o ddrafftio a chyflwyno'r Cynllun Datblygu Strategol. Yn dilyn craffu, cymeradwyodd yr aelodau fersiwn ddrafft rhif tri o Gynllun Corfforaethol 2023 - 2028 i'w gymeradwyo gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru, yn ogystal ag ychwanegu llythyr a anfonwyd at y Cyd-bwyllgor gan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
·
Blaenraglen Waith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2024-2025 ·
Blaenraglen Waith Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru 2024-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mynegodd yr aelodau eu pryderon bod yr
adroddiadau'n cael eu dosbarthu ar ôl cyhoeddi'r agenda. Roedd hyn yn golygu
nad oedd gan yr aelodau ddigon o amser i ystyried yr adroddiadau cyn y
cyfarfod. Cytunodd yr aelodau y dylid mynegi eu pryderon i Gadeirydd y
Cyd-bwyllgor Corfforedig mewn perthynas â'r eitem hon. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |