Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Trosolwg A Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-Orllewin Cymru - Dydd Mawrth, 16eg Ionawr, 2024 2.00 pm

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 208 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2023 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Monitro’r gyllideb pdf eicon PDF 706 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Aeth y Swyddog drwy'r adroddiad. Amlygodd y swyddog bwyntiau mewn perthynas â'r Cyd-bwyllgor a'r is-bwyllgorau amrywiol. Dywedodd swyddogion fod y tanwariant a ragwelir ar gyfer 2024-2025 ychydig dros £295,000. Cyfanswm y tanwariant yw 385,000. Mae hyn yn golygu bod £680,000 dros ben y gellir ei ddefnyddio i wrthbwyso'r gyllideb ar gyfer y dyfodol, i leihau'r ardoll.

 

Dywedodd y swyddogion na fu llawer o weithgarwch ariannol yn ystod chwarter 2.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

5.

Cyllideb Ddrafft 2024/2025 pdf eicon PDF 419 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Amlinellodd y swyddog y tri opsiwn ariannu sy'n cael eu hystyried gan y Cyd-bwyllgor. Oherwydd yr heriau ariannol y mae'r awdurdodau cyfansoddol yn eu hwynebu, argymhellir bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r gyllideb parhad minws 10%.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch swm y cronfeydd wrth gefn presennol ac awgrymwyd y byddai'n fwy buddiol i awdurdodau lleol ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn presennol i wrthbwyso'r gyllideb o ystyried y caledi ariannol presennol y mae pob awdurdod yn ei wynebu. Mae swyddogion yn cydnabod bod y CBC yn ei ddyddiau cynnar o hyd a thrwy gadw lefel dda o gronfeydd wrth gefn bydd hyn yn galluogi'r CBC i symud ymlaen â'i waith y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd y swyddog wrth yr aelodau ei fod yn ddoeth cael isafswm o £200,000 wrth gefn.

 

Holodd yr aelodau ynghylch gwerth am arian os cytunir ar yr opsiwn gwneud cyn lleied â phosib. Er mwyn i'r CBC gyflawni ei amcanion cytunedig, cydnabyddir bod angen cyllideb o £2m. Fodd bynnag, dyma’r ail gyllideb y cynigir ei gosod ar y lefel ‘gwneud cyn lleied â phosib'. Roedd yr aelodau'n pryderu bod sefyllfa ariannol yr awdurdodau lleol yn annhebygol o wella yn y dyfodol agos, ac os yw'r CBC yn parhau i osod cyllidebau lleiaf posib, yna ychydig iawn a gyflawnir ar wahân i'r isafswm statudol. Holodd yr aelodau sut olwg oedd ar y cyllid arfaethedig ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

 

Awgrymodd yr aelodau y dylai'r CBC fod wedi cael opsiynau gostyngiad pellach, efallai 15% iddynt eu hystyried.

 

Roedd Opsiwn 1 yn yr adroddiad yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol orau a'r hyn y gellid ei gyflawni drwy hyn. Er bod aelodau’n deall yr anawsterau ariannol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu ar hyn o bryd, roedd yr aelodau’n awyddus i ddeall y llwybr sydd gan y CBC ar waith i allu symud ymlaen ag amcanion y CBC yn y dyfodol, er mwyn symud i ffwrdd o’r ymagwedd 'gwneud cyn lleied â phosib'.

 

Cytunodd yr aelodau y dylai Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ysgrifennu llythyr at Gadeirydd y CBC yn mynegi barn y pwyllgor craffu ar y gyllideb ddrafft.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

6.

Blaenraglen Waith 2023-2024 pdf eicon PDF 418 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.