Lleoliad: Microsoft Teams Meeting/ Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Nododd y Cadeirydd fod aelodau'r Pwyllgor Craffu
wedi cytuno i graffu ar yr eitemau canlynol o agenda Bwrdd y Cabinet: Eitemau
12 a 15. Rhoddwyd diweddariad llafar byr i'r aelodau am y
cais llwyddiannus diweddar ar gyfer y Gronfa Codi'r Gwastad ar gyfer Coridor
Treftadaeth Cwm Nedd. Bydd angen cwblhau’r gwaith cyn diwedd 2024. Mynegwyd siom na chyflawnwyd cais llwyddiannus ar
gyfer Port Talbot. Fodd bynnag, dywedodd swyddogion y bydd gwaith yn parhau i
archwilio ffrydiau ariannu eraill i geisio gwneud gwaith ym Mhort Talbot. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Ymgynghoriad ar gynigion cyllidebol 2023/24 (adroddiad i ddilyn) PDF 918 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr ymgynghoriad ar Gynigion Cyllidebol
2023/24 i'r aelodau, fel y'i cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Mynegwyd pryderon am yr arbedion effeithlonrwydd
ynni. Nid yw manylion yr arbedion wedi'u hamlinellu'n benodol o fewn y
gyllideb. Ymhellach, nodwyd bod cynnydd o 50% mewn costau ynni wedi ei ganiatáu
o fewn y gyllideb, ond roedd datganiad hefyd o fewn y cynigion a oedd yn
awgrymu y gallai costau gynyddu 162%. Holodd yr Aelodau a fyddai'r arbedion
effeithlonrwydd ynni yn ddigon i dalu am y cynnydd posib hwn. Dywedodd swyddogion eu bod wedi gofyn am gynnal
adolygiad ynni gyda chostau manylach i'w cyflwyno ymhen 6-8 wythnos. Bydd hyn
yn helpu i nodi arbedion effeithlonrwydd ynni. Mae astudiaethau dichonoldeb yn mynd rhagddynt ar
hyn o bryd o ran yr adeiladau sydd dan berchnogaeth a rheolaeth y cyngor er
mwyn penderfynu a oedd modd eu defnyddio'n fwy effeithlon a sut y gwneir hyn.
Bydd hefyd yn asesu a oes modd lleihau'r defnydd o'r adeiladau. Bydd angen
gwneud hyn heb gyfaddawdu ar y gwasanaeth a ddarperir. Cadarnhaodd swyddogion os oes cynigion penodol am
oleuadau stryd y byddant yn cael eu dwyn yn ôl gerbron y Cabinet. Bydd hyn yn
digwydd yn ystod y flwyddyn ariannol berthnasol, os caiff cynigion eu cyflwyno. Holodd yr aelodau a oedd cynllun strategol neu
gynnig fesul eitem mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, yn fwy penodol y
systemau draenio presennol sydd ar waith yn y fwrdeistref. Amlinellodd y swyddogion
y trefniadau presennol a'r camau gweithredu sydd ar waith i geisio lleddfu
rhywfaint o'r llifogydd a achosir gan y systemau draenio. Cydnabuwyd nad oedd
rhai o'r problemau wedi'u hachosi gan systemau sy'n eiddo i'r cyngor. Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai'r Strategaeth
Rheoli Perygl Llifogydd ddiweddaredig yn cael ei chyflwyno i'r pwyllgor
perthnasol ym mis Medi, cyn ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru. Amlinellodd swyddogion elfennau o'r Strategaeth
DARE (Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy). Nodwyd nad yw'n ymwneud ag
adeiladau ffisegol yn unig, mae hefyd yn ystyried ymddygiad staff. Diben y
strategaeth yw gweithio tuag at y nod o fod yn sero net erbyn 2030. Holodd yr Aelodau a ddylid dyrannu cyllideb benodol
i newid yn yr hinsawdd. Dywedodd y swyddogion fod yna gyllideb wrth gefn dros y
gaeaf y gellir ei defnyddio pan fo angen ymateb i dywydd eithafol. Mae cronfa
ar gael yn y gyllideb sydd i ddod i gefnogi strategaeth DARE a newid yn yr
hinsawdd. Ar ôl cynnal yr astudiaethau dichonoldeb perthnasol, bydd yr awdurdod
yn gallu deall risgiau cysylltiedig yn well a'r effaith y bydd hyn yn ei chael
ar y gyllideb. Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau yr
adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol
o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau
Craffu). Cofnodion: Astudiaeth
Genedlaethol Archwilio Cymru - Adolygiad Gwaelodlin Datgarboneiddio Holodd yr Aelodau
am y dyddiadau penodol y bydd y strategaethau a amlinellwyd yn cael eu
diweddaru, sef y Strategaeth
DARE ddiwygiedig a Chynllun Gweithredu Carbon 2030. Dywedodd y
swyddogion fod adroddiad wedi'i gomisiynu a oedd yn ystyried y bylchau rhwng
Strategaeth DARE a Chynllun Gweithredu Carbon 2030. Y cam nesaf yw gwneud
rhywfaint o waith gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon i ddrafftio cynllun gweithredu
a fydd yn cael ei gostio'n llawn. Bydd y cyfarfod sefydlu er mwyn gwneud hyn yn
cael ei gynnal ym mis Chwefror. Gall y broses gymryd hyd at 12 mis i'w
chwblhau. O ran strategaeth
DARE, bydd angen adnoddau ychwanegol i adolygu'r strategaeth ac i weithredu
peth o'r gwaith sero net dros y blynyddoedd nesaf. Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi’u heithrio) yn ol
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag
Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Dim. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu
a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod Cofnodion: Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau
preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd
y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd
y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr
aelodau craffu). Cofnodion: Trosglwyddo Tir
ac Adeiladu Uned Fasnachol yn Iard Burrows - Diweddariad (Eithriedig o dan
Baragraff 14) Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad. |