Agenda a Chofnodion

Special, Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth - Dydd Gwener, 19eg Ebrill, 2024 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tom Rees  E-bost: t.rees1@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar yr eitemau canlynol o agendâu Craffu a Bwrdd y Cabinet:

 

Agenda Craffu

 

           Eitem 4: Yr wybodaeth ddiweddaraf am roi mesurau yng Nghynllun Gweithredu'r Strategaeth Wastraff ar waith

 

Agenda Bwrdd y Cabinet

 

           Eitem 6: Prosiect Angori i Fusnesau a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) - Gwella Cymorth Busnes ar gyfer Twf ac Arloesedd - Diweddariad

           Eitem 8: Cynllun Ynni Ardal Leol Castell-nedd Port Talbot

           Eitem 14: Bwriad i waredu Tir Datblygu Preswyl ym Mlaenbaglan.

           Eitem 15: Bwriad i adnewyddu prydles y Llyfrgell Gyhoeddus ar lawr cyntaf Canolfan Siopa Aberafan, Port Talbot i'r Cyngor.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Nathan Goldup-John fuddiant nad oedd yn rhagfarnol yn Eitem 8 Cynllun Ynni Ardal Leol Castell-nedd Port Talbot gan ei fod yn gweithio i Trafnidiaeth Cymru.

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 245 KB

·       10 Ionawr 2024

·       9 Chwefror 2024

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr eitem hon ei hepgor oherwydd camgymeriad clerigol.

4.

Diweddariad ar roi mesurau Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Gwastraff ar waith (i ddilyn)

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am lunio'r adroddiad diweddaraf, yr oedd aelodau o'r farn ei fod yn gynhwysfawr ac yn ategu'r adroddiad.

 

Nododd yr Aelodau ar dudalen 33 o'r adroddiad ei fod yn rhestru'r ddirwy am beidio â chyrraedd y targed gwastraff a osodwyd gan Lywodraeth Cymru fel £200 y dunnell dros y targed. Teimlai'r Aelodau y byddai'n well ei ail-eirio ar sail amcangyfrif o gyfanswm y ganran dros y targed, gan y gallai gael mwy o effaith.

 

Teimlai'r Aelodau bod cwestiynau 1 a 2 yn yr holiadur yn debyg iawn ac y gellid eu cyfuno er mwyn helpu dealltwriaeth a chynyddu ymgysylltiad.

 

Nododd swyddogion fod y ffigwr ar gyfer pob 1% wedi'i gyfrifo ac y gallent ystyried hynny; roedd swyddogion hefyd yn derbyn y syniad o uno'r ddau gwestiwn pan fyddant yn cwblhau'r cwestiynau a gyflwynir yn yr ymgynghoriad.

 

Awgrymodd yr aelodau nad oedd angen y cwestiwn ynghylch amlder y casgliadau, oherwydd bod arweinydd y cyngor yn dweud na fyddai hyn yn newid i dri chasgliad wythnosol.

 

O ran codi tâl am wastraff gwyrdd, roedd yr aelodau'n poeni y byddai'n creu effaith negyddol ar yr amgylchedd gan y gallai pobl losgi'r gwastraff eu hunain neu ddechrau ei roi mewn biniau gyda gwastraff arferol neu hyd yn oed gael gwared arno eu hunain.

 

Holodd yr aelodau hefyd faint o gynghorau sydd wedi talu dirwy i Lywodraeth Cymru hyd yn hyn.

 

Eglurodd swyddogion na allant wneud sylw ar unrhyw ddatganiadau gwleidyddol a'u bod yn gwbl glir y gwnaed penderfyniad ffurfiol ym mis Ebrill 2023 i gynnal ymgynghoriad a bod y rhan hon o'r cynllun gweithredu'n cynnwys cyflawni'r penderfyniad hwnnw a wnaed ym mis Ebrill 2023.

 

Mewn perthynas â gwastraff gwyrdd, dywedodd swyddogion y bydden nhw'n archwilio yn yr ymgynghoriad beth fyddai'n digwydd i wastraff gwyrdd yn ogystal â gwastraff plastig. Dywedodd swyddogion fod y cerbydau ailgylchu a sbwriel ar fin cael eu hadnewyddu a dyma'r amser priodol i ystyried y mathau o gerbydau y mae angen iddynt eu prynu fel bod ganddynt y rhai cywir am y 7-9 mlynedd nesaf.

Cafodd yr aelodau wybod bod rhai cynghorau wedi cael dirwyon gan Lywodraeth Cymru, ond doedd gan swyddogion ddim y manylion ynghylch a wnaethant eu talu.

 

Dywedodd yr aelodau nad ydynt yn credu bod unrhyw ffordd o fonitro faint o wastraff gardd y gallai'r cyhoedd ei losgi neu ei roi yn y biniau gwastraff arferol. Dywedodd swyddogion wrth aelodau fod aelodau'r cabinet yn bresennol ac roeddent yn sicr y byddai'r adborth gan aelodau Craffu yn cael ei ystyried ynghyd â phopeth a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Gofynnwyd i swyddogion am y gwastraff cynnyrch hylendid amsugnol gan mai'r adborth gan y cyhoedd i'r aelodau oedd bod y blychau'n rhy fach a gofynnwyd a fyddai addasrwydd y blychau'n cael ei adolygu.

 

Cadarnhaodd swyddogion y gellir adolygu'r maint ac, yn anffodus, nad oedd yr adborth a roddwyd i breswylwyr ynghylch beth oedd diben y biniau cystal ag y dylai fod wedi bod. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau nad biniau storio yw'r biniau hyn, ond  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Diweddariad ar roi mesurau Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Gwastraff ar waith pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.

 

6.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Eitem 6: Prosiect Angori i Fusnesau a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) - Gwella Cymorth Busnes ar gyfer Twf ac ArloeseddDiweddariad

 

Nododd y Cadeirydd fod aelodau'n gwerthfawrogi lefel y manylion a'r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ac er gwaethaf y manylion nid oedd yn rhy hir, ac roedd yr aelodau'n gwerthfawrogi hynny.

Gofynnodd yr Aelodau am dudalen 44 yr adroddiad lle mae'n ymwneud â chynaliadwyedd y swyddi. Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad yn mynegi pryder y gallai pobl adael a bydd llawer o brofiad yn cael ei golli pan fydd y cyllid ar gyfer y prosiect yn dod i ben. Roedd yr Aelodau'n meddwl tybed a oedd unrhyw ragolygon ar gyfer cyllid yn y dyfodol neu unrhyw feddyliau am sut i osgoi colli staff.

Esboniodd swyddogion fod staff yn dechrau chwilio am gyflogaeth arall erbyn diwedd y cynllun gan nad oes ganddynt unrhyw sicrwydd o gyflogaeth yn y dyfodol, ac mae'r awdurdod yn colli staff a phrofiad da iawn. Mae'r Prif Weithredwr wedi pwysleisio'r angen i sicrhau bod swyddogion yn gallu sicrhau bod modd i swyddogion gael pethau ar waith i gadw'r holl staff y mae eu hangen.

Cynghorwyd aelodau weithiau bod angen clustog i gadw'r staff oherwydd byddai angen i broses recriwtio hir arall ddigwydd  wedi hynny fel arall.

Collodd yr awdurdod ran gyntaf y cynllun o ran cael yr adnoddau angenrheidiol i ddechrau cyflawni oherwydd eu bod yn dal i fod yn y cyfnod recriwtio oherwydd y bwlch rhwng diwedd un cyllid a dechrau cyllid arall. Mae swyddogion yn obeithiol y byddant yn gwneud rhywbeth i sicrhau y bydd yr holl staff y mae angen iddynt eu cadw'n aros.

Dywedodd swyddogion fod proffil oed y staff yn golygu y bydd cynllunio olyniaeth yn broblem yn ogystal â cholli rhai pobl ifanc a allai o bosib ddechrau gyrfa yn y maes hwn ond bod ansicrwydd ynghylch y cyllid a pha mor hir y byddant yn gallu eu cadw.

Mae swyddogion wedi mynegi eu pryderon i Lywodraeth y DU ynglŷn ag ansicrwydd y broses ymgeisio. Dywedodd swyddogion fod y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) wedi bod yn dda iawn i'r awdurdod, ond mae gwir angen cyhoeddi CFfG 2 arnynt rywbryd cyn i CFfG 1 ddod i ben oherwydd byddai'r parhad hwnnw'n rhoi darpariaeth llawer hirach i swyddogion. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y CFfG wedi caniatáu hyblygrwydd gyda'r cyllid i ymateb i bethau sy'n digwydd, er enghraifft, sefyllfa Tata Steel ac wedi caniatáu i swyddogion ddechrau gwneud rhywfaint o waith gyda rhai o'r cwmnïau y maen nhw'n gwybod y byddant yn cael eu heffeithio o fewn y gadwyn gyflenwi.

Dywedodd swyddogion y byddai cael parhad yn bwysig iawn ac maent wedi mynegi hynny i Lywodraeth y DU ac er eu bod yn cydymdeimlo'n fawr, nid oes arwydd clir y byddant yn parhau i'w wneud ar hyn o bryd.

Cadarnhaodd swyddogion mai dyddiad gorffen presennol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

9.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Eitem 14: Bwriad i waredu Tir Datblygu Preswyl ym Mlaenbaglan.

 

Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r argymhellion diwygiedig i Fwrdd y Cabinet.

 

Eitem 15: Bwriad i adnewyddu prydles y Llyfrgell Gyhoeddus ar lawr cyntaf Canolfan Siopa Aberafan Port Talbot i'r Cyngor.

 

Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r argymhellion diwygiedig i Fwrdd y Cabinet.