Lleoliad arfaethedig: Microsoft Teams Meeting/ Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd y Pwyllgor. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 372 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|||
Ystyried Argymhellion Gr?p Tasg a Gorffen Adolygu'r Strategaeth Gwastraff (I ddilyn) PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau drosolwg o'r adroddiad
a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor
Craffu gymeradwyo'r argymhellion yn adroddiad y Grŵp Tasg a Gorffen i Fwrdd Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet. Gofynnodd y Pwyllgor Craffu hefyd i’r Aelod
Cabinet perthnasol adrodd yn ôl i'r
Pwyllgor Craffu ar eu hymateb
i'r argymhellion. Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau a'r
swyddogion am eu hymdrechion yn ystod y Grŵp Tasg a Gorffen. Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Priffyrdd a Pheirianneg - Rhaglen
Waith 2023/2024 Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am y gwaith priffyrdd a pheirianneg i’w gyflawni ym
mlwyddyn ariannol 2023/24 a
gofynnwyd iddynt gymeradwyo'r rhaglen waith fel y’i
cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Gofynnodd y Cadeirydd am adroddiad
gan swyddogion i'w gyflwyno i'r
Pwyllgor Craffu sydd wedi’i drefnu
ar gyfer 26 Mai sy'n nodi'r meini
prawf a ddefnyddiwyd i asesu a blaenoriaethu’r
cynlluniau yn rhaglen waith priffyrdd
a pheirianneg fel a nodwyd yn yr
adroddiad. Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet. Rhaglen Caffael Cerbydlu a Pheiriannau Trwm 2023/24 Rhoddwyd gwybod i’r aelodau am y cais i gymeradwyo caffael
cerbydau a pheiriannau trwm newydd yn
2023/24. Yn ogystal â chymeradwyo awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol brynu cerbydau newydd ar gyfer 25/26 os daw unrhyw grantiau
ar gael i
gynorthwyo gyda phrynu cerbydau, fel y’i cyflwynwyd
yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd. Gofynnodd yr aelodau i adroddiad gael
ei gyflwyno yng nghyfarfod y dyfodol a fydd yn manylu ar
y ffigurau mewn perthynas â chaffael cerbydlu peiriannau a faint y mae'r cyngor wedi
ymrwymo iddo. Byddai hyn yn
rhoi dealltwriaeth i aelodau ar
gostau tendrau pan fyddant yn dod
i’r amlwg. Cytunodd y swyddogion i gyflwyno adroddiad
costau i aelodau bob hanner blwyddyn, fodd bynnag, dywedasant fod y farchnad gerbydau'n heriol ar hyn o bryd
gan fod cyflenwad
a galw’n effeithio ar gostau. Dywedodd
y swyddogion y byddai'r adroddiad yn dibynnu
ar gwblhau manylebau cerbydau a cheisio tendrau i ddarparu costau.
Roedd yr aelodau hefyd am gael diweddariad
ar isadeiledd gwefru cerbydau yn unol â chael
mwy o gerbydau trydan ac adroddiad am hyn. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai adroddiad yn cael
ei gyflwyno ac esboniwyd bod yr isadeiledd gwefru cerbydau yn gyfyngedig
ar hyn o bryd o amgylch adeiladau dinesig. Fodd bynnag, i
baratoi ar gyfer ehangu cerbydau
carbon isel y cerbydlu, dechreuwyd ar gontract
gwerth £1.6 miliwn i hwyluso'r broblem
a bydd yn ymdrin yn bennaf
â cherbydlu'r cyngor. Bwriedir cwblhau hyn erbyn diwedd
yr haf o fewn y flwyddyn ariannol hon. Dywedwyd wrth swyddogion hefyd y bydd Cwrt
Tregelles hefyd yn derbyn rhywfaint
o isadeiledd cerbydau trydan gan fod
yr awdurdod ar fin derbyn cerbydau
trydan i gefnogi gwasanaethau'r cyngor. Roedd yr aelodau hefyd am wybod pam fod yr adroddiad yn cyfeirio’n unig at y posibilrwydd o gael cerbydau trydan ar gyfer lorïau gwastraff. Trafodwyd y byddai adolygiad trafnidiaeth yn dechrau yn y flwyddyn ariannol hon, gyda chynllun 5 mlynedd o ran sut y bydd y cerbydlu’n cael ei ddatblygu a'i ehangu. Esboniodd swyddogion fod grantiau ar gael i helpu gyda'r gwahaniaeth mewn costau wrth newid o gerbydau diesel i gerbydau trydan er mwyn helpu i ddatgarboneiddio'r cerbydlu gwastraff erbyn 2030 a bod y swyddogion yn gobeithio pe bai’r cyngor yn penderfynu newid y cerbydlu gwastraff i gerbydlu trydan, y bydd Llywodraeth Cymru'n gallu cefnogi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||
Eitemau brys Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|||
Cofnodion: Nododd aelodau'r pwyllgor y Blaenraglen Waith. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Cofnodion: Cludiant o’r
cartref i’r ysgol I drafod y broses dendro mewn perthynas â chludiant o'r cartref
i'r ysgol, fel y nodwyd yn
yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Yn
dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad
gan Fwrdd y Cabinet. |