Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tom Rees E-bost: t.rees1@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd fod Aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar eitem 4(a) o Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol I'r
Pwyllgor gymeradwyo cywirdeb cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 06/12/2024. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6/12/2024 fel cofnod cywir o’r trafodion. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau eitem 4(a) o Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Rhaglen Gwaith Priffyrdd 2025/2026 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Tynnodd aelodau sylw at y ffaith bod y gwaith a ddewiswyd ar
gyfer rhaglen gwaith Priffyrdd yn wahanol i'r awgrymiadau a wnaed gan aelodau
yn eu cymorthfeydd aelodau. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith nad oedd yr
adroddiad yn darparu unrhyw esboniad o'r sail resymegol y tu ôl i'r
penderfyniadau i beidio â symud ymlaen ag awgrymiadau'r aelodau. Esboniodd swyddogion fod y gyllideb wedi aros yn sefydlog am
y 10 mlynedd diwethaf ar wahân i unrhyw grantiau ychwanegol gan LlC. Mae
swyddogion yn blaenoriaethu ar sail cyflwr a risgiau i'r awdurdod yn hytrach na
chyflawni rhestr ddymuniadau. Dywedwyd wrth yr aelodau fod swyddogion yn cynnal arolygon
mawr i asesu'r rhwydwaith, sy'n wynebu problemau sylweddol oherwydd diffyg
buddsoddiad dros amser. Os bydd awgrymiadau aelodau'n cyd-fynd â'r anghenion yn
seiliedig ar risg a chyflwr y ffyrdd, yna gellir cynnwys yr awgrymiadau hynny. Mae'n rhaid i swyddogion fod yn fwy arloesol a rhoddodd
aelodau'r enghraifft o bilen yn cael ei defnyddio ar Heol Depot yng Nghwmafan i
leihau costau. Dywedwyd wrth aelodau fod y chwyddiant wedi lleihau
pŵer prynu'r cyngor 30-40%, sy'n golygu bod y gwaith y gall swyddogion ei
wneud hefyd yn lleihau 30-40%. Esboniodd swyddogion er mwyn gwella safon y
briffordd, mae angen buddsoddiad untro gwerth £20 miliwn a buddsoddiad
blynyddol o £3 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Mae swyddogion yn deall dymuniadau'r gymuned, ond mae
technegwyr a pheirianwyr yn llunio asesiadau'n seiliedig ar arolygon cyflwr,
sy'n ystyried ffactorau amrywiol fel gwrthsefyll sgidio a diffygion diogelwch.
Mae nifer o flaenoriaethau a dim digon o arian. Dywedwyd wrth yr aelodau fod y penderfyniadau'n seiliedig ar
arolygon technegol, nid gwleidyddiaeth. Yn hanesyddol, roedd cyfleoedd i
brosiectau bach lleol, ond erbyn hyn mae angen i'r holl arian gael ei
ddefnyddio i ymdrin â risgiau. Dyma pam mae amrywiaeth o ran faint o arian sy'n
cael ei wario ym mhob ward. Roedd aelodau'n hapus i glywed y sail resymegol y tu ôl i'r
gwaith a ddewiswyd i'w gwblhau yn dilyn y cymorthfeydd. Esboniodd swyddogion os nad yw'r cyngor yn gwario arian yn
synhwyrol, bydd yr ôl-groniad o £20 miliwn yn parhau i dyfu wrth i ffyrdd
waethygu. Byddai angen gwario £20 miliwn i sicrhau bod ffyrdd mewn cyflwr
rhesymol a byddai angen £3 miliwn y flwyddyn ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
Gall oedi mewn buddsoddiadau arwain at y posibilrwydd o gostau'n cynyddu o
flwyddyn i flwyddyn. Mae swyddogion yn ceisio sicrhau bod yr arian yn mynd mor
bell â phosib gan ddefnyddio technegau fel microwynebu i sicrhau ansawdd
ffyrdd. Mae swyddogion hefyd yn selio ffyrdd i'w hamddiffyn rhag glaw a rhew
sy'n ymestyn bywyd y ffordd. Dywedodd aelodau fod angen gwaith helaeth ar rai ffyrdd
oherwydd gwaith adeiladu cychwynnol gwael ac maent hefyd yn dod ar draws
problemau fel tar glo ac mae hynny'n fwy drud i'w symud na chostau ailosod y
ffordd. Mae swyddogion yn ceisio gwneud y mwyaf o'r gyllideb wrth fynd i'r
afael â heriau amrywiol yn effeithiol. Tynnodd Michael Roberts, Pennaeth Gofal Strydoedd, sylw at y mathau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
I Ystyried Eitemau o Raglen Waith y Pwyllgor Craffu Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau o'r Flaenraglen Waith Craffu wedi'u dewis. |
|
Monitro perfformiad Cofnodion: Nid oedd eitemau monitro perfformiad wedi'u dewis. |
|
Dewis eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol · Blaenraglen Waith y Cabinet
ar gyfer 24/25 · Blaenraglen Waith y
Pwyllgor Craffu ar gyfer 24/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |