Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth - Dydd Iau, 6ed Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting/ Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Cliona May  E-bost: c.may1@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 184 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. 

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu).

Cofnodion:

Rheolau a rheoliadau mynwentydd

 

Cafodd yr aelodau ddiweddariad ynghylch y diwygiadau i Reolau a Rheoliadau Mynwentydd yr awdurdod, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Nododd yr aelodau bwysigrwydd meinciau coffa i deuluoedd gan ddweud bod lle ar gael yn rhai o'r amlosgfeydd mwy ar gyfer meinciau ychwanegol. Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd, eglurwyd bod ceisiadau am seddi coffa wedi'u gohirio; fodd bynnag, roedd yr adroddiad hwn yn gofyn am ailddechrau gosod seddi coffa, ond ar sail gymunedol. Rhoddodd y swyddog a oedd yn bresennol enghraifft sef bod 30 o geisiadau am feinciau ym Mynwent Margam ar hyn o bryd, ac y byddai 30 o feinciau unigol yn defnyddio llawer iawn o’r lle sydd ar gael ar gyfer beddau. Pe bai Bwrdd y Cabinet yn cymeradwyo'r adroddiad, roedd swyddogion yn cynnig gosod tair mainc gymunedol, gyda deg plac coffa ar bob un ohonynt. Cadarnhawyd y cysylltwyd â'r teuluoedd a gyflwynodd y ceisiadau i egluro y byddai'n fainc gymunedol.

 

Mewn ymateb i ymholiadau'r aelodau ynghylch ym mha fynwentydd y gosodwyd y meinciau cymunedol, eglurwyd bod meinciau wedi'u gosod lle bu rhestr aros o geisiadau am sedd goffa. Fodd bynnag, cadarnhaodd y swyddog y gallant ystyried gosod y rhain mewn mynwentydd eraill os oedd Aelodau Ward yn dymuno codi hyn gyda nhw.

 

Ar ôl craffu, cafodd yr argymhellion eu cefnogi i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.

 

 

Polisi a Ffioedd Enwi a Rhifo Strydoedd

 

Diweddarwyd yr aelodau ar ddogfen bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd y cyngor, gan fod swyddogion yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y taliadau priodol am wasanaethau a ddarparwyd ac ailenwi'r strydoedd presennol ac enwi strydoedd newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Nododd yr aelodau bwysigrwydd sicrhau bod y cyfieithiad Cymraeg o'r enwau ffyrdd yn gywir, gan y gwnaed rhai camgymeriadau yn y gorffennol. Nodwyd hefyd fod yr wybodaeth yn yr adroddiad, ac i aelodau, i gyd wedi bod yn Saesneg, ac y byddai'n well sicrhau bod y cyfieithiadau Cymraeg yn yr adroddiadau lle bo hynny'n bosib.

 

Cododd aelodau bryderon ynghylch y diffyg ymgynghori ynglŷn â'r polisi, yn enwedig o ran peidio ag enwi strydoedd bellach ar ôl ymadawedigion. Eglurwyd nad oedd angen cynnal ymgynghoriad ynglŷn â'r polisi hwn, fodd bynnag, roedd y swyddogion yn hapus i newid y polisi o ran enwi strydoedd ar ôl ymadawedigion, neu y gallent ei drosi'n dilyn ymgynghoriad pe bai aelodau'n gofyn amdanynt. Cadarnhaodd Aelodau'r Pwyllgor y byddai'n well ganddynt petai swyddogion yn ymgynghori ar y polisi'n ôl-weithredol, ac i adrodd yn ôl am yr ymgynghoriad hwn wrth y Pwyllgor Craffu.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion a chânt eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.

 

 

Gwasanaeth Bysus Cymorthdaledig – Estyniadau i Gontractau

 

Hysbysodd y swyddogion yr aelodau ar y cais i estyn y contractau bysus cymorthdaledig presennol tan 31 Mawrth 2023, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Esboniodd aelodau'r Pwyllgor eu bod yn cefnogi'r argymhellion, fodd bynnag, roedd ganddynt bryderon am y rhwydwaith bysus ehangach. Awgrymodd adroddiad Bwrdd y Cabinet y byddai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.