Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Microsoft Teams Meeting/ Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John  E-bost: c.l.john@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 372 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2023 fel cofnod gwir a chywir.

4.

Ystyried Argymhellion Gr?p Tasg a Gorffen Adolygu'r Strategaeth Gwastraff (I ddilyn) pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau drosolwg o'r adroddiad a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor Craffu gymeradwyo'r argymhellion yn adroddiad y Grŵp Tasg a Gorffen i Fwrdd Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Craffu hefyd i’r Aelod Cabinet perthnasol adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Craffu ar eu hymateb i'r argymhellion. Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau a'r swyddogion am eu hymdrechion yn ystod y Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

5.

Craffu Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Priffyrdd a Pheirianneg - Rhaglen Waith 2023/2024

 

Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am y gwaith priffyrdd a pheirianneg i’w gyflawni ym mlwyddyn ariannol 2023/24 a gofynnwyd iddynt gymeradwyo'r rhaglen waith fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am adroddiad gan swyddogion i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu sydd wedi’i drefnu ar gyfer 26 Mai sy'n nodi'r meini prawf a ddefnyddiwyd i asesu a blaenoriaethu’r cynlluniau yn rhaglen waith priffyrdd a pheirianneg fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Rhaglen Caffael Cerbydlu a Pheiriannau Trwm 2023/24

 

Rhoddwyd gwybod i’r aelodau am y cais i gymeradwyo caffael cerbydau a pheiriannau trwm newydd yn 2023/24. Yn ogystal â chymeradwyo awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol brynu cerbydau newydd ar gyfer 25/26 os daw unrhyw grantiau ar gael i gynorthwyo gyda phrynu cerbydau, fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd yr aelodau i adroddiad gael ei gyflwyno yng nghyfarfod y dyfodol a fydd yn manylu ar y ffigurau mewn perthynas â chaffael cerbydlu peiriannau a faint y mae'r cyngor wedi ymrwymo iddo. Byddai hyn yn rhoi dealltwriaeth i aelodau ar gostau tendrau pan fyddant yn dod i’r amlwg. Cytunodd y swyddogion i gyflwyno adroddiad costau i aelodau bob hanner blwyddyn, fodd bynnag, dywedasant fod y farchnad gerbydau'n heriol ar hyn o bryd gan fod cyflenwad a galw’n effeithio ar gostau. Dywedodd y swyddogion y byddai'r adroddiad yn dibynnu ar gwblhau manylebau cerbydau a cheisio tendrau i ddarparu costau.

 

Roedd yr aelodau hefyd am gael diweddariad ar isadeiledd gwefru cerbydau yn unol â chael mwy o gerbydau trydan ac adroddiad am hyn. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno ac esboniwyd bod yr isadeiledd gwefru cerbydau yn gyfyngedig ar hyn o bryd o amgylch adeiladau dinesig. Fodd bynnag, i baratoi ar gyfer ehangu cerbydau carbon isel y cerbydlu, dechreuwyd ar gontract gwerth £1.6 miliwn i hwyluso'r broblem a bydd yn ymdrin yn bennaf â cherbydlu'r cyngor. Bwriedir cwblhau hyn erbyn diwedd yr haf o fewn y flwyddyn ariannol hon. Dywedwyd wrth swyddogion hefyd y bydd Cwrt Tregelles hefyd yn derbyn rhywfaint o isadeiledd cerbydau trydan gan fod yr awdurdod ar fin derbyn cerbydau trydan i gefnogi gwasanaethau'r cyngor.

 

Roedd yr aelodau hefyd am wybod pam fod yr adroddiad yn cyfeirio’n unig at y posibilrwydd o gael cerbydau trydan ar gyfer lorïau gwastraff. Trafodwyd y byddai adolygiad trafnidiaeth yn dechrau yn y flwyddyn ariannol hon, gyda chynllun 5 mlynedd o ran sut y bydd y cerbydlu’n cael ei ddatblygu a'i ehangu. Esboniodd swyddogion fod grantiau ar gael i helpu gyda'r gwahaniaeth mewn costau wrth newid o gerbydau diesel i gerbydau trydan er mwyn helpu i ddatgarboneiddio'r cerbydlu gwastraff erbyn 2030 a bod y swyddogion yn gobeithio pe bai’r cyngor yn penderfynu newid y cerbydlu gwastraff i gerbydlu trydan, y bydd Llywodraeth Cymru'n gallu cefnogi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Eitemau brys

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

7.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 523 KB

Cofnodion:

Nododd aelodau'r pwyllgor y Blaenraglen Waith.

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

9.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Cludiant o’r cartref i’r ysgol

 

I drafod y broses dendro mewn perthynas â chludiant o'r cartref i'r ysgol, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.