Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso Cofnodion: Cyflwynodd
a chroesawodd Swyddog Monitro'r Cyd-bwyllgor Corfforedig y Pwyllgor. |
|
Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru Cofnodion: Penodwyd
y Cyng. Richard Sparks yn Gadeirydd ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru - Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Penodwyd
Y Cyng. Tim Bowen fel Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru -
Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru PDF 261 KB Cofnodion: Rhoddwyd
trosolwg o'r cyfrifoldebau o fewn strwythur Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru a'r broses benderfynu i'r Aelodau, fel a fanylwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Gofynnod aelodau am gyfranogiad
y Parciau Cenedlaethol ar y prif Gyd-bwyllgor Corfforedig, fodd bynnag nid
oeddent yn rhan o'r Pwyllgor Craffu. Hysbysodd swyddogion yr aelodau fod hyn yn
cael ei drafod o hyd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig i drafod sut y bydd y parciau cenedlaethol yn ymwneud â phob statws
gwahanol wrth symud ymlaen. Nododd yr
aelodau y byddai swyddogion yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor trosolwg a
chraffu, yn amodol ar adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig yn y dyfodol. Yn
dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad.
|
|
Cofnodion: Rhoddwyd
trosolwg i aelodau mewn perthynas â chylch gorchwyl Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru a'r Pwyllgor Craffu, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Gofynnwyd
am eglurder ynghylch y cyrff allanol a fyddai
ar gael ar gyfer craffu, fel a amlygwyd yn y cylch gorchwyl. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai'n gyfyngedig, fodd bynnag byddai unrhyw gyrff allanol a
fyddai'n rhan o broses y Cyd-bwyllgor Craffu Corfforedig yn agored i graffu. Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru - Blaenraglen Waith y Prif Weithredwr. PDF 420 KB Cofnodion: Croesawodd yr aelodau Brif
Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig Diweddarwyd yr aelodau am
flaenraglen waith bresennol y Cyd-bwyllgor Corfforedig a rôl Prif Weithredwr y
Cyd-bwyllgor Corfforedig ynghyd â'r trefniadau a fydd ar waith ar gyfer
rhyddhau gwasanaethau, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cafwyd trafodaethau ynghylch
fformat y gyllideb a'i phrosesu. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid drosolwg o'r
gyllideb. Nodwyd bod dolen i gyfarfod blaenorol y Cyd-bwyllgor Corfforedig lle
cymeradwywyd y gyllideb ar gyfer 2022/23. Gofynnodd yr aelodau i gyllideb
2023/24 gael ei chynnwys yn y flaenraglen waith ym mis Ionawr. Nododd yr aelodau fod y
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn datblygu Cynllun Trafnidiaeth erbyn mis Rhagfyr
2022 ac y byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ym mis Mehefin 2022.
Holodd yr aelodau a oedd y dyddiadau hyn yn gywir. Eglurodd swyddogion fod y
dyddiadau'n gywir pan ddrafftiwyd yr adroddiad gwreiddiol, fodd bynnag roeddent
yn aros am arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi achosi oedi o ran
y dyddiadau. Cadarnhaodd swyddogion, yn
dilyn arweiniad pellach byddai diweddariad yn cael ei roi i'r Pwyllgor Trosolwg
a Chraffu. Cafwyd trafodaethau ynghylch
pynciau yr oedd yr aelodau am eu cynnwys yn y flaenraglen waith Trosolwg a
Chraffu. Cytunwyd y byddai sesiwn flaenraglen waith yn cael ei threfnu i
ganiatáu i'r pwyllgor ychwanegu ymhellach at eu blaenraglen waith. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys
yr adroddiad. |
|
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Ni
datganwyd unrhyw fuddiannau. |