Agenda a chofnodion drafft

Is-bwyllgor Trosolwg A Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-Orllewin Cymru - Dydd Mercher, 15fed Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 196 KB

·        21 Tachwedd 2024

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2024 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Monitro ariannol pdf eicon PDF 275 KB

·        Chwarter 2 24/25

·        Chwarter 3 24/25

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Cyfeiriodd swyddogion at Atodiad A i adroddiad Chwarter 3, sy'n amlinellu monitro ariannol a ragwelir ar gyfer chwarter 3 a'r sefyllfa a ragwelir ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Dywedodd swyddogion fod disgwyl y bydd y pedwar is-bwyllgor yn defnyddio'u cyllidebau eleni. Mae'r rhagolwg hefyd yn nodi gwarged disgwyliedig o £128,000.

 

Mae'r tanwariant a nodir yn cael ei briodoli i swydd uwch-gyfrifydd wag yn y Cyd-bwyllgor Corfforedig, tanwariant ar gynllunio a rheoli rhaglenni, a'r ffaith nad oes angen ymgynghori a gwaith cynghori arbenigol ac nad yw'n cael ei gomisiynu, a rhywfaint o danwariant bach ar nwyddau traul swyddfa.

 

Nodwyd bod cronfeydd wrth gefn wedi bod yn cronni ers dechrau'r Cyd-bwyllgor Corfforedig oherwydd y gweithgarwch cyfyngedig sydd wedi cael ei ddatblygu. Rhagwelir y bydd oddeutu £970,000 yn y cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nodwyd yr adroddiadau.

 

5.

Cyllideb Ddrafft 2025-2026 pdf eicon PDF 464 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Dywedodd swyddogion fod rhwymedigaeth statudol i benderfynu ar y gyllideb   cyn diwedd mis Ionawr a bod yn rhaid hysbysu'r awdurdodau cyfansoddol o'r ardoll briodol.

 

Cyflwynwyd dau opsiwn i'r aelodau eu hystyried. Amlinellodd yr opsiwn cyntaf gyllideb barhad, sy'n sefyllfa debyg i'r un y cytunwyd arni dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Byddai hyn yn cyflwyno ychydig o oedi o ran cynnydd a byddai'n golygu gwneud y lleiafswm o waith. Yr ail opsiwn yw ehangu ar ffrydiau gwaith i alluogi gwaith i symud ymlaen a gwneud cynnydd. Cadarnhawyd bod y ffrwd waith trafnidiaeth wedi cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi caniatáu i'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol symud ymlaen.

 

Nododd swyddogion y pwysau cyllidebol presennol ar yr awdurdodau cyfansoddol ac roeddent yn cydnabod bod yr awdurdodau'n ceisio lleihau gwariant presennol.

 

O ran y ddau opsiwn a gyflwynir ar gyfer y gyllideb, mae'r gyllideb gyntaf yn seiliedig ar adborth gan y ffrydiau gwaith a'r hyn y mae swyddogion yn teimlo y mae ei angen i gyflawni'r elfennau amrywiol ar draws y pedair disgyblaeth.

 

Gan gyfeirio'n benodol at gynllunio strategol, mae yna awydd gan swyddogion y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi'r ffrwd waith hon gan eu bod wedi cefnogi'r cynllun datblygu strategol yn ystod blynyddoedd blaenorol. Mae'r gost o ddarparu'r ffrwd waith llawn oddeutu £600,000. Felly, mae swyddogion wedi dod i'r casgliad y dylid cynnal trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru cyn y gellir ei chyflwyno. Nodwyd hefyd, pan sefydlwyd y Cyd-bwyllgor Corfforedig, roedd rhwymedigaeth wedi'i nodi i'r parciau cenedlaethol gyfrannu tuag at unrhyw swyddogaethau cynllunio sy'n mynd rhagddo.

 

Dywedodd swyddogion fod cynllun tair blynedd wedi'i awgrymu, lle mae cyfraniad o gronfeydd wrth gefn gwerth £153,000 yn ystod y flwyddyn gyntaf, £167,000 yn ystod yr ail flwyddyn a £182,000 yn ystod y drydedd flwyddyn. Bydd hyn yn cyfrannu at reoli eitemau chwyddiannol a pharhau i gadw'r ardoll yr un fath. Bydd hyn yn darparu amcangyfrif o £460,000 yn y cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y tair blynedd. Mae'r ymagwedd hon hefyd yn ddarbodus, o ran y pwysau y gellir ei roi ar awdurdodau cyfansoddol os cymerir cyfraniad uwch o gronfeydd wrth gefn yn ystod blwyddyn 1 ac yna mae'r ardoll ar awdurdodau cyfansoddol yn cynyddu yn ystod blynyddoedd 2 a 3.

 

Holodd yr Aelodau pa mor hyderus yw swyddogion o ran cywirdeb y gyllideb, yn enwedig rhagweld yr eitemau hynny sydd wedi dangos tanwariant cyson yn ystod blynyddoedd blaenorol?

 

Amlinellodd swyddogion y man cychwyn ar gyfer cyllideb y Cyd-bwyllgor Corfforedig a dywedwyd nad oes cyfeiriad clir ar hyn o bryd ynghylch pa mor weithgar y bydd y cyd-bwyllgor yn mynd i fod a faint o gynnydd fydd yn digwydd. Mae'r Cyd-bwyllgor yn datblygu'n barhaus ac mae angen i swyddogion ddarparu cymorth i sicrhau y gall cyflawni eitemau pan fo angen ac nad yw hyn yn cael ei oedi oherwydd diffyg darpariaeth gyllideb. Felly, gwnaed rhagdybiaethau yn ystod blynyddoedd blaenorol o ran yr hyn yr oedd ei angen. Hefyd, dywedodd swyddogion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Y Diweddaraf am Gyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol pdf eicon PDF 609 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r wybodaeth a ddarperir yn y pecyn agenda. Tynnwyd sylw'r aelodau at y Cynlluniau Ynni Lleol, sef y fframwaith y cytunwyd arno i gyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid am 24 mis i Dîm Ynni Rhanbarthol roi'r Strategaeth Ynni Ranbarthol ar waith.

 

Datblygwyd ymagwedd strategol i reoli'r Cynlluniau Ynni Lleol, sydd wedi ystyried capasiti'r grid a chyfleoedd dosbarthu trydan y Grid Cenedlaethol.

 

Cyfeiriodd swyddogion at y cynlluniau blaenoriaeth unigol a amlinellir yn atodiadau'r adroddiad. Nodwyd y ceisir cyllid gan y cyd-bwyllgor, sef £27,500 ar gyfer 2025-2026 a £3,000 r gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Amlinellir y pethau allweddol i'w cyflawni yn yr atodiadau.

 

Cydnabu'r Aelodau y trefniadau cydweithio ar draws y rhanbarth ac roeddent yn falch o weld datblygiad prosiectau fel cerbydau trydan a cherbydau allyriadau isel iawn.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad.

 

7.

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft, Arfarniad Lles Integredig a'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol pdf eicon PDF 487 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Mae'r gwaith ar y drafft wedi'i gwblhau a'i gyflwyno i'r aelodau. Mae dwy elfen, y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft a'r elfen o gyflwyno'r cynllun. Dywedodd swyddogion fod disgwyl i'r ymgynghoriad terfynol ddechrau yng nghanol mis Chwefror.

 

Rhoddwyd gwybodaeth fras i'r aelodau am ddarn cyfochrog o waith sy'n digwydd ochr yn ochr â datblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol mewn perthynas â masnachfreinio bysus. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal adolygiad moderneiddio grantiau o ran sut mae grantiau'n cael eu prosesu a'u gweinyddu. Gallai'r ddau ddarn yma o waith arwain at waith ychwanegol i'r cyd-bwyllgor.

 

Tynnodd swyddogion sylw'r aelodau at brif amcanion y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol sy'n dilyn gofynion Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Roedd swyddogion yn cydnabod na fydd pob dull teithio llesol yn addas ar gyfer pob man yn y rhanbarth. Mae cryn dipyn o gymunedau gwledig y mae angen trafnidiaeth arnynt oherwydd y lleoliad, y pellter a'r ddaearyddiaeth dan sylw. Atgoffwyd yr Aelodau hefyd am yr asesiadau statudol y mae'n rhaid eu cynnal mewn perthynas â'r cynllun.

 

Trafododd yr aelodau yr angen i gryfhau'r iaith a ddefnyddir yn y cynllun ynghylch diogelwch cerddwyr a beicwyr, yn enwedig yng nghyd-destun diogelwch ar y briffordd. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cynnwys holl ddefnyddwyr y ffyrdd, megis cerddwyr, beicwyr a marchogion mewn polisïau. Mynegodd yr aelodau eu pryder bod y derminoleg bresennol yn canolbwyntio'n ormodol ar geir. Ystyriwyd Metro De Cymru a Metro De-orllewin Cymru, gan dynnu sylw at yr angen am gamau gweithredu pendant a ffrydiau gwaith i gefnogi'r prosiectau hyn. Roedd pryder bod pwysigrwydd y metro efallai heb ei bwysleisio digon yn y ddogfen, a gwnaed awgrym i wneud ei rôl hollbwysig yn fwy eglur.

 

Nodwyd bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn tynnu sylw at bwysigrwydd y prosiectau rhanbarthol a'r angen am gydweithio rhwng awdurdodau lleol. Mynegodd yr aelodau yr angen am bolisïau trafnidiaeth cyson ar draws y rhanbarth i wella cydlyniant ac effeithiolrwydd.

 

Trafododd yr Aelodau y broses ymgynghori sydd i ddod. Mae'r cynllun yn cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb mewn ardaloedd amrywiol y cyngor ac ymgyrchoedd wedi'u targedu i ymgysylltu â grwpiau penodol, fel cenedlaethau iau a'r rhai sy'n wynebu anghydraddoldebau trafnidiaeth. Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd cysylltu â phobl y mae materion trafnidiaeth yn effeithio'n uniongyrchol arnynt, fel y rhai sy'n defnyddio cynlluniau cyflogadwyedd a chanolfannau gwaith.

 

Nodwyd bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi rôl trafnidiaeth wrth fynd i'r afael â thlodi a galluogi mynediad i gyflogaeth. Pwysleisiodd yr aelodau ofyniad i ganolbwyntio ar dlodi trafnidiaeth a sut y gall gwella seilwaith trafnidiaeth ddatgloi cyfleoedd economaidd. Trafodwyd hefyd yr angen am ymagweddau arloesol, megis darparu gwasanaethau bysus cyn adeiladu tai.

 

Cydnabuwyd y posibilrwydd o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnolegau eraill wrth wella systemau trafnidiaeth.

 

Cydnabu'r Aelodau yr angen am gynllun trafnidiaeth cynhwysfawr a hyblyg sy'n mynd i'r afael â diogelwch, cynhwysiant, cydweithredu rhanbarthol ac integreiddio technolegol.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

8.

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 - Y Diweddaraf am Flaenoriaethau 2025/2026 (i ddilyn) pdf eicon PDF 485 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau yr adroddiad fel a ddosbarthwyd fel atodiad i'r pecyn agenda.

 

Nodwyd nad yw'r amcanion llesiant corfforaethol wedi newid, fodd bynnag, mae'r camau ar gyfer eu cyflawni wedi'u diwygio.

 

Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

9.

Blaenraglen Waith 2024/2025 pdf eicon PDF 464 KB

·        Blaenraglen Waith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2024-2025

·        Trosolwg o Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu ar gyfer 2024-2025

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ychwanegodd yr Aelodau yr eitemau canlynol i'w hystyried yn ystod y cyfarfod nesaf:

 

·        Diweddariad yr Is-bwyllgor – Lles Economaidd a Datblygu Economaidd

·        Archwilio Cymru – Sylwadau ar Gynnydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol

·        Adroddiad Blynyddol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru 2024/25

 

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

10.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.