Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Welcome Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd y Pwyllgor a
rhoddwyd croeso iddynt. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 211 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod
blaenorol. |
|
Cynllun Corfforaethol Drafft 2023-2028 PDF 333 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau ar
lafar a rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint iddynt ar y cynnydd gweithredol sy'n
berthnasol i ddatblygiad y Cynllun Corfforaethol Drafft. Roedd hwn hefyd yn
gyfle i aelodau craffu fwydo i mewn i'r ymarfer ymgynghori 6 wythnos, fel y
manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoddodd y Cadeirydd glod i swyddogion
ar y cynnydd a wnaed o ran cyhoeddi'r Cynllun Corfforaethol Drafft ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus. Deellir mai De-orllewin Cymru fydd y Cyd-bwyllgor
Corfforedig cyntaf yng Nghymru i gynhyrchu Cynllun Corfforaethol. Dywedodd aelodau o fewn adroddiadau'r
dyfodol dylid cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol megis polisïau neu
strategaethau fel atodiadau ac nid fel dolenni o fewn yr adroddiad. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y
gyfradd ymateb bosib mewn perthynas â'r broses ymgynghori barhaus. Esboniodd
swyddogion dylid ystyried y gyfradd ymateb hyd heddiw yn ddiymhongar yn nhermau
rhifiadol, fodd bynnag, roedd manylion yr ymatebion a dderbyniwyd yn ddiddorol
ac yn ddefnyddiol. Cyfeiriwyd at y rhaglen gyhoeddusrwydd
a'r ymagwedd a ddefnyddiwyd i gynyddu ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad. Teimlodd
aelodau fod angen ymagwedd ehangach ar ymgynghoriadau'r dyfodol a rhagor o
gyfathrebu ynghylch yr ymgynghoriad i sicrhau cyfradd ymateb uwch. Trafododd aelodau cyfyngiadau'r
gyllideb. Nodwyd bod angen i'r Cynllun Corfforaethol
fod yn ddyheadol ac yn gyflawnadwy. Mae'r amcanion lles a ddewiswyd yn cyd-fynd
â'r pwerau a'r dyletswyddau sydd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Bydd gan
aelodau gyfle i adolygu'r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno'r amcanion lles yn
flynyddol. Nodwyd bod atodiadau'r Cynllun
Corfforaethol Drafft yn manylu ar ddyddiadau dyheadol sy'n golygu y gall bod yn
anodd fesur y cynnydd. Nodwyd bod angen cynnwys meincnodau er mwyn caniatáu i'r
Pwyllgor Craffu gyflawni ei weithredoedd wrth graffu ar y perfformiadau hyn. Nododd aelodau'r adroddiad a chroesawyd
y ffaith y byddant yn derbyn Adroddiadau Blynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran
cyflawni amcanion lles y Cynllun Corfforaethol. Nodwyd y byddai'r ymatebion o gyfarfod
heddiw yn cael eu cofnodi a'u cynnwys o fewn yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
Gyda llythyr gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Craffu - Is-bwyllgor Trosolwg a
Chraffu i Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad. |
|
Cynllun Cyflawni Economaidd De-orllewin Cymru PDF 364 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am y
cynnydd a wnaed o ran cyflwyno Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol
De-orllewin Cymru a darparwyd trosolwg o'r mentrau ehangach hynny a gynhelir o
fewn y rhanbarth. Trafododd aelodau'r astudiaeth
dichonoldeb cerbydau hydrogen a thrydanol a nodwyd o fewn rhaglen y Ddaear a
holodd pam comisiynwyd yr astudiaeth dichonoldeb hydrogen. Darparodd swyddogion
drosolwg o'r rhesymau y byddai angen cerbydau hydrogen. Nodwyd y byddai
adroddiad yn cael ei ailgyflwyno i'r pwyllgor yn y dyfodol a fydd yn cynnwys
rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon. Gofynnodd aelodau am y broses o dderbyn
cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Esboniodd swyddogion fod cyllid
wedi'i sicrhau yn lleol ac yn rhanbarthol ac nad oedd unrhyw arian cyfatebol. Cynhaliwyd trafodaethau pellach
ynghylch cyllid amgen y mae ei angen i gefnogi'r Cyd-bwyllgor Corfforedig wrth
ddarparu'r Cynllun Cyflawni Economaidd. Gofynnodd y Pwyllgor Craffu am ddiben y
Cyd-bwyllgor Corfforedig o ran cymryd rhan mewn gwneud ceisiadau am gyllid. Yn
dilyn trafodaethau, roedd aelodau'n bryderus fod y rhan fwyaf o geisiadau am
gyllid yn cael eu prosesu trwy awdurdodau unigol ac nid y Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn ei gyfanrwydd. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad. |
|
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol 2025 - 2030 PDF 333 KB Cofnodion: Cafodd yr aelodau’r wybodaeth
ddiweddaraf am y cynnydd o ran darparu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar
gyfer y cyfnod pum mlynedd rhwng 2025 a 2030, fel y manylir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch yr
adnoddau y byddai eu hangen i ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Roedd yn glir o'r trafodaethau bod diffyg adnoddau a chyllid. Nodwyd nad oedd
ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu unrhyw adnoddau i helpu i gefnogi'r
cynllun hwn. Rhoddodd swyddogion sicrwydd i aelodau y byddant yn parhau i lobïo
Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Yn dilyn trafodaethau, roedd aelodau'n
bryderus am yr ymagwedd a'r diffyg adnoddau i gefnogi'r cynllun hwn. Felly,
cytunwyd y byddai gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig - Is-bwyllgor
Trosolwg a Chraffu, awdurdod dirprwyedig i ysgrifennu llythyr at Gadeirydd y
Cyd-bwyllgor Corfforedig a fyddai'n nodi barn a phryderon y pwyllgor a godwyd o
fewn y tri phwnc a drafodwyd yn ystod
cyfarfod heddiw. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr
adroddiad. |
|
Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |