Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tom Rees E-bost: t.rees1@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd fod Aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar eitem 4(a) o Flaenraglen Waith y Cabinet, ac eitemau preifat 9a a 9b. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Datganodd y Cyng. G Rice gysylltiad personol ag Eitem 4a. Newidiadau i Fynediad i Barciau a Gerddi Ffurfiol. Mae'n un o ymddiriedolwyr Cyfeillion Parc Llansawel. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol I’r pwyllgor gymeradwyo
cywirdeb cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 04/11/24, 08/11/2024, 17/01/25 a 14/02/25. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 04/11/24, 08/11/2024, 17/01/25 a 14/02/25 fel cofnod cywir o'r trafodion. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: Ystyriodd yr aelodau eitem 4(a) o Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Newidiadau i Fynediad i Barciau a Gerddi Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Esboniodd James M Davies,
Rheolwr Gwasanaethau Cymdogaeth fod yr adroddiad hwn yn gwneud gwaith dilynol
ar yr adroddiad cychwynnol o ddiwedd 2024 a oedd wedi dechrau cyfnod prawf
pedwar mis. Dywedwyd wrth aelodau fod yr adroddiad yn cyflwyno adborth gan
randdeiliaid, staff a chyfarfodydd partneriaeth diogelwch cymunedol a
gynhaliwyd ar ddechrau ac ar ddiwedd y cyfnod prawf. Dywedwyd wrth yr aelod
mai'r cam nesaf yw symud ymlaen gyda phroses ymgynghori lawn. Disgwylir i'r
broses bara 8 wythnos gan ddechrau mewn ychydig wythnosau. Diolchodd y cadeirydd i'r
swyddogion ac aelodau'r cabinet am ystyried yr adborth o'r adroddiad cyntaf.
Nododd fod aelodau wedi awgrymu cynnwys proses ymgynghori yn ystod y cyfnod
prawf ond cytunwyd mai cynnal ymgynghoriad llawn yw'r opsiwn gwell erbyn hyn.
Roedd yn teimlo bod aelodau'n gwerthfawrogi'r ymagwedd hon. Gofynnodd aelodau a fyddai'r
gost o atgyweirio difrod i barciau'n fwy na'r arbedion o'u cloi. Os caiff
parciau eu difrodi, ai cloi nhw yw'r ateb gorau? Esboniodd swyddogion nad oeddent yn bwriadu i'r fenter fod yn fesur
arbed arian, er eu bod wedi nodi arbediad o £5000. Y prif reswm dros y fenter
oedd methiant aml o ran gweithrediadau cloi oherwydd natur y rôl ac anawsterau
gyda phobl yn aros yn y parciau dros nos. Roedd hyn wedi annog ystyriaeth o'r
fenter. Dywedodd swyddogion eu bod
wedi derbyn adborth a oedd yn nodi nad oedd cloi'r parciau'n fuddiol. Dywedodd
swyddogion eu bod yn bwriadu mynd i'r afael â phroblemau mewn parciau drwy roi
mesurau lliniaru ar waith yn hytrach na chloi gatiau. Bydd yn caniatáu i
swyddogion ailddyrannu adnoddau i wella gwaith cynnal a chadw ac archwiliadau
lleoedd chwarae yn ystod oriau gwaith rheolaidd. Gallai unrhyw arbedion gael eu
gwrthbwyso gan gost mesurau ychwanegol fel bolardiau. Gofynnodd aelodau a yw ailbennu ceidwaid symudol i leoedd chwarae yn
cynrychioli gostyngiad yn nifer y staff. Gofynnwyd hefyd, os byddai
fandaliaeth, a fyddai gweithwyr eraill ar gael i gloi gatiau os caiff y swyddi
ceidwaid symudol eu dileu. Esboniodd swyddogion na fyddai
lleihad yn nifer y staff. Y nod yw ailddyrannu adnoddau i wella arolygiadau a
gwaith cynnal a chadw yn lleoedd chwarae gan ddarparu gwell gwerth am arian.
Nid yw'r ceidwad symudol ar alwad ar hyn o bryd i ymdrin â fandaliaeth neu
faterion tebyg, ac ni fydd hyn yn newid os bydd y penderfyniad yn cael ei wneud
yn barhaol yn dilyn yr ymgynghoriad. Dywedwyd wrth yr aelodau fod
goruchwylwyr yn rheoli'r parthau gwahanol ar draws y fwrdeistref, a bydd hyn yn
parhau. Mae hefyd rota ar alwad i ymdrin â phroblemau diogelwch yn ystod
penwythnosau a chyda'r hwyr. Gofynnodd aelodau a fydd staff
ar gael o hyd i gloi'r parciau yn y dyfodol os oes angen. Esboniodd swyddogion fod angen iddynt ddeall yr angen i gloi parciau. Yn ystod y cyfnod prawf pedwar mis, roedd dros 50% o'r adborth yn ymwneud â Gerddi Fictoria, sydd â heriau unigryw oherwydd ei agosrwydd at ganol y ddinas a gweithgareddau gyda'r nos. Nododd yr heddlu effaith pan osodwyd y gatiau'n flaenorol. Yn wahanol i'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4a |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau wedi'u dewis o'r Flaenraglen Waith Craffu. |
|
Monitro Perfformiad Cofnodion: Nid oedd eitemau monitro perfformiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Roedd Mike Roberts, Pennaeth Gofal
Strydoedd, yn cydnabod bod y pwyllgor wedi rhoi llawer
o sylw i'r strategaeth wastraff, o dan stiwardiaeth Aelod y Cabinet Scott Jones, ac roeddent wedi bod yn ddiwyd wrth
gefnogi'r strategaeth a sicrhau ei bod yn gywir. Dywedodd
Mike Roberts ar ran ei hun, Chris Roberts y rheolwr gwasanaeth a Mike Jones y rheolwr
gwastraff gweithredol wrth y pwyllgor fod y cyngor wedi
cyflawni'r targed perfformiad o 70% a osodwyd gan Lywodraeth
Cymru. Y ffigur oedd 71.4% yn amodol ar
y dilysiad arferol gan Cyfoeth Naturiol
Cymru. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau, ers i Mike Roberts ddod yn bennaeth
y gwasanaeth 21 mlynedd yn ôl, mae
rheoli gwastraff wedi gwella o lai na 10% i 70%, diolch i ymdrechion preswylwyr a staff. Cydnabuwyd y newidiadau sylweddol hyn ac roedd yn obeithiol
ar gyfer gwelliannau pellach. Darperir adroddiad perfformiad ffurfiol yn fuan. Pwysleisiodd Mike Roberts y newidiadau sylweddol
wrth reoli gwastraff dros y 20 o flynyddoedd diwethaf, a rhoddwyd diolch i'r timau ailgylchu
a sbwriel am eu hyblygrwydd a'u gwaith caled. Nododd gyflwyno cerbydau a dulliau casglu newydd yn ogystal
â gwerthusiadau swyddi
staff. Canmolodd eu hymdrechion wrth gyflawni'r llwyddiant presennol. Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r swyddogion a'r aelodau am eu hymdrechion a chroesawodd y cynnydd a wnaed. Cydnabuwyd y trafodaethau helaeth a chylch gwaith eang y pwyllgor sy'n cynnwys materion fel parcio, cludiant rhwng y cartref a'r ysgol fel cyd-bwyllgor a chynigion adfywio. Tynnodd sylw at ba mor brysur oedd y pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf a nododd fod y newidiadau sydd ar ddod ar ôl Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor yn golygu y bydd dau bwyllgor newydd yn cymryd cyfrifoldeb dros waith y pwyllgor presennol. Ailadroddodd ei ddiolch i bawb a gymerodd ran. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad
i gyfarfodydd i benderfynu
a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitemau
canlynol yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion: Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Craffu ar Eitemau Preifat Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau eitem 9(a) a 9(b). |
|
Cyflwyniad am y Diweddaraf am Wild Fox
Cofnodion: 9a)
Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r cyflwyniad. |
|
Diweddariad Llafar am Iard Burrows Cofnodion: Yn dilyn craffu, nododd yr aelodau'r diweddariad. |