Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tom Rees E-bost: t.rees1@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd fod Aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar eitem 4(a) a 4(b) o Flaenraglen Waith y Cabinet, ac eitem Perfformiad 6(a). |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Er mwyn i'r Pwyllgor gymeradwyo cywirdeb cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31/01/25 a chyfarfod ar y cyd y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles/Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a'r Strydlun 12/02/25. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31/01/25 a chofnodion cyfarfod craffu ar y cyd y Pwyllgor Addysg, Sgiliau a Lles/Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun 12/02/25 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried eitemau o Flaenraglen Waith y Cabinet Cofnodion: Ystyriodd
yr Aelodau eitem 4(a) o Flaenraglen Waith y Cabinet. |
|
Mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd
Michael Roberts, Pennaeth Gofal Strydoedd, fod gan y cyngor bolisi am y mater
hwn. Mae'r tîm datgarboneiddio newydd am i'r cyngor fod yn fwy rhagweithiol,
felly mae'r adroddiad hwn yn awgrymu newid bach i gymryd rhan mewn treial os
yw'n bosib. Nododd
y Cadeirydd fod Aelodau wedi mynegi’r rhesymau dros beidio â chymryd rhan mewn
treial yn y cyfarfod craffu diwethaf, ac roedd yn falch bod y cyngor bellach yn
bwriadu cymryd rhan yn y treial. Nododd
yr Aelodau mai argymhelliad B yw dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd
ac Adfywio i benderfynu ar leoliad a manylion unrhyw gynllun peilot. Roedd yr
Aelodau eisiau craffu ar unrhyw gynllun peilot yn fanylach oherwydd
cymhlethdodau posib a gwrthddywediadau yn y ddogfen gwefru cerbydau trydan. Roedd
yr Aelodau'n teimlo bod y dewis sianel yn codi cwestiynau ynghylch perchnogaeth
tir a sut i reoli fflatiau a phalmentydd. Maent yn credu bod diffyg manylion
ynghylch parhau â'r cynllun peilot. Roedd
Aelodau hefyd yn teimlo bod y templed ar gyfer cytundeb yn amwys iawn. Mae
Aelodau'n credu y byddai preswylwyr mewn ardaloedd y cynllun peilot yn cefnogi
treial am ddim oherwydd argaeledd cynyddol cerbydau trydan, hyd yn oed os nad
ydynt yn berchen ar un ar hyn o bryd. Mae
Aelodau am drafod hyn eto yn y dyfodol unwaith y mae cynllun clir sy'n nodi
cynnwys y treial, yr ardaloedd dan sylw, a'r costau cysylltiedig. Gofynnwyd
i swyddogion a oeddent wedi amcangyfrif y gost o osod sianeli a phwy fyddai'n
ysgwyddo'r gost honno. Mae Aelodau'n credu y byddai'r rhan fwyaf o dai a
fyddai'n rhan o'r cynllun yn dai teras neu fflatiau sy'n cael eu meddiannu gan
bobl ar incymau llai fel arfer. Felly, os yw preswylwyr yn ysgwyddo'r gost,
bydd yn gost anodd ychwanegol iddynt. Mae
Aelodau o'r farn bod angen iddynt wybod yn gynnar, hyd yn oed cyn y cynllun
peilot, o ble y bydd y costau'n dod a sut y bydd y cyllid yn cael ei reoli. Dywedodd
Mike Roberts fod swyddogion yn cydweithio gyda chynghorau eraill ac yn arsylwi
ar dueddiadau ar draws y DU. Pwysleisiodd y byddai profiad uniongyrchol o'r
treial yn helpu i ateb cwestiynau. Maent yn disgwyl i'r treial fod ar raddfa
fach, a'r preswylwyr fydd yn talu'r costau fel arfer. Nododd
swyddogion fod Blaenau Gwent yn talu costau gosod ar gyfer nifer cyfyngedig o
aelwydydd yn ardal y treial, ac y gallai'r cyngor hwn ystyried gwneud hynny.
Mae'r gost derfynol yn dibynnu ar y datrysiad a ddefnyddir yn y treial. Er
enghraifft, mae'r datrysiad Kerbo Charge yn costio tua £1,000 fesul eiddo. Mae
buddsoddi mewn cyfleuster gwefru cartref yn cynnig y fantais o gostau uned is.
Mae gwefru gartref dros nos yn costio tua 7 ceiniog y kWh, ond gall pwyntiau
gwefru masnachol gostio hyd at 90 ceiniog y kWh. Felly, mae cael cyfleuster
gartref yn cynnig arbedion sylweddol ar gyfer gwefru cerbydau'n barhaus. Defnyddiodd yr Aelodau gynlluniau cwrbyn isel fel cymhariaeth gan ddweud bod rhai pobl yn talu am y cwrbyn, ond mae eraill yn dod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4a |
|
Adnewyddu'r cerbydlu a pheiriannau trymion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbysodd y Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth yr Aelodau
fod yr adroddiad wedi'i dynnu'n ôl o'r Cabinet oherwydd yr effeithiau ariannol
a amlinellir ym mharagraff 18. Roedd swyddogion wedi nodi diffygion mewn
adnewyddu gwasanaethau priffyrdd a draenio a phwysau refeniw parhaus, gan
gynnwys parciau a gwasanaethau cymdogaeth. Cynghorwyd yr Aelodau y bydd
swyddogion yn cwmpasu meysydd ychwanegol er mwyn darparu adroddiad cyfannol. Cynghorwyd yr Aelodau fod model costio lefel uchel hyd at
2032 wedi'i greu, gyda model adnewyddu 8 i 10 mlynedd wedi'i fwriadu i lywio'r
cynllun ariannol tymor canolig. Bydd swyddogion yn mireinio'r tair blynedd
nesaf o gostau i lywio'r buddsoddiad y bydd ei angen wrth symud ymlaen, ac
oherwydd anwadalrwydd yn y farchnad a cherbydau newydd. Bydd y gost 10 mlynedd
lefel uchel yn newid, ac ni all swyddogion fireinio costau dros y cyfnod o
ddeng mlynedd oherwydd anwadalrwydd yn y farchnad ar gyfer y tair blynedd
nesaf, a dyna'r rhesymeg dros dynnu'r adroddiad yn ôl ar hyn o bryd. Tynnwyd yr
adroddiad yn ôl. Mae swyddogion yn barod i drafod yr adroddiad ymhellach, a
bydd y pwyllgor yn gweld adroddiad wedi'i ddiweddaru maes o law. Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am y cyflwyniad a'r
manylion ychwanegol, yr oedd yr Aelodau'n eu gwerthfawrogi. Pwysleisiodd y
Cadeirydd bwysigrwydd craffu ar yr adroddiad oherwydd yr wybodaeth benodol a
manwl am y cerbydau a ystyriwyd ynddo, ac er mwyn deall pam y dewiswyd rhai
newidiadau neu beidio. Gofynnodd yr Aelodau am alinio cerbydau newydd ag amserlen y
llywodraeth i roi'r gorau i gynhyrchu cerbydau diesel a phetrol erbyn 2035.
Gofynnwyd a yw'r cyngor yn ystyried yr amserlen hon i sicrhau nad yw'n
buddsoddi mewn cerbydau a fydd yn hen ffasiwn neu nad ydynt yn cydymffurfio cyn
bo hir? Nod swyddogion yw alinio â thargedau Llywodraeth Cymru. Yn
Lloegr, mae targedau wedi'u hymestyn tan 2035 a thu hwnt. Yng Nghymru, y targed
ar gyfer trosglwyddo i gerbydau di-allyriadau yw 2030, gyda tharged o 2025 ar
gyfer faniau bach ac ysgafn, y mae'r cyngor ar y trywydd iawn i'w gyrraedd. Hysbyswyd yr Aelodau fod swyddogion yn wynebu heriau gyda'r
rhaglen adnewyddu, yn bennaf disodli cerbydau yn seiliedig ar warantau batri,
sy'n amrywio o bump i wyth mlynedd. Dros amser, gall dulliau prynu neu brydlesu
cerbydau newid, gan gynnwys prydlesu batris a gosod rhai newydd. Mae pryniannau ar gyfer y cerbydlu'n cynnwys ysgubwyr, sy'n
cael eu disodli bob pum mlynedd oherwydd defnydd trwm a materion dibynadwyedd
gyda modelau trydan. Mae cerbydau sbwriel ac ailgylchu'n cael eu disodli bob
saith mlynedd, neu bob wyth mlynedd os ydynt yn rhai trydan, gan alinio â
gwarantau batri. Mae cerbydau eraill yn cael eu disodli bob naw mlynedd. Hyd at 2014, roedd pob cerbyd yn cael ei ddisodli bob saith
mlynedd. Mae pwysau ariannol wedi arwain at ymestyn hyn i naw mlynedd, gan
gydnabod bod angen mwy o waith cynnal a chadw ac atgyweirio wrth i gerbydau
heneiddio. Roedd Aelodau'n falch o weld bod amserlenni'n cael eu hystyried ac roeddent eisiau osgoi prynu neu brydlesu cerbydau a all fod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4b |
|
I Ystyried Eitemau o Raglen Waith y Pwyllgor Craffu Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau wedi'u dewis o'r Flaenraglen Waith Craffu. |
|
Monitro perfformiad Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau eitem monitro perfformiad 6A. |
|
Cynllun Corfforaethol - Monitro Perfformiad Chwarter 3 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Aelodau'n teimlo bod yr wybodaeth yn yr adroddiad yn
brin ac yn tynnu sylw at ddiffyg gwybodaeth hyd yn oed gyda'r ychwanegiadau
cyhoeddedig. Roedd yr Aelodau'n siomedig i weld nad oes sôn am Lwybr
Arfordir Cymru ar yr adran sy'n ymwneud â'r hawliau tramwy cyhoeddus. Eglurodd Ceri Morris, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r
Cyhoedd, nad yw Llwybr Arfordir Cymru yn hawl tramwy cyhoeddus fel y'i
diffinnir gan y gyfraith a'i fod yn llwybr caniataol y gall pobl gerdded a
beicio ar ei hyd yn y bôn. Mae'radroddiad yn canolbwyntio ar yr hawliau tramwy
cyhoeddus ac mae'r tri phwynt bwled yn enghreifftiau o'r gwaith a wnaed ar
draws y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn ystod y flwyddyn adrodd. Bydd swyddogion yn ystyried yr adborth a gallant gyfeirio at
Lwybr Arfordir Cymru a'i gynnydd mewn adroddiadau chwarterol yn y dyfodol. Cytunodd yr Aelodau y dylid ei gynnwys oherwydd ei fod yn
llwybr a ddefnyddir yn dda ac mae cau rhan ohono bellach yn golygu nad yw'n
cael ei ddefnyddio'n dda iawn. Gofynnodd yr Aelodau beth yw'r meini prawf ar gyfer amnewid
cysgodfannau bysiau mewn perthynas â'r rhaglen newid. Cynghorodd swyddogion mai'r prif ffactor ar gyfer newid
cysgodfannau bysiau yw eu cyflwr. Mae newidiadau mewn amodau ffyrdd a safonau
iechyd a diogelwch hefyd wedi arwain at adleoli rhai ohonynt. Nid yw rhai
pwyntiau glanio bellach yn ddigonol ac mae angen eu symud. Ar hyn o bryd, mae
38 allan o 40 o gysgodfannau newydd yn y rhaglen bresennol wedi'u cwblhau,
gyda'r ddau arall wedi'u trefnu ar gyfer y mis hwn. Mae'r fenter hon yn rhan
o'r Rhaglen 'Clean Up, Green Up' a'r Rhaglen Gwaith Ychwanegol, y cytunwyd
arnynt ym mis Rhagfyr 2022. Yn ogystal, mae un cysgodfan fysiau arall yn cael
ei ddisodli a'i adleoli er diogelwch cerddwyr. Dywedodd Aelodau fod rhai cysgodfannau mewn cyflwr gwael
iawn yn eu wardiau ac y bu angen eu disodli ers dros 10 mlynedd. Maent yn
gobeithio y bydd y rhai newydd hyn yn cael eu cynnwys yn y rownd nesaf os yn
bosib. Cynghorodd swyddogion fod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn
bwriadu uwchraddio isadeiledd ar draws y rhwydwaith bysiau cyfan fel rhan o'r
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae hyn yn cynnwys adolygiad rhanbarthol sy'n
gysylltiedig â masnachfreinio bysiau i wella isadeiledd a mynediad at
gysgodfannau bysiau, nid yn unig yng Nghastell-nedd Port Talbot ond ar draws y
rhanbarth. Mae'r cynllun yn cynnwys ychwanegu cyrbau isel ar hyd
llwybrau i sicrhau llwybrau hygyrch i gysgodfannau bysiau. Yn ogystal, mae
rhaglen i weithredu gwybodaeth i deithwyr mewn amser go iawn. Mae rhai
buddugoliaethau cyflym eisoes wedi'u cyflawni lle mae cyflenwadau pŵer ar
gael mewn cysgodfannau bysiau. Y bwriad yw cyflwyno'r gwelliannau fel rhan o
raglen ranbarthol gyda chymorth grant, gyda gwelliannau isadeiledd pellach yn
ddisgwyliedig yn y blynyddoedd i ddod. Nododd yr Aelodau fod llawer o gynlluniau grant yn hanesyddol wedi canolbwyntio ar goridorau strategol, yn aml yn esgeuluso cymunedau'r cymoedd neu lwybrau bysiau eilaidd. Awgrymwyd adolygu'r rhaglen gyffredinol i benderfynu pa grant y bydd cyllid a gwaith rhanbarthol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6a |
|
Dewis eitemau i graffu arnynt yn y dyfodol · Blaenraglen Waith y Cabinet
ar gyfer 24/25 · Blaenraglen Waith y
Pwyllgor Craffu ar gyfer 24/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys, fodd bynnag, nododd y
Cadeirydd fod David Griffiths yn ymddeol, a dyma oedd ei gyfarfod craffu olaf.
Diolchodd y Cadeirydd iddo am ei gyfraniad i'r Pwyllgor a'r cyngor, gan
gydnabod ei bwysigrwydd fel Pennaeth Gwasanaeth, a dymunodd yn dda iddo yn ei
ymddeoliad. Dywedodd yr Aelodau ei fod yn swyddog a Phennaeth Gwasanaeth
ardderchog, a'i fod yn gwrtais ac yn addysgiadol ac nid oedd erioed wedi osgoi
ateb cwestiwn. Diolchodd yr Aelodau iddo am ei gymorth a nodwyd pa mor dda
oedd yn cynnal yr adran. Diolchodd David Griffiths i'r Aelodau a'r Cadeirydd am eu
geiriau caredig iawn a dywedodd ei fod wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd.
Dywedodd ei fod wedi mwynhau ei amser gyda'r cyngor yn fawr dros y 35 mlynedd
diwethaf a dymunodd bob llwyddiant i'r Pwyllgor Craffu a'r cyngor yn y dyfodol. Nododd fod y broses graffu yn bwysig iawn ac yn gwneud
gwahaniaeth gwirioneddol wrth wella a llunio polisïau'r cyngor er budd yr holl
gymunedau. |