Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 204 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
20 Ebrill 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Rob Stuart,
Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru am fod yn bresennol. Mynegodd aelodau’r pwyllgor craffu eu pryderon
ynghylch yr amserlenni a bennir gan Lywodraeth Cymru y disgwylir i’r
Cyd-bwyllgor eu bodloni. Ymhellach, mynegwyd pryderon nad oes darpariaeth
gyllidebol i gefnogi hyn. Holodd yr Aelodau a oedd y pwyllgor wedi derbyn
unrhyw ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â thrafnidiaeth. Cadarnhaodd y Cynghorydd Stuart fod y pwyllgor yn
parhau i bwysleisio, er mwyn i'r Cyd-bwyllgor gyflawni cyfrifoldebau a
rhwymedigaethau'r Cyd-bwyllgor, fod yn rhaid iddo gael ei ariannu'n briodol gan
Lywodraeth Cymru. Er bod y pwyllgor yn parhau i weithio, dim ond i'r gyllideb y
cafodd ei darparu y gall weithio iddo. O ran y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, mae
Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd, wrth gyflwyno’r cynllun, yn rhyddhau
£125,000 i’r Pwyllgor. Fodd bynnag, cydnabuwyd na fyddai’r cyllid yn ddigonol i
gyflawni popeth y mae’r pwyllgor yn dymuno ei wneud o ran cynllunio
trafnidiaeth ranbarthol. Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw eglurder wedi'i roi
i'r Cyd-bwyllgor mewn perthynas â rôl Trafnidiaeth Cymru o ran cefnogi'r gwaith
o gyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Stuart
fod amrywiaeth o drafodaethau parhaus yn cael eu cynnal. Cadarnhaodd swyddogion fod swyddog arweiniol o
Trafnidiaeth Cymru a bydd rhywfaint o gymorth o ran modelu, ond y tu hwnt i
hynny mae swyddogion yn ansicr o gymorth Trafnidiaeth Cymru. Mae llinell amser
yn cael ei datblygu ar gyfer y cynllun a dyma fydd un o'r ceisiadau cyntaf am
gymorth gan Trafnidiaeth Cymru. Cyfeiriodd yr Aelodau at lythyr Archwilio Cymru, yn
enwedig y risgiau a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor fod ganddynt ddigon o adnoddau i
gyflawni ei amcanion yn y rhanbarth. Dywedwyd wrth yr Aelodau, pan oedd
trafodaethau’n cael eu cynnal ledled Cymru cyn cyflwyno’r Cyd-bwyllgorau
Corfforedig, fod y 22 awdurdod ledled Cymru yn glir i Lywodraeth Cymru na
ddylai’r CBC roi baich ychwanegol ar awdurdodau lleol. Bydd y CBC yn ymdrechu i
gyflawni ei nodau ond dim ond gwaith y mae ganddo ddigon o gyllid ar ei gyfer y
gall ei wneud ac ni ellir cymryd arian o feysydd eraill, fel Gofal Cymdeithasol
ac Addysg, i ariannu gwaith y CBC. Mae'r trefniadau rhanbarthol wedi'u sefydlu gydag
ymagwedd debyg at drefniadau Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ac eithrio'r Parciau
Cenedlaethol, sy'n rhan o drefniadau presennol y CBC. Treuliwyd amser yn
sefydlu strwythur y trefniadau rhanbarthol i sicrhau eu bod yn gweithredu ar y
lefel fwyaf effeithlon. Mae'r pedwar awdurdod lleol yn gweithio'n dda gyda'i
gilydd. Ar yr amod y gellir darparu adnoddau a chyllid priodol ar gyfer y
trefniadau, roedd Cadeirydd y CBC yn hyderus bod sylfaen gref iawn i weithio
ohoni, a mynegwyd hyn i'r archwilwyr. Cadarnhawyd bod cyllid mewn perthynas â'r targed
sero net yn dod i'r cyngor yn uniongyrchol ar sail arweiniol leol, nid drwy'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig. Er mwyn cyrraedd y targedau datgarboneiddio erbyn y
dyddiad a bennwyd gan Lywodraeth y DU, bydd angen cyllid sylweddol. Rhoddodd y Cynghorydd Stuart enghraifft o brosiect carbon isel cynaliadwy a chyraeddadwy. Mae'r prosiect Cartrefi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Llythyr Archwilio Cymru - Sylwadau ar Gynnydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig PDF 535 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y’i
dosbarthwyd gyda'r agenda. Rhoddwyd crynodeb i'r Aelodau o'r gwaith archwilio a
oedd wedi digwydd mewn perthynas â'r Cyd-bwyllgor Corfforedig. O ran yr agenda tlodi, nododd yr aelodau fod yn
rhaid sefydlu hyn hefyd o fewn y Cyd-bwyllgor Corfforedig, yn ogystal ag yn
unigol o fewn y pedwar awdurdod cyfansoddol. Mynegodd yr Aelodau eu pryder
ynghylch dyblygu gwaith a holwyd sut y byddai'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn
gwahaniaethu oddi wrth yr awdurdodau cyfansoddol. Cadarnhawyd y byddai'r CBC yn
edrych ar yr elfennau tlodi plant mewn perthynas â phob un o'i dair swyddogaeth
bresennol. Yn dilyn craffu, nodwyd yr eitem hon. |
|
Cynllun Gweithredu'r CTRh i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru PDF 565 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r wybodaeth fel
y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda. Holodd yr Aelodau sut gall y pwyllgor craffu
ymgysylltu â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wrth iddo fynd rhagddo. Ar ben
hynny, holwyd a fyddai'r achos o blaid newid yn barod i'r pwyllgor craffu ei
ystyried yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, i gynnal rhywfaint o waith craffu ymlaen
llaw ar yr eitem. Roedd swyddogion yn ymwybodol o'r amserlenni
uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol. Er bod oedi gyda'r canllawiau ar gyfer y CTRh, nodwyd
nad oedd y dyddiad ar gyfer rhoi'r cynllun ar waith, sef 2025, wedi symud.
Nododd swyddogion, gan fod y CBC yn gymharol newydd, fod elfennau ymgysylltu ac
ymgynghori'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn dal i gael eu hystyried o ran
sut y gellid gwneud hyn o fewn yr amserlenni. Byddai swyddogion yn croesawu arweiniad
gan CBC a'r pwyllgor craffu cyfatebol. Pwysleisiodd yr Aelodau'r angen parhaus am ddeialog
barhaus gyda Chadeirydd y pwyllgor craffu gan swyddogion, er mwyn sicrhau bod
dyddiadau allweddol yn cael eu deall. Cyfeiriodd yr aelodau at y llythyr a anfonwyd gan y
CBC at Lywodraeth Cymru. Nododd yr Aelodau y £125,000 sydd i'w dderbyn yn
ystod y flwyddyn ariannol bresennol gan Lywodraeth Cymru. Nododd swyddogion nad
yr arian hwn fyddai'r swm cyfan y disgwylir i ddatblygu'r cynllun cyfan.
Ymhellach, nododd swyddogion y byddent yn disgwyl rhywfaint o hyblygrwydd o ran
pryd y mae'n rhaid gwario'r arian gan y byddai hyn yn dibynnu ar ddatblygiad y
cynllun. Holodd yr Aelodau ynghylch maint yr ymgynghoriad.
Cadarnhaodd swyddogion y byddai'n cynnwys rhanddeiliaid, aelodau a busnesau
allweddol. Byddai hefyd yn ystyried datblygiadau eraill sy'n cael eu cyflwyno. Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch y trefniadau
ymylol a sut y gallai ardaloedd anghysbell yng ngorllewin Cymru elwa o
drefniadau o'r fath. Dywedodd swyddogion fod ystyriaeth o'r fath wedi'i nodi
mewn canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Pwysleisiodd swyddogion bwysigrwydd
ymgynghori da yn y cynllun er mwyn sicrhau ei fod yn ystyried ac yn mynd i'r
afael â phob maes yn llawn ac yn adlewyrchu amrywiaeth y rhanbarth. Gofynnodd yr Aelodau i gael golwg ar yr achos o
blaid newid cyn gynted â phosib. Yn dilyn craffu, nodwyd yr eitem.
|
|
Blaenraglen Waith y Cyd-bwyllgor Corfforedig 2023-2024 PDF 516 KB Cofnodion: Nodwyd yr eitem hon. |
|
Blaenraglen Waith 2023/2024 PDF 414 KB Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau i ychwanegu Achos o Blaid Newid
y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol at y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr
2024. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |