Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting/ Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John  E-bost: c.l.john@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y drefn ar gyfer yr agenda - nodwyd y byddai fel a ganlyn:

1.Datganiadau o Fuddiannau

2.Cofnodion y cyfarfod blaenorol (tudalennau 5 - 10)

3.      Craffu Cyn Penderfynu

4.Cofnod Gweithredu (11-14)

 

Amlygodd y Cadeirydd y byddent yn craffu ar eitemau 6 a 12 o Fwrdd Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Cymdogaeth y Cabinet.

 

Fodd bynnag, roedd y Cadeirydd yn dymuno gwneud sylwadau ar y canlynol:

 

Eitem 5 – ‘Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 30mya Arfaethedig mewn perthynas â Chyflwyno Terfyn Cyflymder Diofyn 20mya Llywodraeth Cymru yn Genedlaethol.'

 

Amlygodd y Cadeirydd fod aelodau wedi derbyn seminar i'r holl aelodau ar y cynllun arfaethedig ac felly roedd yn teimlo ei bod yn briodol gwneud sylwad ar ran y Pwyllgor. Nodwyd y codwyd pryderon am y cynllun o ran dyrannu cyllid, cyflwyno a chynnal a chadw'r cynllun. Amlygwyd bod swyddogion wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch y costau ac roedd pryderon ynghylch Heddlu De-orllewin Cymru yn gorfodi'r cynllun.

 

Amlygodd swyddogion, ar dudalen 6 yr adroddiad 'Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 30mya Arfaethedig mewn perthynas â Chyflwyno Terfyn Cyflymder Diofyn 20mya Llywodraeth Cymru yn Genedlaethol', fod y trydydd paragraff o dan isadran 'Asesiad Effaith Integredig' yr adroddiad a ddosbarthwyd wedi'i gynnwys ar ddamwain, ac ni ddylid ei ystyried fel rhan o'r adroddiad.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 273 KB

For the Committee to approve the accuracy of the minutes of the meeting held on 6 October 2022.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2022 fel cofnod cywir.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

To select appropriate items from the Cabinet Board agenda for Pre-Decision Scrutiny (Cabinet Board reports included for Scrutiny Members)

Cofnodion:

Cofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol 

Diweddarwyd yr aelodau am y cais i ymuno â Phrosiect Cofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol y Comisiwn Geo-ofodol a noddwyd gan Lywodraeth y DU, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Hysbysodd swyddogion yr aelodau fod gwall yn yr adroddiad. Nodwyd y dylai'r adroddiad ddweud 'dim ond un ar ddeg o ugain o awdurdodau lleol yng Nghymru oedd heb gofrestru eto', nid 'dim ond un o ddau awdurdod lleol yng Nghymru oedd heb gofrestru eto', fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Holodd yr aelodau beth fyddai'r buddion ar gyfer yr awdurdod lleol pe bai'n cymryd rhan yn y prosiect. Gofynnodd yr aelodau am wybodaeth ynghylch y staff, yr amser a'r costau presennol a fyddai'n gysylltiedig â chasglu'r wybodaeth angenrheidiol, gan y byddai angen diweddaru'r wybodaeth hon bob 3 mis ac y gallai effeithio ar adnoddau. Amlygodd swyddogion nad oes ganddynt yr wybodaeth i'w darparu ar hyn o bryd, fodd bynnag hysbyswyd y pwyllgor mai llwyddiant cyffredinol hyn fyddai i bawb gymryd rhan.

 

Roedd y Pwyllgor yn teimlo ei fod yn bwysig i adroddiad pellach gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn adolygu'r penderfyniad, yn manylu ar wybodaeth bellach ynghylch costau a buddion y cynllun a sut mae'r cyngor yn dymuno parhau â'r prosiect.

 

Felly, yn dilyn cynigydd ac eilydd, ychwanegwyd argymhelliad ychwanegol i'r prif argymhelliad, fel yr isod:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, argymhellir y canlynol:

 

·        Bod y cyngor yn cymryd rhan ym mhrosiect Y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol (CATG) ac yn llofnodi'r Cytundeb Dosbarthu Data mewn perthynas ag Opsiwn 2 yn yr adroddiad;

·        Bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, yn cael ei awdurdodi i lofnodi'r Cytundeb Dosbarthu Data ar ran y cyngor

·        Os oes pwysau refeniw yn codi o ganlyniad i fod yn rhan o'r prosiect, ymhellach i Opsiwn 2, yna byddai angen dod o hyd i gyllid o fewn y gyllideb Amgylchedd ac Adfywio bresennol os oes angen ystyried parhad fel blaenoriaeth.

·        Y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2024, yn manylu ar adolygiad o'r penderfyniad, gan gynnwys gwybodaeth bellach am gostau a buddion y cynllun a sut mae'r cyngor yn  dymuno parhau â'r prosiect.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad uchod gan y pwyllgor a Bwrdd y Cabinet. 

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2022/2023 - Chwarter 1 (1 Ebrill 2022 - 30 Mehefin 2022)

 

Derbyniodd yr aelodau wybodaeth mewn perthynas â chwarter 1 y Data Rheoli Perfformiad a fanylwyd yn Atodiad 1 a'r wybodaeth Canmoliaeth a Chwynion a fanylwyd yn Atodiad 2 ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 30 Mehefin 2022, ar gyfer Bwrdd Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun y Cabinet, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cododd y pwyllgor craffu'r pwyntiau canlynol mewn perthynas â'r dangosyddion perfformiad a gofynnodd i swyddogion ystyried y pwyntiau hyn ar gyfer adroddiadau perfformiad yn y dyfodol:

 

PI/367 - PPN/001ii - Canran y busnesau risg uchel a oedd yn atebol i arolygiad wedi’i raglennu, a arolygwyd ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cofnod Camau Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 384 KB

For the Committee to comment on and note the actions and the progress from the previous meetings.

Cofnodion:

Nodwyd y cofnod gweithredu.

 

6.

Eitemau brys

Any urgent items (whether public or exempt) at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100B (4) (b) of the Local Government Act 1972.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.