Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Nododd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno
i graffu ar yr eitemau canlynol o agenda Bwrdd y Cabinet: · Eitem 7.
Diwygiad i is-ddeddf sy'n gwahardd beicio ger Gatiau Coffa Castell-nedd ac ar
hyd y llwybr rhwng y pwll gwaelod a Chilgant Cimla · Eitem 8.
Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus - Glan Môr Aberafan · Eitem 9.
Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) - Cytundeb Cyflawni Diwygiedig (CC) · Eitem 10. Adolygiad Parcio 2023 |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fudd. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Diwygiad i is-ddeddf
sy'n gwahardd beicio ger Gatiau Coffa Castell-nedd ac ar hyd y llwybr
rhwng y pwll gwaelod a Chilgant Cimla Roedd yr Aelodau'n poeni am y perygl i unrhyw feicwyr anghyfrifol sy'n beicio'n gyflym i lawr y bryn drwy'r
gatiau. Roedd yr Aelodau eisiau
gwybod a oedd
hi'n bosib agor y ddwy gât
ochr fel y byddai'n rhaid iddynt ddod oddi
ar eu beic
i basio. Holodd yr Aelodau a fyddai'r gatiau ar agor yn
ystod digwyddiadau coffa pwysig fel
Brwydr Prydain neu'r Cadoediad. Dywedodd Swyddogion mai adroddiad gweithdrefnol oedd hwn i ymgynghori
ar gael gwared
ar wahardd beicio. Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Teithio Llesol, byddai angen i Swyddogion sicrhau bod y prif gatiau'n aros
ar agor. Dywedodd Swyddogion na fydden nhw'n cael
cefnogaeth pe bai'n rhaid i feicwyr ddod oddi ar
eu beic wrth
y gatiau. Dywedodd Swyddogion y byddai swyddogion ar gyfer
gwasanaethau coffa yn atal y gorchymyn
ac yn cau ffyrdd i hwyluso'r digwyddiadau. Pe bai'r gatiau'n aros ar
agor, ar ôl y gwasanaethau, byddai torchau'n cael eu gosod
mewn ffordd na fydd yn
achosi rhwystr i'r beicwyr. Roedd yr Aelodau am gadw mewn cof
ei fod yn
gofeb ac i gadw pobl yn ddiogel. Dywedodd Swyddogion y gallai
fod modd ystyried arwyddion ychwanegol i wneud pobl yn ymwybodol
o'r angen i barchu'r cofebau wrth feicio heibio
ac i fod yn ofalus. Teimlai'r Cadeirydd fod y pwynt am barchu'r cofebau yn un da ac y byddai Aelodau o'r cyhoedd yn
gwerthfawrogi pe byddai'n cael ei adlewyrchu
yn yr ymgynghoriad. Gofynnodd yr Aelodau a oedd rhan ar
wahân o'r llwybr wedi'i neilltuo
ar gyfer beicwyr. Dywedodd Swyddogion fod y llwybr wedi'i ddylunio
felly mewn egwyddor, a bydd Swyddogion yn ymgynghori ymhellach
ar yr hyn
fydd y cynigion. Efallai y bydd rhannau ohono'n llwybr a rennir, ac efallai y byddant yn gallu cyflawni
llwybrau beicio a llwybr troed i gerddwyr ar wahân
mewn ardaloedd eraill. Ymgynghorir ar hyn yn y cam dylunio
manwl. Esboniodd Swyddogion mai rhan fach yn
unig o'r llwybr Teithio Llesol yw hwn. Gofynnodd yr Aelodau sut mae llwybrau
yn cael eu
nodi a'u blaenoriaethu. Nid oedd yr
Aelodau'n credu bod hyn yn flaenoriaeth
amlwg o'i gymharu â llwybrau eraill mewn mannau
eraill. Dywedodd Swyddogion fod y llwybr rhwydwaith mabwysiedig ar gyfer yr awdurdod
wedi nodi 500 o lwybrau. Nid oes canllawiau
clir bellach gan Lywodraeth Cymru na Thrafnidiaeth Cymru ar sut i flaenoriaethu'r
rhain. Ar hyn o bryd, mae
llwybrau blaenoriaeth uchel, isel a chanolig.
Mae Swyddogion yn aros am offeryn meddalwedd sy'n mynd i helpu awdurdodau
lleol i flaenoriaethu'r cynlluniau ymhellach. Esboniodd Swyddogion y byddant wedyn yn ceisio darparu'r rhain yn seiliedig ar ailasesu blaenoriaethu llwybrau gyda'r bwriad o sicrhau grantiau i gyflawni'r rheini. Bydd rhai cynlluniau yn cael eu cyflwyno ar wahanol gamau gan y gallai fod angen ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynodd yr Aelodau beidio â chraffu ar unrhyw eitemau preifat. |
|
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Penderfynodd
yr Aelodau beidio â chraffu ar unrhyw eitemau preifat. |