Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth - Dydd Gwener, 31ain Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tom Rees  E-bost: t.rees1@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd fod Aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar eitem 4a o Flaenraglen Waith y Cabinet.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Nid oedd yr un.

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 319 KB

For the Committee to approve the accuracy of the minutes of the meeting held on 04/11/24.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 04/11/24 fel cofnod cywir.

4.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau eitem 4a o Flaenraglen Waith y Cabinet.

5.

System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid Datblygu Economaidd - Adnewyddu Contract pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd swyddogion ein bod wedi caffael y system Evolutive ym mis Mawrth 2023 i gefnogi'n prosiect Angori Busnes, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Roedd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar ein profiad llwyddiannus o gyflwyno nifer uchel o grantiau yn ystod COVID ac adborth gan swyddogion datblygiad economaidd yng Nghymru a oedd yn meddwl bod y system yn ddefnyddiol iawn.

Yn y lle cyntaf sicrhaodd swyddogion gontract dwy flynedd gydag estyniad dewisol o flwyddyn. Fodd bynnag, nid yw'r amserlen hon yn cyd-fynd ag anghenion y cyngor ar gyfer rhaglenni cyfredol a rhaglenni sydd ar ddod mwyach, megis grantiau Cronfa Bontio Tata ac ail rownd y Gronfa Ffyniant Gyffredin sy'n dechrau ym mis Ebrill.

Mae swyddogion yn rhagweld y bydd arian pellach gan gronfa'r llywodraeth sydd cyfwerth â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dechrau yn 2026. Mae gan y cyngor gyfle i ail-gontractio ar sail bwrdd cyfarwyddwr am dair blynedd am gost o £30,381 + TAW. Gellir talu'r gost hon drwy brosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin cyfredol, ond mae angen ei chymeradwyo, ei hanfonebu a'i thalu erbyn mis Chwefror. Cynghorwyd yr Aelodau fod swyddogion yn ceisio cymeradwyaeth gan Aelodau i barhau â'r cais gan ei fod y tu allan i reolau gweithdrefnau contractau'r cyngor.

Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau pam yr oedd y pwyllgor yn craffu ar yr adroddiad heddiw, gan esbonio y gall y pwyllgor ddewis yr hyn y mae'n craffu arno dan y system bresennol. Gan fod yr adroddiad hwn yn gwyro oddi wrth y rheolau gweithdrefnau contractau, roedd yn teimlo ei fod yn bwysig i'r pwyllgor ei adolygu i sicrhau nad yw'r cyngor yn gwyro yn afresymol. Nododd nad oedd unrhyw bryderon mawr ond mae ychydig o gwestiynau.

Roedd gan yr Aelodau ychydig o arsylwadau am fformat yr adroddiad o ran sut y mae wedi cael ei ysgrifennu a'r ddealltwriaeth ohono.

Roedd yr Aelodau wedi'u drysu ynghylch yr adran goblygiadau ariannol, sy’n dweud "ddim yn berthnasol". Roeddent yn teimlo bod ansicrwydd ynghylch cost y contract a gallu’r cyngor i’w fforddio nes iddynt gyrraedd yr adran am wybodaeth ariannol yn hwyrach yn yr adroddiad. Awgrymodd yr Aelodau y byddai wedi bod yn fwy defnyddiol pe bai'r adroddiad wedi egluro y byddai'r gost yn cael ei thalu gan y rhaglen, yn hytrach na nodi "ddim yn berthnasol."

Nododd y Cadeirydd fod adroddiad craffu eglurhaol cryno wedi’i gynnwys gydag adroddiad sylweddol y Cabinet. Teimlodd fod yr adroddiad craffu ychydig yn ddryslyd oherwydd mae'r adrannau effaith yn wag. Gofynnodd i'r adborth hwn gael ei ystyried yn gorfforaethol.

Tynnodd yr Aelodau sylw at y graff yn yr adroddiad a oedd yn dangos y dyraniadau arian grant, gan ddweud nad oeddent wedi cael gwybod beth oedd dibenion y grantiau penodol, a theimlwyd y byddai'n ddefnyddiol pe gallent gael manylion ynghylch i bwy y dyfarnwyd y grantiau ac ar gyfer beth. Er eu bod yn gobeithio cael gwybodaeth am wardiau unigol, roeddent yn teimlo y dylai holl fanylion y grantiau fod ar gael i Aelodau er mwyn hwyluso rhannu arferion gorau.

Awgrymodd yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau wedi'u dewis o'r Flaenraglen Waith Craffu.

7.

Monitro perfformiad

Cofnodion:

Nid oedd eitemau monitro perfformiad i'w hystyried.

8.

Dewis eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol pdf eicon PDF 236 KB

Dewis eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol (tudalennau 53 - 58)

 

         Blaenraglen Waith y Cabinet https://democracy.npt.gov.uk/documents/s104099/PublicCabinetFWP15thJanuary2025.docx.pdf

         Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

Cofnodion:

Members noted Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.

9.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA (6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.