Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth - Dydd Gwener, 2ail Mehefin, 2023 10.00 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting/ Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John  E-bost: c.l.john@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw fuddiannau.

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 216 KB

I'r Pwyllgor gymeradwyo cywirdeb cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2023.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2023 fel cofnod cywir.

 

Manteisiodd yr aelodau hefyd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am yr ymateb prydlon i ailagor y llwybr ar gyfer beicwyr a cherddwyr  rhwng Pont-rhyd-y-fen a Chimla yn dilyn y cais yn ystod y cyfarfod diwethaf.

4.

I ystyried argymhellion y grwp Tasg a Gorffen ar Adroddiad Adolygu Opsiynau Parcio 2023 pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg byr o'r grŵp gorchwyl a gorffen a'r cyd-destun y tu ôl iddo a dywedodd fod adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yma i'r aelodau ei gymeradwyo. Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau fod y pwyllgor wedi gofyn yn wreiddiol am adolygiad o drefniadau parcio dros y Nadolig er mwyn ystyried opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy o gwmpas adeg y Nadolig. Roedd yna hefyd darged cynhyrchu incwm o £300,000 a oedd wedi dod o’r gyllideb, felly edrychwyd ar yr holl opsiynau parcio ar gyfer 2023.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y sesiynau'n gynhyrchiol iawn a diolchodd i'r swyddogion am eu hymdrechion yn ystod y sesiynau. Hysbyswyd yr aelodau fod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi bod yn ofalus i sicrhau bod eu hargymhellion yn realistig yng nghefndir y gyllideb a'r targed incwm.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y pwyllgor nad oedd yr argymhelliad wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a chyflwynodd yr argymhelliad ychwanegol a ganlyn i'r Cabinet a swyddogion ei ystyried.

 

Penderfynwyd bod canlyniadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd wedi'u cynnwys yn Atodiad A yn cael eu cymeradwyo i Fwrdd Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet, yn amodol ar yr argymhelliad canlynol:

 

Adolygu oriau gweithredu parthau i gerddwyr yng nghanol tref Castell-nedd er mwyn ystyried cau'r parth i gerddwyr yn unig i gerbydau gyda'r nos yn ogystal ag yn ystod y dydd.

 

Gwahodd Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd i gyfarfod nesaf Pwyllgor Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun i adrodd yn ôl ar ei ystyriaeth o'r materion a gyflwynwyd.

 

Bod yr adroddiad ynghyd â'r gwelliant yn cael ei gymeradwyo i fwrdd y Cabinet.

5.

Adroddiad Diweddaru Iard Burrows pdf eicon PDF 677 KB

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am baratoi'r adroddiad yn unol â chais yr aelodau ac roedd yn gwerthfawrogi ei fod yn ddiweddariad byr.

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

6.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (cynhwysir Adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Ni chraffodd yr Aelodau ar yr eitemau cyhoeddus ar agenda Bwrdd y Cabinet.

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

8.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 533 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd y Cadeirydd y pwyllgor eu bod wedi cynnal sesiwn Blaenraglen Waith i benderfynu ar y Flaenraglen Waith ar gyfer y flwyddyn ddinesig i ddod.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor y dylid cynnwys yr eitem ganlynol ar y Flaenraglen Waith:

 

Gofyn am adroddiad gan Hwb Trafnidiaeth Integredig Castell-nedd (NITH) sy’n cynnwys y cynnydd hyd yma, cefndir y cynnig, a’r dogfennau dilynol:

 

·       Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 1

·       Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 2

·       Adroddiad canopi Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain

·       Dogfennau cefndir eraill

 

Bod yr Aelodau'n derbyn y dogfennau y gofynnwyd amdanynt 14 diwrnod cyn y cyfarfod nesaf.

9.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

10.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir Adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu).

 

Cofnodion:

Caffael Capel Soars, Maes yr Haf, Castell-nedd

 

Yn dilyn craffu roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.