Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth - Dydd Gwener, 19eg Gorffennaf, 2024 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tom Rees  E-bost: t.rees1@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a dywedodd fod y Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar yr Adroddiad Blynyddol a'r eitemau canlynol o Flaenraglen Waith y Cabinet.

 

Eitem 5a: Adroddiad Cynllun Peilot Goleuadau Stryd Rhan Amser Gyda'r Nos

Eitem 5b: Strategaeth a Chynllun Lleol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 245 KB

I'r Pwyllgor gymeradwyo cywirdeb cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10/01/24, 09/02/24, 22/03/24 a 19/04/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10/01/24, 09/02/24, 22/03/24 a 19/04/24 fel cofnod cywir o'r trafodion.

4.

Adroddiad Blynyddol pdf eicon PDF 194 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr eitem hon ei hepgor oherwydd camgymeriad gweinyddol.

5.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cyngor

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet.

5a

Cynllun Peilot - Goleuo rhannol gyda'r hwyr pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Strydlun, y Cyng. Scott Jones, rywfaint o gefndir i'r pwyllgor ynghylch yr adroddiad. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod cynnydd sylweddol yn y gyfradd ynni yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi rhoi pwysau mawr ar gyllidebau adrannol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Adran Goleuadau Strydoedd Cyhoeddus wedi tynnu sylw at 3 strategaeth arbed ynni posib yn ystod 2023/24 i gyfyngu ar y gorwariant.

Lleihawyd lefelau pŵer pob colofn golau stryd gwerth 3 Watt ac yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 22 Mawrth 2024, rhoddwyd pylu goleuadau 25% ar waith ar draws 10,000 o lusernau LED. Cyn i'r Cabinet gymeradwyo pylu goleuadau 25%, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ochr yn ochr â phrawf llwyddiannus yn 2024.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet fod y trydydd opsiwn o oleuadau rhan amser gyda'r nos wedi'i ohirio nes y cynhelir astudiaeth beilot i gael gwell dealltwriaeth o effeithiau strategaethau arbed a thrwy hynny alluogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth yn y dyfodol, os oes angen.

 

Atgoffwyd yr Aelodau eu bod fel pwyllgor, cyn cynnal y prawf, wedi gofyn i Fwrdd y Cabinet am adroddiad pellach sy'n cynnwys manylion lleoliadau daearyddol, hyd y prawf a'r amseroedd ar gyfer cynnau a diffodd y goleuadau fel y'u cyflwynwyd yn yr adroddiad.

 

Nododd Aelod y Cabinet fod aelodau yng nghyfarfod Craffu mis Mawrth wedi argymell pryderon ynghylch diffodd goleuadau stryd am 9.00pm gyda'r nos, a allai golygu bod menywod a merched yn fwy agored i niwed ac eglurodd fod y pryder hwn wedi'i ystyried, a'i fod yn cael ei adlewyrchu yn yr amseroedd ac yn adlewyrchu'r pryderon a godwyd yn flaenorol.

 

Mynegwyd hefyd y byddai'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal fel rhan o astudiaeth beilot cyn dechrau'r prawf a bydd yn cynnwys asesiad o'r effaith ar fenywod a merched ifanc o ran trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet fod y broses o ymgynghori â'r partneriaid hynny wedi dechrau ac os cymeradwyir y cynllun peilot goleuadau rhan amser gyda'r nos arfaethedig gan y Cabinet, caiff ei gynnal drwy gydol mis Tachwedd, a bydd yn cynnwys cyfanswm o 133 o lusernau dros saith lleoliad.

Bydd y llusernau'n cael eu diffodd rhwng 1.00am a 5.00am ac ar ôl cwblhau canlyniadau'r cynllun peilot bydd adborth gan randdeiliaid yn cael ei gasglu yn barod ar gyfer unrhyw drafodaethau yn y dyfodol neu gyfnod brawf hwy.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, fel rhan o'r broses ymgynghori, y bydd asiantaethau a phreswylwyr yr effeithir arnynt yn cael gwybod am hyn cyn dechrau'r cynllun peilot a chaiff adborth gan y Pwyllgor Craffu ac aelodau hefyd ei ystyried fel rhan o'r adroddiad terfynol i'w gyhoeddi ym mis Medi.

 

Esboniodd swyddogion fod dewis y lleoliadau wedi bod yn broses anodd gan ei fod yn fater sensitif ond mae'n rhaid ei wneud fel rhan o'r prawf.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y gallai hyn fod yn rhagflas ar brawf pellach yn ddiweddarach ar gyfer diffodd mwy o oleuadau ac y bydd hynny'n arwain at ymgynghori pellach.

 

Esboniodd swyddogion eu bod hefyd wedi trefnu cyfarfodydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5a

5b

Cynllun a Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Strydlun, Scott Jones, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am yr adroddiad. Dywedodd fod y Cyngor yn gweithredu fel awdurdod llifogydd lleol arweiniol ar gyfer y rhanbarth ac mae ganddo ddyletswydd statudol i gynhyrchu a datblygu strategaeth a chynllun lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd fel y nodir o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod yr awdurdod wedi cyhoeddi ei strategaeth leol gyntaf yn 2014, gan nodi'r ymagwedd drosfwaol at reoli perygl llifogydd lleol ac, ochr yn ochr â'r strategaeth leol, cyhoeddwyd y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn 2015.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi datblygu'r amcanion, y mesurau a'r camau gweithredu a amlinellir yn y Strategaeth Leol yn gynllun manylach ar gyfer rheoli llifogydd yng nghymunedau'r awdurdod yn seiliedig ar wardiau gwleidyddol.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet mai'r ail Strategaeth Leol yw'r ddogfen ac er bod yr awdurdod wedi cyhoeddi'r Strategaeth Leol ar wahân yn flaenorol, mae'r strategaeth leol a'r cynllun newydd hon yn integreiddio'r ddwy ddogfen yn un, gan leihau'r cymhlethdod a'r dyblygiad.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y bydd y ddogfen hon yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau strategol eraill ar gyfer rheoli traethlinau, isadeiledd a chynllunio ac yn nodi'r cyfeiriad y mae'r awdurdod am ei ddilyn.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y ddogfen yn esbonio sut y bydd llifogydd yn cael eu rheoli ar draws ardal yr Awdurdod Lleol yn gyson â'r amcanion, y mesurau a'r polisïau a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig a nodir yn y Strategaethau Cenedlaethol.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet fod y ddogfen wedi'i hysgrifennu mewn ffordd y gall y cyhoedd ehangach ac ymarferwyr perygl llifogydd ei defnyddio a'i chyfeirio ato. 

 

Dywedodd Aelod y Cabinet mai bwriad yr awdurdod yw adolygu'r strategaeth a'r cynllun bob dwy flynedd, a bydd y cynllun gweithredu'n cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

 

Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau bod hwn yn faes pwysig iawn o fewn y meysydd priffyrdd a systemau draenio. Mae llawer o fuddsoddiadau wedi'u gwneud i'r awdurdod a staffio a chynllunio ymlaen llaw a chynllunio ar gyfer olyniaeth. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod swyddogion mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn rheolaidd a bod gan swyddogion gynllun gwaith ar y gweill dros y 10 mlynedd nesaf sydd wedi'i chynllunio ar hyn o bryd ar gyfer cynlluniau ar draws y fwrdeistref sirol yn seiliedig ar angen, sydd â chyfanswm gwerth o £35,000,000.

 

Eglurodd swyddogion fod y rhain yn ddibynnol ar gyllid Llywodraeth Cymru oherwydd ar hyn o bryd yng nghyllideb gyfalaf yr awdurdod £300,000 y flwyddyn yn unig sydd gan yr awdurdod, sydd wedi'i leihau gan chwyddiant. Mae swyddogion yn teimlo bod yr awdurdod ar flaen y gad o ran perygl llifogydd yng Nghymru ac efallai yn y DU ac mae ganddo dîm gwych o unigolion ac maent yn paratoi ar gyfer y dyfodol, ond bydd llawer o'r gwaith hwn yn dibynnu ar gyllid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5b

6.

Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu

·        No scrutiny committee Forward Work Programme items to be considered.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau wedi'u dewis o'r Flaenraglen Waith Craffu.

7.

Monitro Perfformiad

·        No performance monitoring items to be considered.

Cofnodion:

Nid oedd adroddiadau monitro perfformiad i'w hystyried.

8.

Detholiadau o eitemau i'w craffu arnynt yn y dyfodol pdf eicon PDF 722 KB

·        Cabinet Forward Work Programme

·        Scrutiny Committee Forward Work Programme

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd swyddog y Gwasanaeth Democrataidd fod yr Aelodau wedi penderfynu ychwanegu Adroddiad Pleidleisio Adnewyddu Port Talbot VIVA at Flaenraglen y Pwyllgor Craffu i ystyried yr eitem yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar 20 Medi.

9.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.